Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-2021.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Steve Heard Is-gadeirydd y Grŵp Llywio ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 240 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Grŵp Llywio a gynhaliwyd

ar 21 Medi 2020 fel cofnod cywir.

4.

Y diweddaraf am Barc Gwledig Dyffryn Clun. (Chris Lindley) pdf eicon PDF 288 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE, adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Barc Gwledig Dyffryn Clun. Yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod blaenorol, amlinellwyd materion sy'n effeithio ar reoli'r Parc, yng nghyd-destun presennol COVID-19 ac yn y tymor hir, ynghyd â’r mentrau a fu a’r gwaith a wnaed yn yr ardal, gan gynnwys: -

 

·       Adeiladu Llwybrau Defnydd a Rennir (SUP) gan ddefnyddio llwybrau ceffyl presennol drwy'r Parc Gwledig – wedi'u hariannu gan grant Teithio Llesol;

·       Gwaith cadwraeth i'r Tŵr Iorwg – rhan o Heneb Gofrestredig Gwaith Arsenig Clun;

·       Gwaith gyda Phrosiect Cymunedol Dyffryn Clun a Thîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe i ddatblygu gwelliannau mynediad ehangach, dehongliadau a chadwraeth treftadaeth arall;

·       Asesiad o ddifrod i Heneb Gofrestredig Twmpathau Siafftiau Dyffryn Clun yn sgîl adeiladu heb awdurdod a defnyddio traciau beicio mynydd;

·       Cynigion gan bartïon eraill ar gyfer datblygu 'Parc Beicio Trefol'.

 

Diweddarwyd y Grŵp Llywio mewn perthynas â'r prosiectau cyfredol a restrir uchod a chynhaliwyd trafodaethau ynglŷn â'r canlynol: -

 

·       Diffyg cyfathrebu ac ymgynghori ynglŷn â'r cynigion Teithio Llesol;

·       Diffyg cynllun/rheolaeth gyffredinol mewn perthynas â'r Parc Gwledig, diffyg gwybodaeth yn lleol a gwaith sy'n cael ei wneud ar sail ad hoc;

·       Sut roedd pandemig COVID-19 wedi cynyddu'r defnydd o'r Parc Gwledig yn sylweddol, sut roedd mwy o bobl yn ymwybodol o'r cyfleusterau oedd ar gael ac effaith mwy o ddefnydd ar y Parc Gwledig;

·       Rhannu’r defnydd o lwybrau/llwybrau ceffyl/llwybrau beicio, cyflwyno gwell arwyddion, defnyddio'r arwynebau cywir, cyfleu unrhyw newidiadau i'r bobl/sefydliadau priodol a gwella llwybrau yn y dyfodol er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng defnyddwyr;

·       Cynnal y Parc Gwledig yn briodol mewn modd strwythuredig a threfnus;

·       Sut roedd gan adrannau/is-adrannau amrywiol yng Nghyngor Abertawe gyfrifoldebau yn y Parc Gwledig/yn Nyffryn Clun a'r angen am fwy o gydlynu;

·       Ardaloedd y Parc Gwledig sydd o fewn ffin yr AoHNE;

·       Cydlynu cynllun rheoli a siom nad oedd cynllun wedi'i drefnu o'r blaen;

·       Pryder ynglŷn â'r broses o wneud gwaith heb ymgynghori a sut roedd y broses yn gweithio mewn gwirionedd gydag arian yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i ariannu cynlluniau Teithio Llesol y cyngor;

·       Pryder ynghylch y modd yr oedd y system yn cael ei thrin gan y cyngor er mwyn cyflawni’i nodau heb ymgynghoriad ystyrlon a gafodd ymateb andwyol o ran y cynigion Teithio Llesol yn Mayals Road a goblygiadau defnyddio ymagwedd debyg at brosiectau ar Benrhyn Gŵyr.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r trafodaethau.

5.

Adroddiad Porth Einon. (Chris Lindley) pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr Nodyn Briffio a gafodd ei ddosbarthu i'r Cynghorau Cymuned perthnasol, y Cynghorydd Richard Lewis a chysylltiadau cymunedol eraill ddydd Gwener 20 Tachwedd. Rhoddodd y papur briffio'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y prosiect ym Mhorth Einon a oedd yn cynnwys manylion cefndir, yr ystyriaethau sy'n deillio o'r astudiaeth ddichonoldeb a'r camau sy'n cael eu cymryd.

