Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Down To Earth, Little Bryngwyn, Cefn Bryn, SA3 1ED. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE

Gŵyr a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

 

3.

Materion sy'n codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Arolwg Awyr Dywyll Gŵyr

 

Rhoddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ddiweddariad yn y Cyfarfod Blynyddol ar adroddiad Arolwg Awyr Dywyll Gŵyr. Amlinellodd fod y cyngor ar hyn o bryd mewn trafodaethau ag Awyr Dywyll Cymru am ei fod yn bwriadu cyflwyno cais am statws Cymuned Awyr Dywyll ar ddechrau 2019. Y gobaith yw y byddai'r cais yn cyd-fynd â'r Wythnos Awyr Dywyll Ryngwladol ym mis Ebrill 2019. Roedd trafodaethau'n parhau rhwng adrannau'r cyngor a phartneriaid.

 

4.

Cyflwyniad - Gwaith a Rolau Partneriaeth AoHNE Gwyr a Thîm AoHNE Gwyr.

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ar waith Partneriaeth AoHNE Gŵyr. Amlinellodd ddynodiad AoHNE Gŵyr, rôl Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gwaith Tîm AoHNE yn Ninas a  Sir Abertawe.

 

5.

Cyflwyniadau - Cyrff Partner.

Cofnodion:

Cymdeithas Gŵyr

 

Rhoddodd Robin Kirby, Cadeirydd Cymdeithas Gŵyr gyflwyniad ar waith y gymdeithas. Tynnodd sylw at y ffaith fod gan y gymdeithas 14,000 o aelodau ar hyn o bryd, a'i fod yn pryderu ynghylch Arglwyddiaeth Gŵyr, gan gynnwys canol Dinas Abertawe, lle'r oedd yn canolbwyntio ar Farina Abertawe.

 

Cyfeiriodd at y gwaith cynllunio a wnaed gan y gymdeithas, y grantiau a'r gefnogaeth ariannol yr oedd y gymdeithas wedi'u rhoi yn ystod y flwyddyn flaenorol a'r cylchgrawn ‘Guide to Gower’ y disgwylid iddo gael ei ailargraffu. Amlygodd y rôl arwyddocaol sydd gan y gymdeithas ym mhenrhyn Gŵyr ac o ran ei amcanion.

 

Gofynnwyd cwestiynau am gynllunio a mynediad ac atebwyd y rhain yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Cymdeithas Gŵyr am ei gyflwyniad.

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Rhoddodd Hamish Osborne, Arweinydd Tîm Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyflwyniad am gefndir a gwaith CNC. Dywedodd mai CNC yw'r corff mwyaf yng Nghymru a noddir gan y Llywodraeth, a bod ganddo 1,180 o staff a chyllideb o £180m. Rhoddodd fanylion ynghylch rôl a diben cyffredinol CNC, yn enwedig ym mhenrhyn Gŵyr, a chyfeiriodd at rai o'r safleoedd y mae'n eu rheoli yn yr ardal.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch gwersylla anghyfreithlon, problemau baw cŵn, y morglawdd yn Llanmadog a maint/biwrocratiaeth/tangyllido CNC, a atebwyd yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd CNC am ei gyflwyniad.

 

Partneriaeth Tirwedd Gŵyr

 

Rhoddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr gyflwyniad ar gefndir a gwaith Partneriaeth Tirwedd Gŵyr.  Amlinellodd fod prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn dod i ben ac amlygodd fod ei etifeddiaeth yn bwysig.

 

Rhoddodd enghreifftiau o nifer o'r prosiectau a gefnogwyd gan y bartneriaeth a gwnaeth sylw ar y gwaith partneriaeth a wnaed i gyflawni'r gwaith. Ychwanegodd y cynhelir dathliad o'r rhaglen yn Sioe Gŵyr ym mis Awst ac y rhoddir adroddiad terfynol i'r Grŵp Llywio ym mis Medi 2018.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch nodi adeiladau/gwrthrychau sy'n haeddu eu diogelu ym mhenrhyn Gŵyr ac mewn perthynas ag adfer Capel Mount Hermon, prosiect Penclawdd, ac ymatebwyd yn briodol i'r rhain. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr am ei gyflwyniad.

 

6.

