Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod
blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019 fel
cofnod cywir. |
|||||||||
Cynllun Rheoli AoHNE Gwyr - Y Newyddion diweddaraf. PDF 317 KB Cofnodion: Darparodd Chris Lindley,
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, adroddiad diweddaru ynghylch cynnydd Cynllun
Rheoli AoHNE Gŵyr. Darparwyd
manylion am gynnydd is-grŵp Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr a'r broses
adolygu a'r amserlen a adolygwyd. Dywedwyd hefyd fod yr amserlen yn amlinellu'r
broses a'r allbynnau sydd eu hangen i gael cynllun rheoli mabwysiedig a
adolygwyd erbyn mis Mawrth 2022 (5 mlynedd ers mabwysiadu'r un presennol) ar ôl
rhywfaint o oedi oherwydd COVID-19. Roedd yr amserlen yn rhoi syniad bras o'r
hyn a oedd yn ofynnol, prif weithgareddau'r is-grŵp ac roedd angen iddi
ystyried cyfnodau ymgynghori statudol/cyhoeddus a chyfieithiad Cymraeg o'r
cynlluniau drafft a therfynol. Tynnwyd
sylw at y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi darparu cyfres o setiau
data/ystadegau amgylcheddol hyd at ffin yr AoHNE i bob AoHNE yng Nghymru ac
wedi cyhoeddi Datganiad Ardal De orllewin Cymru. Byddai'r ddau bwynt hyn yn fuddiol i'r broses
o baratoi'r cynllun rheoli ac yn ddylanwadol ar hynny. Daethpwyd i'r casgliad y byddai'r tîm AoHNE yn ysgrifennu'n ffurfiol at CNC
i ddechrau'r broses adolygu (a fyddai'n cynnwys rhagor o fanylion am yr
amserlen) ac y byddem hefyd yn dechrau llunio Adroddiad Cyflwr yr AoHNE. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Bartneriaeth Tirweddau Cenedlaethol. PDF 368 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad am Gyllid gan Lywodraeth
Cymru a'r Bartneriaeth Tirweddau Cenedlaethol (NLP). Yn sgil adroddiad y Grŵp Llywio ym mis Rhagfyr
2019, nodwyd y dewiswyd awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gynnal tîm
yr NLP, er bod gwaith i barhau â hyn wedi'i atal oherwydd pandemig
COVID-19. Amlinellwyd manylion ynghylch cronfa buddsoddi cyfalaf gwerth £4.75
miliwn ar draws wyth tirwedd ddynodedig Cymru, sef y rhaglen Tirweddau
Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy. Byddai
AoHNE Gŵyr yn derbyn cyfraniad o £135,000 tuag at gyflawni un o'r
prosiectau cyfalaf canlynol:- ·
Parc Gwledig Dyffryn Clun -
gwaith cyfalaf a gwelliannau i gyfleusterau ymwelwyr, llwybrau mynediad a
nodweddion treftadaeth. ·
Prynu offer rheoli cefn gwlad
sy'n defnyddio pŵer batri. ·
Gwarchodfa Natur Leol Coed yr
Esgob – gwella dulliau draenio cynaliadwy a mynediad. Trafododd y Grŵp Llywio'r
canlynol: - ·
Gwaith
mynediad i ddarparu ar gyfer ymwelwyr ychwanegol ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun
a'r costau posib; ·
Cydbwyso'r
angen i ddenu rhagor o ymwelwyr a'r angen i ddiogelu'r dirwedd; ·
Y problemau
sy'n codi rhwng cerddwyr a beicwyr ar y llwybr beicio o fewn y Parc Gwledig a'r
cynigion sy’n cael eu hystyried i wella pethau. Penderfynwyd
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Canllaw Dylunio AoHNE Gwyr - Diwygio'r Canllawiau Cynllunio Atodol. PDF 122 KB Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad a hysbysodd y grŵp llywio
ynghylch diwygio'r Canllawiau Cynllunio Statudol (CCS). Esboniwyd, yn dilyn mabwysiadau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ym mis
Chwefror 2019, fod y Canllaw Dylunio wedi'i ddiweddaru a'i ehangu gan y Tîm
Cynllunio Polisi, drwy weithio gyda Nathaniel Lichfield & Partners.