 

Roedd hyn yn cynnwys penodi penseiri - 'Rural Office for Architecture Ltd' gan Gyngor Abertawe i ddatblygu Cynllun Cysyniad ar gyfer codi adeilad traeth/canolfan gymunedol newydd ym Mhorth Einon. Cefnogwyd y comisiwn gan grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy a dechreuodd y gwaith ar 23 Tachwedd 2020 a byddai'n cynnwys cynnal arolwg rhagarweiniol, gwaith asesu yn y maes parcio ym Mhorth Einon a'r wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio yn y datblygiad dylunio.

 

Ychwanegwyd bod ymgysylltu ac ymgynghori â'r gymuned yn allweddol i gael canlyniad dylunio llwyddiannus ac roedd y cyngor am hysbysu rhanddeiliaid/y gymuned a chynnal eu diddordeb yn y cynigion. O ystyried cyfyngiadau COVID-19, byddai rhai dulliau ymgynghori ar-lein yn cael eu defnyddio. Yn ogystal â hyn, byddai ymweliadau safle neu gynulliadau grwpiau bach yn cael eu trefnu i drafod y prosiect a chyflwyno cynigion ar gamau allweddol. Bwriadwyd i'r rhain ddechrau’n gynnar ym mis Rhagfyr.

 

Trafodwyd y canlynol gan y Grŵp Llywio: -

 

·       Cyfathrebu'n effeithiol â'r gymuned ehangach o gwmpas Porth Einon a Horton a'r nodau ar gyfer ymgynghori ehangach yn y dyfodol;

·       Y teimlad yn y gymuned leol fod y cynlluniau eisoes wedi'u cytuno heb eu mewnbwn hwy a bod y prosiect yn dechrau;

·       Sut yr oedd y cyngor wedi ymgysylltu'n ddiweddar â Chynghorau Cymuned Porth Einon a Phenrhys ynghylch cynnydd, yr angen i roi adnodd ar waith i allu ymgysylltu, yr angen i logi penseiri proffesiynol i symud ymlaen i'r cyfnod datblygu a'r briff a roddwyd i'r pensaer ynghylch adeilad bloc y toiledau;

·       Y ffaith bod y gymuned wedi bod yn ymwybodol o'r prosiect arfaethedig ers cryn amser a'r adborth cadarnhaol a gafwyd mewn perthynas â'r cynigion;

·       Ariannu'r prosiect drwy gyllid cyfalaf yr oedd yn ofynnol i ddyluniadau allu datblygu er mwyn ei gael, ac felly’r cyswllt â'r pensaer;

·       Mater rheoli traffig ym Mhorth Einon oherwydd y ffordd fynediad gul iawn i'r pentref a sut y gofynnwyd i'r pensaer gadw materion mynediad mewn cof wrth ddylunio'r adeilad cymunedol;

·       Y ffaith bod Porth Einon wedi'i nodi ar gyfer datblygiad priodol ar raddfa fach gan gynnwys cyfleusterau cymunedol a bod y polisi hwn wedi'i gynnwys yn y CDLl a'r CDU ers dros 20 mlynedd, ffaith y dylai'r Cyngor Cymuned fod wedi bod yn ymwybodol ohono ac wedi hysbysu’i breswylwyr yn ei gylch, a sut roedd Cyngor Abertawe wedi ymgysylltu'n helaeth ar y ddau gynllun;

·       Roedd Cyngor Abertawe wedi cyflogi penseiri i wella’i adeilad/tir ei hun ym Mhorth Einon ac roedd angen cynlluniau i'w alluogi i ymgysylltu â'r gymuned a chaniatáu i drigolion/busnesau lleol gael mewnbwn.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad diweddaru a'r trafodaethau.

6.

Materion Cymdeithas Gwyr. (Gordon Howe) pdf eicon PDF 37 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Gordon Howe, cynrychiolydd Cymdeithas Gŵyr, adroddiad a oedd yn amlinellu’n gyntaf yr Achos dros Gyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer The Vile, Rhosili ac yn ail, yn tynnu sylw at yr angen i Warchod Coed o fewn AoHNE Gŵyr.

 

·       Yr Achos dros Gyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer The Vile, Rhosili

 

Esboniwyd y cefndir sy'n gysylltiedig â sefydlu uned arlwyo dros dro, heb fod unrhyw gais cynllunio'n ofynnol, yng nghanol yr ardal hanesyddol, a adwaenir fel The Vile, gan gynnwys yr hawl gyfreithiol o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 - Rhan 4 - Adeiladau a Defnyddiau Dros Dro - Dosbarth B i gael uned o'r fath am gyfanswm o 28 o ddiwrnodau yn y flwyddyn galendr.

