Agenda a Chofnodion

Lleoliad: St Madoc Centre, Llanmadoc, Swansea, SA3 1DE. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 122 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir.

 

36.

Materion sy'n codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Tirweddau'r Dyfodol Cymru - Adroddiad am Egwyddorion Llywodraethu

Hysbyswyd y Grŵp Llywio gan Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr y bu'n rhaid gohirio'r cyfarfod gwreiddiol ag AoHNE Dyffryn Gwy ar 1 Mawrth oherwydd yr eira.  Bu'n rhaid aildrefnu'r cyfarfod ar gyfer 24 Ebrill 2018.

 

Aelodaeth

 

Esboniwyd y byddid yn chwilio am rywun i gymryd lle Rebecca Wright, yr oedd ei rôl â CNC wedi newid ac nid oedd mor berthnasol i'r Grŵp Llywio.

 

37.

Datganiad am Dirweddau Dynodedig ar 13 Mawrth 2018 - Hannah Blythyn AM, Gweinidog yr Amgylchedd. pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr y datganiad am Dirweddau Dynodedig, dyddiedig 13 Mawrth 2018, gan Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd. 

 

Tynnodd sylw at y prif bwyntiau a amlinellwyd yn y datganiadau gan gynnwys: cyhoeddi datganiad polisi sy'n cwblhau'r broses adolygu; effaith Brexit a rheoli tir yn y dyfodol; cynnal y tir/cynnyrch; diogelu a gwireddu buddion nwyddau cyhoeddus; a chryfhau statws cynlluniau craffu a'r broses o graffu arnynt.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

38.

Arolwg Awyr Dywyll Gwyr pdf eicon PDF 549 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE adroddiad am Arolwg Awyr Dywyll Gŵyr.

 

Amlinellwyd bod Gwasanaethau Hyfforddiant Awyr Dywyll Cymru wedi'u comisiynu ym mis Rhagfyr 2017 gan Gyngor Abertawe i ymgymryd ag astudiaeth waelodlin o ansawdd awyr dywyll yn AoHNE Gŵyr.  Ymgymerwyd â'r astudiaeth yn ystod mis Rhagfyr ar nosweithiau clir, di-leuad. Amlygodd yr adroddiad ganfyddiadau'r astudiaeth ac roedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer datblygu gweithgareddau.

 

Hysbysodd yntau'r grŵp o'r gofynion y mae eu hangen ac ychwanegodd er mwyn cyflawni statws awyr dywyll, roedd yn rhaid mynd i'r afael â sawl mater gwahanol a'u rhoi ar waith.  Roedd y rhain yn cynnwys materion megis cael gwaelodlin a system fonitro ddigonol, cynllun goleuadau a datblygiadau newydd a fyddai'n cydymffurfio â'r cynllun. 

 

Trefnwyd digwyddiad yn Rhosili ar 15 Ebrill 2018 fel digwyddiad rhagflas a phrynwyd nifer o docynnau.

 

Trafododd y grŵp yr adroddiad ac roedd yn gadarnhaol iawn ynghylch posibilrwydd o'r AoHNE yn cyflawni statws awyr dywyll.  Tynnwyd sylw at bwysigrwydd hyn i  dwristiaeth, ynghyd â'r angen i gynnwys busnesau yn y broses.

 

Dywedodd y cadeirydd fod yr argymhellion a ddarparwyd gan Awyr Dywyll Cymru a gynhwysir yn yr adroddiad yn fan cychwyn da.  Roedd y rhain yn cynnwys

 

• Cyflwyno rhaglen addysg ar gyfer:

 

     I.        Y Cyhoedd

    II.        Ysgolion

  III.        Staff a grwpiau gwirfoddolwyr yr AoHNE

  IV.        Staff Cyngor Abertawe

 

Cynnal astudiaethau SQM i fonitro lefelau llygredd golau;

 

• Cynnal trafodaethau â chynrychiolwyr o Gyngor Abertawe i archwilio gostyngiadau posib mewn llygredd golau o ardal y Mwmbwls/ddinas;

 

• Cynnal trafodaethau â Chyngor Sir Gâr i archwilio'r gostyngiad posib mewn llygredd golau o ardaloedd Llanelli/Porth Tywyn;

 

Cysylltu â busnesau yn yr ardal i hyrwyddo'r defnydd o awyr dywyll yn ystod misoedd yr haf i gynyddu ffyniant economaidd yn yr ardal.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol fod gan y cyngor ganllawiau cynllunio atodol ar gyfer golau a fyddai'n cael eu hadolygu ar ôl i'r Cynllun Datblygu Lleol gael ei gyhoeddi.  Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch nodau cyflawni statws awyr dywyll.

