Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo
cofnodion cyfarfod blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2020 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Cyfoeth Naturiol Cymru Cyllid Grant. PDF 103 KB Cofnodion: Dywedodd Mike Scott,
Swyddog AoHNE Gŵyr fod yr Adroddiad Blynyddol i Cyfoeth Naturiol Cymru
(CNC) am ei gefnogaeth grant ar gyfer AoHNE Gŵyr wedi'i gyflwyno ar 4 Medi
2020, fel rhan o'r broses adrodd flynyddol. Dosbarthwyd copi o'r adroddiad i
aelodau'r Grŵp Llywio. Ychwanegwyd bod y grant wedi'i ddarparu dan Raglen Partneriaeth AoHNE
Gŵyr 2018-21, a oedd yn cynnig 75% o gyllid (hyd at £216,671) dros dair
blynedd. Ei nod oedd cefnogi rhoi Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr ar waith. Yn 2019/20, cyfanswm y grant a dalwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru oedd
£72,223, gyda'r prosiect yn cael ei rannu rhwng y Timau AoHNE, Hawliau Tramwy,
Timau Cadwraeth Natur a Pholisi Cynllunio. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Ymgynghoriad Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft. PDF 210 KB Cofnodion: Adroddodd Swyddog AoHNE Gŵyr fod Cyngor Abertawe, fel rhan o'i waith i
ddatblygu Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) cyfredol, yn cynnal ymarfer
ymgynghori ac ymgysylltu a oedd yn ymwneud â'r dogfennau Canllawiau Cynllunio
Atodol Drafft canlynol: · Canllaw Dylunio AoHNE Gŵyr Diwygiedig · Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd ar Safleoedd
Datblygu ·
Datblygu a Bioamrywiaeth Roedd y
dogfennau'n rhoi arweiniad ynghylch sut y dylid defnyddio polisïau perthnasol
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Abertawe i helpu i benderfynu ar geisiadau
cynllunio a gyflwynir i'r awdurdod yn y dyfodol. Roedd y cyngor am gael barn y cyhoedd ynghylch a oedd dogfennau CCA drafft
yn cynnwys amrywiaeth priodol o faterion cynllunio ac a oedd yn ddigon eglur
i'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau, ymgeiswyr a'r holl bartïon eraill o
ddiddordeb. Roedd yr ymgynghoriad bellach yn fyw a bydd yn
agored tan 5pm ddydd Gwener, 16 Hydref 2020. Ychwanegwyd y byddai tri chyflwyniad byr yn amlinellu'r CCA drafft yn cael eu
rhoi gan staff Cynllunio Strategol ar 23 Medi 2020 ac y byddai aelodau'r
Grŵp Llywio yn derbyn e-bost a oedd yn cynnwys dolen er mwyn cymryd rhan. Roedd Ruth Henderson, Uwch Swyddog Cynllunio, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod
a chyflwynodd y dogfennau Canllawiau Arweiniad Atodol Drafft i'r Grŵp
Llywio ac atebodd gwestiynau a ofynnwyd. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Diweddariad Porth Einon ac Horton. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, adroddiad diweddaru
ar astudiaeth ddichonoldeb Porth Einon a Horton. Darparodd gefndir i'r gwaith a wnaed eisoes a
chyflwynwyd y materion a'r cyfleoedd allweddol ar gyfer gwaith datblygu yn
Ffigur 1 yr adroddiad. Ychwanegwyd bod Partneriaeth AoHNE Gŵyr a Chyngor Abertawe yn datblygu
argymhellion yr adroddiad wrth fynd ymlaen. Roedd y Panel Cronfa Datblygu
Cynaliadwy wedi dyfarnu grant a oedd yn galluogi Cyngor Abertawe i gomisiynu
cynllun o welliannau manwl a oedd wedi'u prisio i gyfleusterau ymwelwyr ac
isadeiledd cyhoeddus yn y tymor byr. Byddai'r comisiwn hefyd yn datblygu'r
argymhelliad buddsoddi cyfalaf tymor canolig ar gyfer adeilad traeth/canolfan
gymunedol newydd. Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Ffynonellau cyfalaf/arian grant sydd ar gael i wneud y
gwaith; ·
Amserlen yr astudiaeth ragarweiniol; ·
Amserlen gyffredinol ar gyfer cwblhau'r prosiect cyfan y