 

Amlinellwyd pryderon Cymdeithas Gŵyr a Chyngor Cymuned Rhosili, yn enwedig eu pryder y byddai cymhlethdodau a difrod i'r dirwedd. Esboniwyd bod system gaeau The Vile yn Rhosili yn Dirwedd Hanesyddol Gofrestredig o Bwysigrwydd Eithriadol yng Nghymru. Darparwyd ffotograff o The Vile yn Atodiad A.

 

Ychwanegwyd bod Cymdeithas Gŵyr wrthi'n ymchwilio gydag eraill, y posibilrwydd o gael Cyfarwyddyd Erthygl 4 i atal datblygiad amhriodol o'r fath yn y dyfodol ac yn ceisio barn y Grŵp Llywio.

 

Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynigion.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r trafodaethau.

 

·       Gwarchod Coed o fewn AoHNE Gŵyr

 

Yn dilyn trafodaethau a gynhaliwyd mewn cyfarfod blaenorol o'r Grŵp Llywio, tynnodd Cymdeithas Gŵyr sylw at y diffyg amddiffyniad ymddangosiadol a roddwyd i goed o fewn yr AoHNE a'i chyrion. Ychwanegwyd y darparwyd amddiffyniad o fewn SoDdGA a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, er mai ychydig iawn o goed a warchodwyd gan Orchmynion Cadw Coed penodol.

 

Esboniwyd barn y Gymdeithas mewn perthynas â'r rheoliadau cyfredol a weinyddir gan Gyngor Abertawe a CNC a darparwyd enghreifftiau o waith cymynu coed yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Yn ymateb Cymdeithas Gŵyr i'r Drafft Ymgynghori ar Goed, Gwrychoedd a Choetiroedd ar Safleoedd Datblygu ym mis Medi 2020, tynnwyd sylw at y diffyg amddiffyniad a roddwyd i'r AoHNE. Yn ogystal â hyn, eglurwyd y byddai colli coed yng Ngŵyr oherwydd Clefyd Coed Ynn ac effaith eu torri ar dirwedd Gŵyr yn amlwg cyn bo hir.

 

Awgrymodd Cymdeithas Gŵyr y dylid gwneud arolwg cyflawn o'r holl goed a rhoi amddiffyniad addas lle bynnag y bo'n briodol. Ychwanegwyd bod yn rhaid plannu rhagor o goed hefyd er mwyn gwneud iawn am golli coed ynn a helpu i fynd i'r afael â materion newid yn yr hinsawdd.

 

Trafododd y Grŵp Llywio'r manylion yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y bydd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn tynnu sylw Cymdeithas Genedlaethol yr AoHNE at y mater ac yn adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf a drefnwyd.

7.

Y diweddaraf am Gefn Bryn. (Chris Lindley) pdf eicon PDF 211 KB

Cofnodion:

Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd ar Gefn Bryn.

 

Eglurwyd, yn dilyn y diweddariad llafar ar y materion parcio yng Nghefn Bryn yn y cyfarfod blaenorol ym mis Medi 2020, fod yr Is-gadeirydd (Steve Heard) ac Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr (Chris Lindley) wedi cael cyfarfod ar-lein ar 8 Hydref 2020 gydag Alan Ferris (Priffyrdd Cyngor Abertawe) a Bob Griffiths (Cominwyr Cefn Bryn).

 

Canlyniad y cyfarfod hwnnw oedd cynllun diwygiedig cytunedig a fydd yn gwneud y canlynol:

 

·       ehangu’r byndiau priffyrdd arfaethedig tua'r dwyrain o'r ardal barcio – o 50m i 200m;

·       cynnwys atgyweiriad bach ac aunigol i fyndiau ar ochr ddeheuol y briffordd, er mwyn rhwystro mynediad i gerbydau ar y rhan honno o'r comin.

 

Ychwanegwyd bod cyllid grant ar gyfer y cynigion wedi'i gadarnhau. Roedd priffyrdd yn gweithio ar y costau diwygiedig i'r prosiect a'r manylebau. Roedd disgwyl i'r gwaith gael ei raglennu a'i roi ar waith cyn diwedd Mawrth 2021.

 

Roedd Tîm AOHNE Gŵyr wedi ysgrifennu at y tirfeddiannwr i gael ei sylwadau ar y cynigion. Gan fod Cefn Bryn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), byddai Tîm AoHNE Gŵyr hefyd yn cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael Hysbysiad o Gydsyniad o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).

 

Byddai diweddariad pellach yn cael ei roi yng nghyfarfod nesaf Grŵp Llywio'r AoHNE.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y diweddariad.