Byddai'r rhifyn diweddaredig yn cynnwys adrannau
newydd ar y canlynol: ·
Cabanau ·
Goleuadau ·
Arwyddion hysbysebu Disgwyliwyd y byddai ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos yn dechrau erbyn
Hydref 2020, i'w fabwysiadu fel CCS a'i gyhoeddi erbyn dechrau 2021. Byddai mabwysiadu'r arweiniad goleuo yn y Canllaw Dylunio fel CCS yn galluogi'r
Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol i ystyried cais yr awdurdod am statws Cymuned
Awyr Dywyll. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy - Adroddiad Ariannol. PDF 110 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad cyllidebol cryno o Banel y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy (CDC). Amlinellwyd bod y
gyllideb CDC ar gyfer 2019/20 o £55,000 wedi'i ddynodi'n llawn, a bod yr holl
arian wedi'i dalu. Cefnogwyd cyfanswm o 13 o brosiectau, gyda grantiau rhwng
£150 i £12,000. Cyflwynwyd adroddiad
blynyddol i Lywodraeth Cymru, a byddai'n cael ei ddosbarthu i aelodau'r
Grŵp Llywio yn fuan er gwybodaeth. Mae Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau mai £100,000 oedd cyllideb CDC ar gyfer 2020/21. Ar hyn o bryd
roedd 7 prosiect wedi'u cymeradwyo gyda chyllid CDC ar gyfer 2020/21, a 2 gais
i'w hystyried gan y Panel CDC ym mis Gorffennaf, a disgwylir 2 gais pellach ar
hyn o bryd. Caiff prosiectau
eraill eu cyflwyno yn ystod 2020/21 i ddyrannu'r arian yn llawn. Roedd ffigur y
cronfeydd sydd wedi'u neilltuo'n cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000 (10%).
Ychwanegwyd nad
oedd y gyllideb ar gyfer 2021/22 wedi'i chadarnhau, ond disgwylir iddi fod gwerth
£55,000. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Parc Gwledig Dyffryn Clun. PDF 301 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd arweinydd tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn archwilio
ymagwedd Cyngor Abertawe at reoli Parc Gwledig Dyffryn Clun. Esboniwyd bod Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) presennol Abertawe, a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2019, yn
cynnwys polisi penodol (TR4) ar gyfer Parc Gwledig Dyffryn Clun. Nododd y CDLl
ffin y parc gwledig a pholisi ffurfiol y cyngor ynghylch ei ddefnydd. Cafodd Dyffryn Clun ei gydnabod yn benodol
hefyd yn y CDLl fel man gwyrdd sy'n strategol bwysig ac yn elfen allweddol o
Rwydwaith Isadeiledd Gwyrdd y sir. Fodd bynnag, nid oedd
gan y cyngor unrhyw amcanion rheoli na chyfrifoldeb adrannol am y parc gwledig
y tu hwnt i'r polisïau CDLl hyn. Yn
ogystal, ni chafwyd adolygiad o Ddyffryn Clun, y Parc Gwledig, na strategaeth
neu amcanion y Cyngor ar gyfer yr ardal ers astudiaeth gynllunio 1978, a
gynhaliwyd dros 40 o flynyddoedd yn ôl.
Felly, gwnaed penderfyniadau rheoli gan ddilyn blaenoriaethau adrannol
ar wahân ac o fewn cyfyngiadau cyllidebol.