gobeithiwyd y byddai'n cael ei gwblhau mewn 5 mlynedd; ·
Sut y byddai manylion y prosiect yn gliriach ym mis
Mawrth 2021; ·
Delio â'r arwyddion a phroblemau'r llwybr estyll yn y
tymor byr; ·
Sicrhau bod swyddogaeth unrhyw adeilad newydd yn cael ei
sefydlu oherwydd y bydd yn llywio'r dyluniad yn y pen draw; ·
Bydd angen i adeilad yn y lleoliad sensitif hwn fod o
ddyluniad sensitif ac o safon uchel. Penderfynwyd nodi cynnwys
yr adroddiad. |
|||||||||
Cronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 106 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad cyllidebol cryno o Banel y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy (CDC). Amlinellwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2020/21 fel
£100,000. Ar hyn o bryd
cymeradwywyd 12 prosiect gyda chyllid CDC ar gyfer 2020/21, gydag 1 cais yn
cael ei asesu ar hyn o bryd a rhagwelwyd 3 chais pellach yn fuan. Caiff prosiectau
eraill eu cyflwyno yn ystod 2020/21 i ddyrannu'r arian yn llawn. Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi'u
neilltuo'n cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000 (10%).
Nid oedd y
gyllideb ar gyfer 2021/22 wedi'i chadarnhau, ond disgwylir iddi fod gwerth
£55,000. Roedd dau brosiect wedi'u cymeradwyo, gyda £25,500 wedi'i neilltuo a
£29,500 heb ei neilltuo ar hyn o bryd. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Materion Cymdeithas Gwyr. PDF 104 KB Cofnodion: Oherwydd bod
Cynrychiolydd Cymdeithas Gŵyr yn colli cysylltiad â'r cyfarfod, cytunwyd y
dylid gohirio'r eitem Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod nesaf a drefnwyd. |
|||||||||
Parc Gwledig Dyffryn Clun. Cofnodion: Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru llafar ar y
cynnydd a wnaed mewn perthynas â Pharc Gwledig Dyffryn Clun. Amlinellodd fod yr awdurdod wedi derbyn grant Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd
Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r Parc Gwledig. Ychwanegodd ei
fod ef a Swyddog AoHNE Gŵyr wedi cyfarfod â Cadw, ac wedi trafod adfer,
sefydlogi, gwelliannau i Dŵr Iorwg, Gorsaf Cilâ yn ogystal â gwelliannau
mynediad. Byddai rhai cyfleoedd ariannu
ar gael hefyd gan Cadw. Ar ben hynny, roedd y Tîm AoHNE wedi cael y gwaith o gydlynu
gweithgareddau'r cyngor o fewn y Parc Gwledig yn y dyfodol. Penderfynwyd cyflwyno adroddiad yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|||||||||
Parcio yng Nghefn Bryn. Cofnodion: Darparodd Arweinydd
Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru cynnydd ar lafar. Dywedodd y gellid cwblhau'r prosiect, y
dyfarnwyd arian grant Tiroedd Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru
iddo, yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, yn amodol ar gytundeb. Ychwanegodd mai'r
cam nesaf fyddai amlinellu'r cynigion gyda Phriffyrdd a Chominwyr Gŵyr er
mwyn cytuno ar ateb dylunio gwell. Penderfynwyd cyflwyno adroddiad diweddaru yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|||||||||
Cyflymder Traffig ar Benrhyn Gwyr. Cofnodion: Gofynnodd yr
Is-gadeirydd am yr wybodaeth ddiweddaraf am draffig sy'n gyrru'n rhy gyflym ar
benrhyn Gŵyr. Penderfynwyd cyflwyno adroddiad yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|||||||||
Cyfarfod y Parc Cenedlaethol ac AoHNE. Cofnodion: Dywedodd
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ei fod wedi cael gwahoddiad, gan Weinidog
Llywodraeth Cymru i gyfarfod â'r holl Barciau Cenedlaethol ac AoHNE ddiwedd mis
Medi 2020. Byddai'r cyfarfod yn trafod yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y
pandemig, yr effaith ar gymunedau, y gwersi a ddysgwyd ac atebion cynaliadwy. |