Cyflwyniadau - Lleisiau Gwyr.

Cofnodion:

Gŵyl Gerdded Gŵyr

 

Rhoddodd Stuart Mackinnon, Tread Gower/Gŵyl Gerdded Gŵyr, gyflwyniad ar waith y ddau sefydliad ym mhenrhyn Gŵyr. Diolchodd i Gyngor Abertawe a Chymdeithas Gŵyr am eu cefnogaeth ariannol ac amlygodd fod 42 o deithiau cerdded wedi'i defnyddio yn ystod yr ŵyl gerdded. 

 

Tynnodd sylw at y teithiau cerdded yn yr ardal, yn ogystal â'r teithiau cerdded arfordirol a'r rhaglen arweinyddiaeth sydd ar gael i bobl ifanc drwy Tread Gower.   

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y defnydd o dir CNC, taflenni a luniwyd ar gyfer yr ŵyl gerdded a gwersylla gwyllt ar e.e. Gefn Bryn. Ymatebwyd i'r cwestiynau'n briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Tread Gower/Gŵyl Gerdded Gŵyr am ei gyflwyniad.

 

7.

Cwestiynau Gan Y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y canlynol: -

 

Cynllun Llysgenhadon Gŵyr

 

Gofynnodd Alan Glass am ddiweddariad ynghylch Cynllun Llysgenhadon Gŵyr.

 

Esboniodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, fod Partneriaeth Tirwedd Gŵyr bellach wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Datblygu Sgiliau i'w gynnal eleni. Byddai Twristiaeth Bae Abertawe'n gweithredu fel corff cynnal ac yn mynd ati i hyfforddi gwirfoddolwyr.  Penderfynir ar y digwyddiadau/ardaloedd y bydd y llysgenhadon yn mynd iddynt ar ôl yr hyfforddiant.

 

Gwersylla Anghyfreithlon ar Gefn Bryn

 

Gofynnodd Hildegarde Roberts gwestiwn ynghylch plismona gwersyllwyr anghyfreithlon ar Gefn Bryn.

 

Dywedodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y dylid adrodd wrth yr heddlu am wersyllwyr anghyfreithlon (101 os nad yw'n argyfwng). Ychwanegodd ei bod hi'n drosedd sifil ac mai perchennog y tir sy'n gyfrifol. Ni allai Cyngor Abertawe weithredu mewn perthynas â'r fath faterion, ond byddai'r heddlu'n cymryd camau pe baent yn ystyried yr ymddygiad yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Llwybrau Troed

 

Gofynnodd Jo Scott a oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael i gefnogi'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad oherwydd bod rhai llwybrau troed mewn cyflwr gwael a'r gyllideb a niferodd staff wedi'u lleihau'n sylweddol.

 

Esboniodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr fod cyllidebau wedi'u torri a bod y sefyllfa'n annhebygol o wella. Ychwanegwyd bod sefydliadau fel Cymdeithas Gŵyr/Cerddwyr Gŵyr wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, gan ddarparu cefnogaeth ariannol/wirfoddol mawr ei hangen i brosiectau.

 

Holodd John France hefyd pam na fu unrhyw sôn am y diwydiant amaethyddol gan fod ffermwyr yn rheoli llawer o'r mynedfeydd i lwybrau troed  Eglurwyd bod cominwyr/Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr cael eu cynrychioli ar y Grŵp Partneriaeth.

 

8.

Dyddiadau cyfarfodydd 2017/2018 i gael eu cynnal am 7pm fel a ganlyn:

·         24 Medi 2018 – Canolfan Barham, Capel Mount Pisgah, Parkmill, Abertawe;

·         3 Rhagfyr 2018 – Lleoliad i'w gadarnhau;

·         25 Mawrth 2018 – Lleoliad i'w gadarnhau.

Cofnodion:

Nodwyd y dyddiadau/lleoliadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd i'w cynnal yn ystod Blwyddyn Ddinesig 2018-2019 -

 

·         24 Medi 2018 - Canolfan Barham, Capel Mount Pisgah, Parkmill, Abertawe;

·         3 Rhagfyr 2018 - Lleoliad i'w gadarnhau;

·         25 Mawrth 2018 - Lleoliad i'w gadarnhau.