Ychwanegwyd
bod materion rheoli dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys difrod gan
weithgareddau trydydd parti yn ystod cyfyngiadau COVID-19, wedi dangos bod
angen gwella ymagwedd gyffredinol y cyngor at reoli'r parc gwledig. Gwnaed cynnydd felly gyda'r bwriad o
ddatblygu strategaeth ar gyfer aelodau ac uwch reolwyr i ddatblygu barn glir am
gyfeiriad a chyfrifoldebau yn y tymor hir. Trafododd
y Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Problemau a achosir gan feiciau mynydd a chyfrifoldeb y
cyngor o ran rheolaeth uniongyrchol o'r parc gwledig; ·
Gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol o fewn y parc a
gwella mynediad i'r cyhoedd; ·
Cyfranogaeth sefydliadau partner, e.e. Cyfoeth Naturiol
Cymru, wrth reoli'r parc gwledig. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Parcio ar Gefn Bryn. PDF 104 KB Cofnodion: Adroddodd Steve Heard,
is-gadeirydd y Grŵp Llywio, am nifer o ymholiadau yr oedd wedi'u derbyn
gan breswylwyr lleol ynghylch y sefyllfa parcio yng Nghefn Bryn. Cyfeiriodd at y
newidiadau a wnaed ym mhen uchaf Cefn Bryn, yn benodol wrth leoli cerrig mawr
gerllaw'r ffordd, a oedd yn atal mynediad i gerbydau i'r tir. Er bod hwn wedi
bod yn fesur ataliol cadarnhaol, ychwanegodd fod rhai ymwelwyr wedi dewis naill
ai gyrru dros y byndio ar ochr y ffordd neu barcio ar yr ymyl, felly hoffai
llywio cynnydd i ganfod ateb parhaol. Trafododd y
Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Cynigion ar gyfer gosod cerrig mawr mewn siâp cilgant
mawr o amgylch yr ardal barcio, ymestyn yr ardal â byndiau a chreu clirffordd o
Gilybion i Reynoldston; ·
Sicrhau bod y byndiau'n effeithiol ac yn rhwystro
mynediad i gerbydau i'r tir ym mhen uchaf Cefn Bryn ac mewn mannau eraill megis
yr hen orsaf bwmpio; ·
Y datrysiad arfaethedig yn cael ei gynllunio gan Adran
Briffyrdd Cyngor Abertawe a'r broses ymgynghori/benderfynu i gwblhau'r
datrysiad; ·
Yr angen i atal gwersylla dros nos, yn enwedig mewn
cartrefi symudol, a oedd yn achosi erydu difrifol ym mhen uchaf Cefn Bryn; ·
Datrysiadau parcio a cherdded posib; ·
Mynd i'r afael â'r erydu difrifol a'r opsiynau amgen
posib o ran arwynebedd; ·
Y ffaith bod y cyngor yn gyfyngedig iawn o ran yr hyn y
gallai ei wneud; ·
Canolbwyntio ar y broblem hon er mwyn canfod ateb sy'n
ymarferol ac yn gynaliadwy; ·
Y cynnydd cadarnhaol a wnaed o ran cael y gwahanol
sefydliadau at ei gilydd i drafod y broblem. Eglurwyd y
gallai'r is-grŵp, a sefydlwyd i symud y mater yn ei flaen, symud materion
yn eu blaen pan dderbynnir y costau ar gyfer datrysiad priffyrdd arfaethedig
Cyngor Abertawe yn unig. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Materion Cymdeithas Gwyr. PDF 104 KB Cofnodion: 47
Materion Cymdeithas
Gŵyr (Gordon Howe) Cyflwynwyd adroddiad ar ran Cymdeithas Gŵyr mewn
perthynas â'r materion canlynol: - 1)
Pryderon ac
anghysondeb datblygiad a ganiateir am 28 diwrnod i werthu cynhyrchion mewn
lleoliadau sensitif o fewn yr AoHNE ac effeithiau ar y dirwedd. Penderfynwyd trafod
y eitem yn y cyfarfod nesaf a drefnir. 2)
Diogelu
