Lleoliad: Barham Centre, Mount Pisgah Chapel, Parkmill, Swansea. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso a Chyflwyniadau. Cofnodion: Croesawodd
y cadeirydd bawb a oedd yn bresennol yng Nghapel Mount Pisgah a dechrau'r
cyfarfod. |
|||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol
â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
ni ddatganwyd buddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod
blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr
a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2017 fel
cofnod cywir. |
|||||||||
Materion sy'n codi o'r cofnodion. Cofnodion: Nid
oedd unrhyw fater wedi codi. |
|||||||||
Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy Adroddiad. PDF 57 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
AoHNE Gŵyr adroddiad ar y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Amlinellwyd mai nod y gronfa oedd cefnogi prosiectau
blaengar, cynaliadwy ac amgylcheddol sy'n cynnwys cymunedau lleol mewn
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE). Nod y CDC yw datblygu a phrofi dulliau o gyflawni ffordd o fyw
mwy cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig o harddwch ac amrywiaeth naturiol gwych,
a hynny mewn partneriaeth. Mae'r cynllun yn ceisio cadw a gwella nodweddion, y
diwylliant, y bywyd gwyllt, y tirweddau, y defnydd o'r tir a'r cymunedau lleol.
Mae cynnal lles cymdeithasol a dichonoldeb economaidd cymunedau hefyd yn nodau
pwysig o'r cynllun. Roedd y ceisiadau a
gyflwynwyd ar gyfer grantiau bach sy'n llai na £3,000 neu grantiau mwy sy'n
werth hyd at £25,000. Cafodd y ceisiadau dros £3,000 eu hasesu gan Banel
Grantiau'r CDC, sef is-grŵp Grŵp Llywio
Partneriaeth AoHNE. Ychwanegodd fod
Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai £55,000 oedd cyllideb CDC
ar gyfer 2017/18. Ariennir 8 prosiect drwy gyllideb CDC
ar gyfer 2017/18 ar hyn o bryd, ac mae 3 chais arall ar waith. Roedd ffigur y
cronfeydd sydd wedi eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).
Cyfarfu'r Panel yn chwarterol
er mwyn ystyried ceisiadau. Y dyddiadau arfaethedig ar gyfer 2017/18 oedd 9
Hydref 2017 (sesiwn hyfforddi); 11 Rhagfyr 2017 a 12 Mawrth 2018. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Cofnodion: Penderfynwyd: - 1)
Ethol
y canlynol fel aelodau'r Panel Cronfa Datblygu Cynaliadwy: - Y Cynghorydd P Lloyd (Cadeirydd) Y Cynghorydd M C Child Y Cynghorydd L James Y Cynghorydd A H Stevens D Cole K Marsh P Thornton D Vine 2)
Ethol
y canlynol fel aelodau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy: - Stephen Heard (Cadeirydd) Y Cynghorydd J P Curtice S Hill S Crocker A Baharie |
|||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr Dirweddau'r Dyfodol Cymru -
Egwyddorion Llywodraethu a diweddariad ar adroddiad y Grŵp Gweithredu. Darparodd gefndir yr adroddiad 'Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru’
yn dilyn Adolygiad Marsden. Ychwanegwyd, yn dilyn yr
adolygiad, fod Gweithgor Tirweddau'r Dyfodol wedi'i sefydlu i archwilio'r
argymhellion. Ystyriodd y Grŵp hefyd yr argymhellion yng nghyd-destun y
ddeddfwriaeth newydd; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad
agoriadol ar Gyflwr Adnoddau Naturiol. Tynnwyd sylw at Adolygiad o Dirweddau'r Dyfodol, adolygiad gan y Gweithgor
sy'n nodi cynnig newydd i dirweddau dynodedig fynd y tu hwnt i'w dibenion
presennol sy'n ymwneud â chadwraeth a gwerth amwynderau. Nododd y dylai
Tirweddau Dynodedig arwain rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy gan ddarparu
buddion cyhoeddus a phreifat ehangach. Pwysleisiodd y cyfle, drwy weithio mewn
partneriaeth, i sylweddoli potensial economaidd cymunedau ac i hyrwyddo twf
gwyrdd a chydnerthedd ecosystemau drwy'r tirweddau
hyn. Ychwanegwyd bod ffordd newydd o weithio drwy drefniadau llywodraethu sy'n
cynnwys amrywiaeth eang o fodelau cyflwyno a phartneriaeth â gweledigaeth
gyffredin wedi'i chynnig. Awgrymwyd hefyd y dylai'r cyrff a'r partneriaethau
sydd â chyfrifoldeb dros y Tirweddau Dynodedig weithio ar draws ffiniau gyda
Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaethau lleol i hyrwyddo eu gwerth
cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd a'u defnydd cynaliadwy. Nododd yr
adroddiad hwn y byddai angen partneriaethau newydd er mwyn denu adnoddau newydd
ac i ddylanwadu ar fuddsoddiadau gan eraill. Pwysleisiodd y byddai'r ffordd
newydd hon o weithio yn gofyn am newid ymddygiadol a sefydliadol. Cafodd cynllun gweithredu 18 mis ar y camau cyntaf i wireddu'r cynnig ei
gynnwys yn yr adroddiad. Cafodd ei rannu yn ôl yr elfennau canlynol: ·
cydweithrediad a phartneriaeth; ·
gweledigaeth a chyfeiriad; ·
adfywio llywodraethu: gwella perfformiad ac atebolrwydd; ·
blaengaredd mewn adnoddau; a ·
datblygu lles a chydnerthedd. Cynigodd yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig fodel arfaethedig ar gyfer
datblygu polisïau cyhoeddus y dyfodol a drafftio deddfwriaeth ddatganoledig.
Rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad dros yr haf - 'Symud Cymru Ymlaen' -
rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, sy'n ceisio barn ar ymagweddau
rheoleiddio newydd wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. Amlinellodd yr adroddiad hefyd gyfres gytunedig o egwyddorion llywodraethu
da. Darparwyd crynodeb o'r egwyddorion
llywodraethu yn Atodiad 1. Gofynnwyd i'r Grŵp Llywio adolygu egwyddorion llywodraethu da a nodwyd
yn yr adroddiad ac argymhellwyd ei fod yn eu mabwysiadu wrth lywodraethu'r
AoHNE. Trafododd y Grŵp y canlynol: - ·
Er bod sawl syniad da, roedd angen mwy o fanylder/dyfnder
yn yr adroddiad; ·
Gofyniad i'r Grŵp Llywio feirniadu ei hun yn erbyn
egwyddorion yr adroddiad; ·
Disgwyliadau Llywodraeth Cymru/Cyfoeth Naturiol Cymru a
fyddai'n disgwyl i'r Grŵp Llywio wneud cynnydd mewn rhyw ffordd; ·
Cymariaethau ag AoHNE/Pharciau Cenedlaethol eraill megis
Dyffryn Gwy a Bannau Brycheiniog; ·
Y Grŵp Llywio i fonitro cynnydd yn erbyn y Cynllun
Rheoli; ·
Archwilio arfer da mewn mannau eraill cyn gwneud
penderfyniad; ·
Datblygu a gweithredu gweledigaeth strategol ar gyfer yr
ardal. Nododd y
Cynghorydd P R Hood-Williams, mewn perthynas â chyfreithlondeb, cyfranogiad a
llais, fod cyfansoddiad y Grŵp Llywio yn gywir yn y CCB
lle'r oedd gan bawb y cyfle i siarad a chodi materion. Dylai'r Grŵp Llywio
felly drafod datblygu a rhoi gweledigaeth strategol ar waith ar gyfer yr ardal. Cynigiwyd bod Gweithgor yn cael ei ffurfio er mwyn edrych ar y mater
ymhellach. Penderfynwyd ar y canlynol: - 1)
Nodi cynnwys yr adroddiad. 2)
Sefydlu Gweithgor i edrych ar y mater ymhellach ac i
adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf a drefnir; 3)
Gweithgor i gynnwys yr aelodau canlynol - Steve Heard, Hamish Osborn, Steve Crocker a
Keith Marsh. |
|||||||||
Cymdeithas Genedlaethol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol - Adborth o'r gynhadledd. (Llafar) Cofnodion: Nododd y Cadeirydd
fod Cynhadledd Genedlaethol AoHNE wedi'i chynnal yn Winchester.
Nododd mai'r thema drwy gydol y gynhadledd oedd gwneud pethau'n wahanol yng
ngoleuni'r toriadau cyni a Brexit, gyda sefydliadau'n
gorfod gweithio mewn partneriaeth. Roedd y gynhadledd
yn ddigwyddiad gwych lle rhannodd teulu a phartneriaid AoHNE eu dysg.
Ychwanegodd fod yna waith gwych yn cael ei gyflawni. Amlygodd y prif
siaradwyr ddiwylliant, a sut y mae'n annog ffyniant, gan gynnwys creu cymunedau
cryfach a gwella lles. Yn ychwanegol, roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) wedi ehangu proffil yr ymwelwyr ac wedi cynnal
trafodaethau gyda phwyslais ar wneud tirwedd yn fwy canolog, gan ddarparu
enghreifftiau o sut y mae hyn wedi'i gyflawni. Roedd y gynhadledd
yn rhwydwaith o bobl sy'n frwd dros AoHNE a nodwyd cyfleoedd i hyrwyddo
rhagoriaeth sefydliadol, drwy rannu profiadau am sut i fynd i'r afael â nifer o
faterion. Cyfeiriodd y
Cynghorydd M C Child at gais Dinas Diwylliant Dinas a Sir Abertawe a nododd, os
yn llwyddiannus, dylai'r cyngor sicrhau bod yr AoHNE a'i phreswylwyr yn elwa.
Ychwanegodd fod yr AoHNE mewn sefyllfa unigryw ac nid oes unrhyw AoHNE/Barc
Genedlaethol wedi bod yn rhan o gais Dinas Diwylliant. Trafododd y
Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Gwella
cyfathrebiadau gan amlygu'r AoHNE; ·
Gwneud
pethau'n wahanol drwy wella cyfathrebiadau a hyrwyddo'r AoHNE, e.e. gwefannau,
radio a chyfryngau cymdeithasol; ·
Gwella
arwyddion wrth fynedfa'r AoHNE ac ar yr M4 i hysbysu pobl leol ac ymwelwyr; ·
Gwella'r
wybodaeth sydd ar gael sy'n ymwneud â'r AoHNE, amlygu ei diben; ·
Gwella
cyfathrebiad Partneriaeth Tirwedd Gŵyr a hyrwyddo'i phroffil; ·
Diffyg
cefnogaeth ariannol i wneud gwelliannau; ·
Newidiadau
arfaethedig i gyllideb yr AoHNE. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Aelodau'r Grwp Llywio. Cofnodion: Cynigiwyd y bydd
Keith Marsh, Cyngor Cymuned Llandeilo Ferwallt yn cael ei gynnwys yn y Grŵp Llywio. Penderfynwyd trafod y cynnig yn y cyfarfod nesaf a
drefnir. |