Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Barham Centre, Mount Pisgah Chapel, Parkmill, Swansea. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Croeso a Chyflwyniadau.

Cofnodion:

Croesawodd y cadeirydd bawb a oedd yn bresennol yng Nghapel Mount Pisgah a dechrau'r cyfarfod. 

 

32.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod Rhif 38 - Rwyf yn aelod o

Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr - personol.

 

Y Cynghorydd P Lloyd - Cofnod Rhif 37 a 38 - Rwyf yn aelod o Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr a Phanel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy – personol.

 

Y Cynghorydd K E Marsh - Cofnod Rhif 38 - Rwyf yn aelod o Bartneriaeth

Tirwedd Gŵyr - personol.

 

 

 

 

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 100 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

 

34.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Yn dilyn y trafodaethau yn y cyfarfodydd blaenorol, rhoddodd Chris Howell, Pennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am ddarpariaeth a glendid toiledau ym Mhenrhyn Gŵyr.

 

Nododd fod yr adolygiad o ddarpariaeth toiledau a oedd yn cael ei gynnal gan yr awdurdod wedi'i ohirio yn dilyn cyflwyniad Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a all wneud darparu cyfleusterau cyhoeddus yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol.  Byddai'r awdurdod felly'n gorfod ymdrechu i gadw ei ddarpariaeth bresennol a gwella gweithio mewn partneriaeth, megis y cytundeb yn Southgate lle mae caffi lleol wedi cytuno i reoli'r toiledau.

 

Ychwanegodd fod y trafodaethau â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynghylch trosglwyddo cyfleusterau'r toiledau wedi bod yn llwyddiannus a bod y materion bellach yn cael eu harwain gan y Gwasanaethau Cyfreithiol. Mynegodd bryder ynghylch y toiledau yn Oxwich ac amlygodd mai Ystâd Penrhys sy'n berchen ar yr ail floc.

 

Gofynnodd y grŵp nifer o gwestiynau i'r Swyddog/Cynghorydd M C Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·         Mynegwyd siom am nad oedd lefelau glendid wedi'u cynnal. Esboniwyd bod y cyngor yn gweithredu systemau gwahanol ynghylch blociau toiledau. Mae blociau toiledau Porth Einon yn cael eu rheoli gan weithiwr sefydlog y cyngor sy'n byw'n lleol, gyda chyfleusterau eraill yn cael eu rheoli gan weithwyr symudol y cyngor;

·         Holwyd a oedd y cyngor wedi cyfrifo'r incwm a wnaed o dwristiaeth ac wedi gosod yr incwm hwnnw yn erbyn y gwariant, er mwyn gwneud i Benrhyn Gŵyr ymddangos yn fwy deniadol i dwristiaid ac i gynnal cyfleusterau.  Esboniwyd bod rhaid i'r adrannau weithio o fewn y gyllideb a ddarparwyd a bod yr awdurdod yn derbyn ychydig iawn o incwm uniongyrchol gan dwristiaeth o'i gymharu â busnesau. Felly, nid oedd hi'n bosib cyfrifo'r incwm yn erbyn gwariant;

·         Caiff incwm cyfalaf ei wario ar ysgolion yn bennaf ac mae'r cyngor yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth er mwyn cynnal a gwella darpariaeth toiledau;

·         Diffyg gallu i ymdrin â chyfnodau o alw uchel. Esboniwyd y byddai'r cyngor yn newid y ffordd mae'n mynd ati i reoli rhai safleoedd er mwyn ateb y galw ond nid oes modd newid yr adnoddau;

·         Mae'r cyngor yn gobeithio cwblhau'r cytundeb gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n ymwneud â'r toiledau yn Rhosili yn fuan;

·         Gwnaed ychydig iawn o fuddsoddi ym Mhenrhyn Gŵyr o gymharu ag ardaloedd eraill yn Abertawe megis canol y ddinas, a mynegwyd pryder y bydd rhaid i nifer mawr o breswylwyr ym Mhenrhyn Gŵyr dalu'r cyfraddau uchaf;

·         Yn flaenorol, roedd gwahanol adrannau yn y cyngor yn gyfrifol am lanhau'r traethau, toiledau, glanhau a gwastraff. Newidiodd hyn yn ddiweddar a Phennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau sy'n gyfrifol am hyn bellach;

·         Er bod angen cyllid ychwanegol ar y gwasanaethau a'r cyfleusterau, nid yw hyn yn bosib oherwydd toriadau cyllidebol.

 

Derbyniad ffonau symudol a band llydan ym Mhenrhyn Gŵyr   

 

Er fod y derbyniad mewn rhai ardaloedd ym Mhenrhyn Gŵyr wedi gwella, nododd Roger Button bod y derbyniad mewn ardaloedd eraill yn wael iawn.   

 

35.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion sydd ar yr agenda ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud..

Cofnodion:

Nid oedd dim.

 

36.

Cynllun Rheoli AoHNE Gwyr - Cymeradwyaeth y cyngor ac Adroddiad ar Gynnydd y Cynllun Gweithredu. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr y Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr, a oedd wedi'i fabwysiadu fel polisi'r cyngor ac fel Canllawiau Cynllunio Atodol y cyngor ddydd Iau, 23 Mawrth 2017.

 

Amlygodd yr amcanion a'r camau gweithredu y cynllun lle ymddengys nad oes llawer neu ddim cynnydd wedi digwydd. Ychwanegodd y byddai'r Grŵp Llywio yn adolygu'r Cynllun Gweithredu y flwyddyn nesaf.

 

Trafododd y Grŵp Llywio gynnwys yr adroddiad gan gynnwys y canlynol;

 

·         Ni welwyd cynnydd mewn 11 amcan allan o 39 - roedd hyn yn ganlyniad cadarnhaol;

·         Roedd yr awdurdod wedi gwneud cynnydd da mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu presennol;

·         Amcan 13 - Parhau i sgrinio a monitro ansawdd aer a dŵr ar draws yr AoHNE a gofynion darparu'r ddau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

37.

Y Diweddaraf am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad ar y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. 

 

Amlygodd yr adroddiad y gyllideb ar gyfer 2016/17 fel a ganlyn:

 

Darparodd Llywodraeth Cymru £55,000 ar gyfer 2016/17, gyda £15,000 ychwanegol wedi'i gadarnhau ym mis Mawrth 2017. Mae'r arian hwn wedi'i wario erbyn hyn ac mae'r cyllid wedi'i adfer gan Lywodraeth Cymru.

 

Ariannwyd cyfanswm o 20 prosiect gan gynllun SDF yn ystod 2016/17, gyda ffi reoli Dinas a Sir Abertawe gwerth £5,500.

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 70,000.00

Cronfeydd sydd wedi eu neilltuo

£ 70,003.98

Cronfeydd sydd heb eu neilltuo

- £ 3.98

Ceisiadau ar waith

£ 0.00

 

Ychwanegwyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb SDF ar gyfer 2017/18 eto, ond awgrymwyd ar lafar mai £55,000 fydd y cyllideb honno.

 

Ariennir 8 prosiect drwy gyllideb SDF ar gyfer 2017/18 ar hyn o bryd, ac mae 3 cais arall ar waith.

 

Roedd ffigur y Cronfeydd sydd heb eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli Dinas a Sir Abertawe sydd werth £5,500 (10%).

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd sydd wedi eu neilltuo

£ 31,410.00

Cronfeydd sydd heb eu neilltuo

£ 23,590.00

Ceisiadau ar waith

£ 4,800.00

 

Trafododd y grŵp yr wybodaeth yn yr adroddiad ac awgrymwyd y dylid darparu adroddiad SDF yn flynyddol.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Darparu adroddiad blynyddol gan y Panel SDF i'r Grŵp Llywio.

 

38.

Adroddiad ar Gynnydd Partneriaeth Tirwedd Gwyr. pdf eicon PDF 6 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad cynnydd ar Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr (PTG). Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau PTG a nododd y byddai'r bartneriaeth yn dod i ben ym mis Mawrth a bod hi'n bwysig bod etifeddiaeth yn parhau.

 

Fel rhan o'r adroddiad, dangosodd ffilm fer yn ymwneud â chasgliad o straeon a gwybodaeth hanesyddol am y 189 o longddrylliadau o amgylch arfordir Gŵyr, a chafodd adborth cadarnhaol iawn gan y grŵp. Roedd y ffilm yn cynnwys plant o Ysgol Iau yr Hafod, Abertawe ac yn cynnig enghraifft o'r canlyniadau y gallai'r PTG eu darparu.

 

Cyfeiriodd y grŵp at ansawdd gwaith prosiect y PTG i ailadeiladu'r wal gerrig sych ym Mewslade. Cyfeiriwyd hefyd at ddefnyddio'r arian grant sy'n weddill mewn ffordd effeithiol, cyllideb/trefniant y dyfodol ar ôl mis Mawrth 2018. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai Partneriaeth Tirwedd Gŵyr gael ei chynnwys fel eitem reolaidd ar agendâu'r Grŵp Llywio yn y dyfodol.

 

39.

Llygredd Golau. pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Gordon Howe o Gyfeillion Gŵyr adroddiad a oedd yn ymwneud â llygredd golau.

 

Esboniodd fod y gymdeithas wedi sylwi ar gynnydd mewn llygredd golau yn AoHNE Gŵyr am gryn amser. Pwysleisiwyd hyn gan ganlyniadau'r gwaith ardderchog y mae Dinas a Sir Abertawe wedi'i gwblhau ar ailosod goleuadau stryd dros y tair blynedd diwethaf.  Rydym yn deall bod y goleuadau hyn wedi'u gosod yn arbennig i rwystro llygredd golau at i fyny yn ogystal ag arbed ar gostau cynnal am eu bod yn defnyddio llai o drydan.