coetiroedd, coed a gwrychoedd sensitif rhag cael eu torri'n ddiwahaniaeth yn
ystod cam cynharach, cyn unrhyw ddifrod posib Awgrymwyd y byddai cydweithio gwell a chyflymach rhwng rheolwyr yr AoHNE ac asiantaethau eraill
fel CNC yn gwella'r sefyllfa a chyfeiriwyd at enghreifftiau diweddar fel coetir
Carters Ford, parcdir Fairy
Hill, maes Long Acre a choetir cyfagos yn ardal
Caswell. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y
canlynol: - ·
Materion
ynghylch symud coed, megis cael trwydded cwympo coed; ·
Sefyllfaoedd
lle nad oedd angen trwydded cwympo coed; ·
Symud coed yn
anghyfreithlon/gyfreithlon yn ystod y tymor nythu; ·
Y sancsiynau
dan sylw, yn enwedig ynghylch Gorchmynion Cadw Coed; ·
Enghreifftiau
a awgrymwyd â thrwyddedau/nad oedd ganddynt drwyddedau; ·
Sut y gallai
ymateb yn gyflymach atal coed rhag cael eu symud. Penderfynwyd trafod
y eitem yn y cyfarfod nesaf a drefnir. 3)
Derbyniodd y
cyngor ei gais cyntaf yn yr AoHNE am fenter Un Blaned a oedd yn cynnwys dwy
annedd bosib. Ar hyn o bryd, gallai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ganiatáu
hyn, ond pe bai hwn yn cael ei gymeradwyo, ble fydd y ffin? Fe'i heithriwyd yn wreiddiol yn nrafft
terfynol y CDLl ond fe'i newidiwyd yn y fersiwn derfynol a gymeradwywyd. Penderfynwyd gohirio'r
eitem gan ei bod yn gais cynllunio byw. |
|||||||||
Cyfyngiadau COVID-19 ac Ymddygiad Ymwelwyr. PDF 105 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad ar ran James Chambers a Roger Button ynglŷn â chyfyngiadau
COVID-19 ac ymddygiad ymwelwyr. Amlinellwyd bod Gŵyr fel lle chwarae i'r rhai oedd eisiau mynd allan
wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio ac anawsterau â mynd ar wyliau dramor
oherwydd mesurau cwarantin a diffyg rheolaethau lleol. Yn ystod yr wythnosau
diwethaf, mae pobl wedi taflu swm sylweddol o sbwriel i wrychoedd a thraethau
yn ardal Gŵyr, ac wedi parcio yno'n ddifeddwl a
gadael carthion yn gyhoeddus, yn enwedig lle'r oedd
meysydd parcio ar agor ond roedd toiledau ar gau. Y bobl o’r tu allan i’r ardal
oedd yn gyfrifol am hyn yn bennaf, yn groes i gyfyngiadau teithio'r pandemig, a oedd wedi cynyddu'r risg o groesheintio/halogi
a llai o fynediad ar gyfer ymatebwyr brys i gymunedau lleol. Ceisiwyd rhoi mesurau ar waith a fyddai'n helpu i gyfyngu ar y difrod a'r
fandaliaeth bosib o'r amgylchedd yn yr AoHNE ac i wella diogelwch ei chymunedau
yn ystod y cyfnod lle mae'r pandemig ar led. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Y ffaith bod rhai toiledau cyhoeddus wedi ailagor, sy'n
lleddfu rhai o'r materion a godwyd; ·
Yr angen am well rheolaeth a phlismona i atal
sefyllfaoedd tebyg i'r rheini a ddigwyddodd ym Mae Langland; ·
Defnyddio gorfodi pan fydd unigolion yn mynd gam yn rhy
bell; ·
Yr anhawster o ran agor toiledau cyhoeddus/atal
lledaeniad pellach COVID-19; ·
Mynd i'r afael â'r ymwelwyr niferus â safleoedd penodol
ym mhenrhyn Gŵyr yn ystod y cyfnod, yr oedd rhai ohonynt wedi teithio
pellteroedd hir, a'r anhawster wrth plismona eu symudiadau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |