Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Barham Centre, Mount Pisgah Chapel, Parkmill, Swansea. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni

ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 120 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion cyfarfod blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr

a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2018, yn gofnod cywir, yn amodol ar

y diwygiad canlynol: -

 

Cofnod rhif 5 - Cyrff partner - Cymdeithas Gŵyr

 

Newid cyfanswm aelodaeth Cymdeithas Gŵyr i 1,000 o aelodau.

 

</AI2>

 

11.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Nid oedd dim.</AI3>

 

12.

Adroddiad ar Gynhadledd Tirweddau am Byth. pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd adroddiad ysgrifenedig ac adborth ynghylch Cynhadledd Landscapes for Life, yr aeth iddi gyda Swyddog AoHNE Gŵyr.

 

Cynhaliwyd y gynhadledd ym Mhrifysgol Caint, Caergaint rhwng 24 a 26 Gorffennaf 2018 a'r thema oedd "Shaping the Long View".  Ychwanegodd fod Llywodraethau Cymru a'r DU wedi nodi eu hymrwymiad i dirweddau sydd wedi'u hamddiffyn a chyda hyn mewn cof, cynigiodd yr NAAONB fod dangos a mesur manteision rheoli tirweddau o bwysigrwydd hanfodol yn y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Edrychodd y gynhadledd ar sut roedd gwaith rhwydwaith y teulu o AoHNE wedi cyflawni aer glân, dŵr glân a digonol, a phlanhigion a bywyd gwyllt sy'n ffynnu.  Edrychwyd hefyd ar sut i leihau'r perygl i bobl, yr amgylchedd a'r economi drwy ddefnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy.  Y prif nod oedd sicrhau bod harddwch naturiol AoHNE yn cael ei werthfawrogi a'i ddiogelu.  Roedd y gynhadledd hefyd am archwilio sut gallai cysylltu pobl â natur wella harddwch a threftadaeth yr amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Gofynnodd y Grŵp Llywio gwestiynau ynghylch effaith trafodaethau Brexit a gynhaliwyd ac esboniwyd bod siaradwyr yn y gynhadledd wedi mynegi eu barn ar y canlyniadau posib.  Nododd y Cadeirydd hefyd fod cynhyrchwyr bwyd yn paratoi ar gyfer effaith Brexit a newid yn yr hinsawdd, gyda rhai yn rhoi'r gorau i gnydau traddodiadol o blaid gwinllannoedd/ffrwythau.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

13.

Datganiad Llywodraeth Cymru - Tirweddau Dynodedig - Gwerthfawr a Chydnerth. pdf eicon PDF 498 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Gwerthfawr a Chydnerth Llywodraeth Cymru a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.

 

Amlygodd Swyddog AoHNE Gŵyr bedwar nod ar gyfer AoHNE yng Nghymru, sef lleoedd sy'n cael eu gwerthfawrogi; amgylcheddau gwydn; cymunedau cadarn; a ffyrdd cadarn o weithio.

 

Nododd y grŵp yr angen i gael cyfleusterau da, glân a hygyrch, yn arbennig doiledau cyhoeddus i dwristiaid.  Nodwyd bod llawer o ardaloedd i dwristiaid yn codi tâl am ddefnyddio'r toiled er mwyn cadw'r cyfleusterau'n lân.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

14.

Llythyr oddi wrth Gweinidog Llywodraeth Cymru at AoHNE Gwyr. pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

Darllenwyd llythyr Hannah Blythyn AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, a oedd yn gofyn am farn ynghylch creu mwy o gydraddoldeb ar gyfer AoHNE a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru, er gwybodaeth.

 

15.

Cyfarfod Bwrdd - Cofnodion Drafft - Awst 2018. pdf eicon PDF 216 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Tirwedd Gŵyr a gynhaliwyd ar 9 Awst 2018 er gwybodaeth.

 

Dywedodd Swyddog AoHNE Gŵyr wrth y Grŵp Llywio y cynhelir cyfarfod olaf y bartneriaeth unwaith y byddai'r adroddiad gwerthuso wedi'i gwblhau.  Pan fyddai Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn llofnodi'r adroddiad, byddai hynny'n golygu bod y gwaith wedi dod i ben.  Cytunwyd hefyd ar Gynllun Cynnal a Chadw a Rheoli 10 mlynedd gan y bartneriaeth, dan amodau ariannu Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

Dywedodd y Grŵp Llywio fod angen etifeddiaeth ar Gronfa Dreftadaeth y Loteri a dylai'r Cynllun Cynnal a Chadw a Rheoli gael ei orfodi ar sefydliadau partner o ran cynnal a chadw prosiectau pan dderbyniwyd arian.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y diweddariad.

 

16.

Prosiect Cymunedol Awyr Dywyll Gwyr. pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Swyddog AoHNE Gŵyr fod y tîm AoHNE wedi llunio dechrau ar gyfer prosiect a fyddai'n datblygu'r gwaith er mwyn cyflwyno cais ffurfiol i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, er mwyn i AoHNE Gŵyr fod yn 'Gymuned Awyr Dywyll'.

Sicrhawyd arian grant drwy Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Gŵyr.  Mae'r arian hwn wedi galluogi'r cyngor i benodi Gwasanaethau Hyfforddiant Awyr Dywyll Cymru er mwyn cyflwyno cefnogaeth dechnegol, gynghorol a busnes ar gyfer y prosiect.  Atodwyd copi o'r cais am grant i Gymdeithas Gŵyr er gwybodaeth er mwyn i'r Grŵp Llywio gael crynodeb a chefndir i'r prosiect.

 

Dywedodd y Grŵp Llywio ei fod yn cefnogi'r cais a rhoddwyd enghreifftiau o oleuo gwael ar benrhyn Gŵyr ac yn y cyffiniau.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

17.

Adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) ar gyfer 2019/20 fel £55,000.  Ychwanegodd fod 8 prosiect ag arian CDC yn 2018/19, gyda chais arall yn cael ei ddatblygu, a rhagwelir y bydd 4 arall, a oedd wedi neilltuo llawer o'r arian ar gyfer 2019/20.

 

Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£55,000.00

Cronfeydd sydd wedi eu neilltuo

£41,390.00

Cronfeydd sydd heb eu neilltuo

£13,610.00

 

Cadarnhawyd mai cyllideb y CDC ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fyddai £55,000, a chafwyd arwydd y byddai'r gyllideb ar gyfer 2020/21 yr un peth.  Roedd llawer o'r gronfa wedi'i chlustnodi ar gyfer 2019/20, gyda £30,350 eisoes wedi'i glustnodi, a rhagwelir y bydd £25,310 arall, a fyddai'n rhoi pwysau mawr ar y gronfa.

 

Gofynnodd y Grŵp Llywio am restr flynyddol o ble dyrannwyd yr arian.

 

Penderfynwyd  -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfodydd y Grŵp Llywio yn y dyfodol.

 

18.

Cynllun Rheoli AoHNE - Dechrau'r Broses Adolygu. (Llafar)

Cofnodion:

Dywedodd Swyddog AoHNE Gŵyr wrth y Grŵp Llywio y byddai'r adolygiad nesaf o Gynllun Rheoli AoHNE Gŵyr yn dechrau'n fuan.  Ychwanegodd yr erys y weledigaeth gyffredinol yr un peth, ond efallai bydd angen addasu'r amcanion a'r cynlluniau.  Darperir adroddiad i gyfarfod nesaf y Grŵp Llywio ym mis Rhagfyr 2018.

 

Awgrymwyd pynciau gan y Grŵp Llywio y dylid eu cynnwys yn y cynllun megis morweddau a'r prosiect awyr dywyll.

 

Penderfynwyd  -

 

1)    Nodi cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf;

2)    Cyflwyno adroddiad arall i gyfarfod y Grŵp Llywio ar 3 Rhagfyr 2018.

 

19.

Port Eynon & Horton Feasibility Study.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Gordon Howe, Cymdeithas Gŵyr, at gyfarfod diweddar a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr ynghylch astudiaeth dichonoldeb ar Borth Einon a Horton.  Ychwanegodd mai Is-adran Twristiaeth Cyngor Abertawe, oedd wedi penodi'r ymgynghorwyr. 

 

Trafodwyd cyfleusterau a gwasanaethau lleol yn y cyfarfod ac archwiliwyd ffyrdd o wella'r gymuned i breswylwyr ac ymwelwyr.

 

Dywedodd Swyddog AoHNE Gŵyr ei fod yn ymwybodol o'r astudiaeth ac roedd wedi siarad â'r ymgynghorwyr ym mis Mai 2018.  Dywedodd Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol ei fod newydd gael gwybod am yr astudiaeth a byddai'n hysbysu'r bobl briodol am ei siom nad oeddent wedi ymgynghori ag ef na'r Gwasanaethau Cynllunio.

 

Mynegwyd pryder gan y Grŵp Llywio nad oedd wedi bod yn rhan o'r broses ymgynghori.  Ychwanegwyd y dylai Tîm AoHNE Gŵyr hefyd fod wedi cael ei gynnwys yn llawer mwy na'r hyn a gafwyd.  Trafododd y cyfarfod hefyd yr opsiynau posib a gyflwynwyd.

 

Penderfynwyd  -

 

1)    Nodi cynnwys y trafodaethau;

2)    Gofyn i'r ymgynghorwyr roi cyflwyniad yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Llywio ar 3 Rhagfyr 2018.