 

Ychwanegodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr fod yr holl AoHNE yng Nghymru'n awyddus i gyflawni statws awyr dywyll ac y byddent yn ystyried datblygu materion drwy weithio mewn partneriaeth i leihau costau.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Cymeradwyo'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad;

2)    Darparu adroddiad ychwanegol i'r cyfarfod blynyddol.

 

39.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Rhaglen Partneriaeth Genedlaethol AoHNE 2018-2021. pdf eicon PDF 411 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr Raglen Bartneriaeth Genedlaethol AoHNE 2018-2021 Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

 

Tynnodd sylw at y gefnogaeth a'r arian grant a ddarparwyd gan CNC a'r gefnogaeth y byddai'n ei darparu yn ystod y 3 blynedd nesaf, a oedd yn hynod fuddiol i'r AoHNE.

 

Gwnaed sylw gan Hamish Osborn, CNC, ar y Rhaglen bartneriaeth ac amlygodd y gwaith partneriaeth rhwng y Tîm AoHNE, y Tîm Cadwraeth Natur a CNC.  Cyfeiriodd hefyd at y prosiectau sy'n cael eu cefnogi ar benrhyn Gŵyr.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

40.

Adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC).  Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai cyllideb y CDC ar gyfer 2017/18 fyddai £55,000.  Ar hyn o bryd, mae 18 o brosiectau a oedd wedi derbyn arian gan y CDC ar gyfer 2017/18, wedi neilltuo'r cyllid yn llawn ar gyfer 2017/18.

 

Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi eu neilltuo'n cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd Neilltuedig

£ 55,000.00

Cronfeydd sydd heb eu neilltuo

£ 0

Ceisiadau sy'n cael eu hystyried gan y panel

£ 0                         

Ceisiadau sy'n cael eu hystyried fel materion dirprwyedig

£ 0

 

Cadarnhawyd mai cyllideb y CDC ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fyddai £55,000, a chafwyd arwydd y byddai'r gyllideb ar gyfer 2020/21 yr un peth.

 

Roedd rhan helaeth o'r gronfa wedi'i neilltuo, gyda £26,590 (a £22,000 ychwanegol yn ddisgwyliedig) wedi'i neilltuo ar gyfer 2018/19, a £27,650 (a £25,000 ychwanegol yn ddisgwyliedig) ar gyfer 2019/20.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

</AI7>

 

41.

Partneriaeth Tirwedd Gwyr pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad ariannol Partneriaeth Tirwedd Gŵyr (PTG) o gyfarfod y PTG a gynhaliwyd ar 15 Chwefror.

 

Nododd fod llawer iawn o waith i'w gwblhau a bod dau gyfarfod bwrdd wedi'u trefnu cyn diwedd y rhaglen.  Byddai'n cwrdd â'r Tîm Cyllid Allanol i asesu'r gwariant cyn cwblhau'r prosiect.

 

Ychwanegodd bod Swyddog Monitro Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a oedd wedi'i benodi i fonitro'r rhaglen, wedi cysylltu ag ef.  Roedd y swyddog wedi dweud nad oedd PTG yn achos pryder ac fe'i hystyrir yn brosiect risg isel.  Roedd hyn yn bennaf oherwydd y modd yr oedd y Tîm Cyllid Allanol wedi rheoli diwedd y prosiect.  Byddai adroddiad terfynol yn cael ei anfon ymlaen at Gronfa Treftadaeth y Loteri ym mis Gorffennaf 2018.  Rhaid cwblhau cynllun monitro hefyd ynghyd â nodi gwaith addysgol gydag ysgolion/grwpiau.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

42.

Dyddiadau Cyfarfodydd y Dyfodol yn 2018-2019.

7 p.m. ar: -

 

·         25 Mehefin 2018

·         24 Medi 2018

·         3 Rhagfyr 2018

·         25 Mawrth 2019

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiadau cyfarfodydd yn 2018-2019.  Ychwanegwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol 25 Mehefin 2018 yn cael ei gynnal yn Down To Earth, safle Little Bryngwyn.