 

Darparwyd nifer o enghreifftiau o lygredd golau gan eu bod yn cael effaith amlwg ar Ardal Awyr Dywyll (cynllun dynodedig cenedlaethol) AoHNE Gŵyr ac mae'n ymddangos nad ydynt yn cydymffurfio ag 'Arweiniad Goleuo AoHNE Gŵyr' ardderchog Dinas a Sir Abertawe, a ddaeth i rym oddeutu 10 mlynedd yn ôl.

 

Ychwanegwyd nad oedd yr enghreifftiau yn derfynol a bod rhai ohonynt yn waeth nag eraill. Fodd bynnag, esboniodd fod y rhain yn enghreifftiau sy'n mynd yn groes i'r dynodiad awyr dywyll a'r Arweiniad Goleuo.

 

Casglodd fod dim amheuaeth bod sawl enghraifft arall yn yr AoHNE, a achosir yn gyffredinol gan ddiffyg gwerthfawrogiad effaith yr Arweiniad Goleuo, a pheidio â chydymffurfio ag ef. Nododd safle gwersylla Pitton Cross fel cynllun cywiro golau ardderchog, a gwblhawyd ychydig o flynyddoedd yn ôl, a bod y cynllun wedi gwneud gwelliannau buddiol sylweddol i'r tirlun a'r awyr yn ystod y nos.

 

Trafododd y Grŵp Llywio gynnwys yr adroddiad, yn enwedig y llygredd golau a achoswyd gan y Maes Ymarfer Gyrru Golff ym Machynys, Llanelli; gweithio ar y cyd ag AoHNE yng Nghymru er mwyn cyflawni dynodiad awyr dywyll; a gwerthfawrogi'r awyr dywyll ym Mhenrhyn Gŵyr, gan gynnwys gofyn i dîm AoHNE ddod o hyd i'r hyn y bydd angen ei wneud i ddynodi Penrhyn Gŵyr fel Gwarchodfa Awyr Dywyll gofrestredig gyda'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.

 

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai Tîm AoHNE Gŵyr ddod o hyd i'r hyn y bydd angen ei wneud er mwyn i Benrhyn Gŵyr gael ei ddynodi'n Warchodfa Awyr Dywyll cofrestredig gyda'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.

 

40.

Partneriaeth AoHNE Gwyr - Etholiadau Blynyddol y Fforwm a'r Grwp Llywio. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn amlinellu'r trefniadau ar gyfer Fforwm Blynyddol y Bartneriaeth a gynhelir yn Neuadd Bentref Reynoldston nos Lun, 26 Mehefin am 7pm.  Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar rôl y Grŵp Llywio a gofynion yr aelodau.

 

Ychwanegwyd bod y Grŵp Llywio wedi ymddwyn fel corff rheoli Partneriaeth yr AoHNE, sy'n cynnwys hyd at 6 cynghorydd, 2 cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru a 10 cynrychiolydd arall.  Ym Mis Mai, byddai'r cyngor yn gwahodd enwebiadau ar gyfer ethol 10 cynrychiolydd arall, gyda gwybodaeth yn cael ei hanfon at aelodau Partneriaeth AoHNE ac yn cael ei hyrwyddo drwy'r cyfryngau lleol. Dwy flynedd fyddai hyd y swyddi.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

41.

Y diweddaraf am Dirweddau Dyfodol Cymru. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ddiweddariad ar lafar am Dirweddau'r Dyfodol Cymru.  Soniodd am y cynnydd ddiweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru i greu gweithgor, wedi'i gadeirio gan Dafydd Ellis-Thomas A.C. a rhoddodd wybod i'r grŵp fod rhaid canslo digwyddiad rhandeiliaid a drefnwyd ar gyfer canol mis Mawrth.

 

Ychwanegodd y byddai'r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad ychwanegol i randdeiliaid wedi'i drefnu ar gyfer mis Mai yng ngogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr raeadru'r adroddiad terfynol i'r Grŵp Llywio.

 

 

42.

Costau Bws Gostyngol.

Cofnodion:

Nododd John Davies, Bay Trans, fod arbrawf am flwyddyn wedi'i drefnu i leihau costau bws ar gyfer teithiau un ffordd o Benrhyn Gŵyr i Abertawe. Bydd costau bws ar gyfer teithio i gyfeiriad y dwyrain 30% yn rhatach, a'r syniad oedd denu pobl i ddefnyddio'r seddi gwag.

 

Byddai ymgyrch farchnata yn amlygu'r newid hwn, a fyddai'n annog trafnidiaeth gynaliadwy .