8.

Canllaw Dylunio AoHNE. (Paul Meller) pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Paul Meller, Rheolwr Is-adran yr Amgylchedd Naturiol adroddiad a oedd yn darparu canllawiau cynllunio atodol i gefnogi polisïau cynllunio a gynhwyswyd yng Nghynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl). Y diben oedd darparu arweiniad ynghylch sut y dylid cymhwyso polisïau perthnasol y CDLl er mwyn helpu i benderfynu ar geisiadau cynllunio o fewn yr AoHNE. 

Ychwanegwyd bod y Canllaw Dylunio cyntaf wedi'i fabwysiadu fel CCA i Gynllun Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe sydd bellach wedi'i ddisodli (2008). Mae'r Canllaw diwygiedig yn ystyried y newidiadau mwyaf diweddar i'r cyd-destun cynllunio deddfwriaethol a strategol a oedd wedi codi ar lefel genedlaethol a lleol. Roedd hyn yn cynnwys Cynllun Rheoli Diweddaraf Gŵyr (2017) a fersiynau diwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol ategol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyngor Abertawe drwy fis Medi a mis Hydref 2020 a oedd yn ceisio barn ynghylch a oedd y ddogfen yn ymdrin ag ystod briodol o faterion cynllunio ac yn darparu digon o eglurder i ymgeiswyr a'r sawl sy’n penderfynu ar yr egwyddorion pwysig sy'n llywodraethu datblygiad ym Mhenrhyn Gŵyr.

 

Roedd y rhan fwyaf o'r sylwadau a dderbyniwyd yn gadarnhaol, a mân newidiadau’n unig a awgrymwyd er mwyn gwella eglurder. Yn arbennig, awgrymwyd y dylid defnyddio ffotograffau a delweddau mwy priodol a gofynnwyd am y rhain ar gyfer fersiwn derfynol y ddogfen.

 

Gan nad oedd unrhyw ddiwygiadau sylweddol wedi'u nodi o'r sylwadau a gafwyd sy'n golygu bod angen ailddrafftio ac ailymgynghori, cynigiwyd cyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'r ddogfen i'r Pwyllgor Cynllunio yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd i'w mabwysiadu.

 

Soniodd y Grŵp Llywio am y gwaith gwych a wnaed gan Swyddogion y cyngor wrth lunio'r dogfennau mewn cyfnod mor fyr.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

9.

Llwybrau Beicio yng Ngwyr. (John France) pdf eicon PDF 274 KB

Cofnodion:

Darparodd John France adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynllun i greu rhwydwaith beicio ar draws Penrhyn Gŵyr, a dynnodd sylw'n arbennig at y cynigion yn Mayals Road a Choedwig Clun.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad oherwydd y materion sy'n cael eu trafod yng nghofnod rhif 4.

 

10.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy. (Er gwybodaeth) (Mike Scott) pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad cyllidebol cryno o Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC).

 

Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb CDC ar gyfer 2020/21 fel £100,000. Roedd 12 o brosiectau wedi’u cymeradwyo ar hyn o bryd gyda chyllid CDC ar gyfer 2020/21 a rhagwelwyd 3 chais pellach cyn bo hir.

 

Caiff prosiectau eraill eu cyflwyno yn ystod 2020/21 i neilltuo’r arian yn llawn. Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi'u neilltuo'n cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000 (10%).

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£100,000

Cronfeydd sydd wedi’u neilltuo

£80,065

Cronfeydd heb eu neilltuo

£19,935

Ceisiadau ar waith

£11,000

 

Nid oedd y gyllideb ar gyfer 2021/22 wedi'i chadarnhau, ond disgwylir y bydd yn £55,000. Roedd pedwar prosiect wedi'u cymeradwyo, gyda £25,650 wedi'i neilltuo a £29,350 heb ei neilltuo ar hyn o bryd.

11.

Fformat cyfarfodydd y dyfodol. (Llafar) (Steve Heard)

Cofnodion:

Er bod cyfarfodydd wedi bod ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, tynnodd Steve Heard sylw at y ffaith ei fod yn gobeithio'n fawr y byddai cyfarfodydd corfforol yn ailddechrau unwaith y byddai'r cyfyngiadau wedi'u codi.

 

Roedd consensws y dylai cyfarfodydd y Grŵp Llywio ddychwelyd i gyfarfodydd corfforol pan fo hynny'n bosibl.

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd â'r materion a godwyd a thynnodd sylw at y ffaith y byddai'r cyngor yn dilyn canllawiau cyfreithiol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.