Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Penclawdd Community Centre, Penclawdd - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Croeso a Chyflwyniadau.

Cofnodion:

Croesawodd y cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i Ganolfan Gymunedol Penclawdd a dechrau'r cyfarfod. 

 

23.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

 

24.

Cofnodion. pdf eicon PDF 79 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod blynyddol Partneriaeth

AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 19 Medi 2016 yn gofnod cywir.

 

25.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Darpariaeth a Glendid Toiledau ym Mhenrhyn Gŵyr

 

Holodd Rod Cooper ynghylch y cynnydd o ran y materion a godwyd yn y cyfarfod blaenorol, yn enwedig yn Rhosili, ac a oedd y mater wedi'i amlygu i'r Aelod(au) Cabinet perthnasol. 

 

Nododd y Cynghorydd M C Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach fod perchnogaeth a rheolaeth y toiledau yn y dyfodol yn cael ei drafod â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

Cododd y grŵp faterion o ran y ddarpariaeth toiledau gyffredinol ym mro Gŵyr, yn enwedig y diffyg staff i reoli toiledau a gynhelir gan y cyngor yn effeithiol, yr effaith yr oedd glanweithdra gwael a darpariaeth toiledau'n ei chael ar dwristiaeth a'r angen i wella glanweithdra er mwyn i'r cyhoedd barchu'r gwasanaeth a ddarperir.

 

PENDERFYNWYD y byddai Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach yn rhoi'r diweddaraf i aelodau ar y mater hwn.

 

Ynn yn gwywo

 

Hysbyswyd aelodau'r cyfarfod gan Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, fod nodyn gwybodaeth am y clefyd yn Abertawe ar gael ar wefan y cyngor a byddai manylion yn cael eu cylchredeg i Gynghorau Cymuned a Thref.

 

Darpariaeth Band eang/Derbyniad Ffonau Symudol ym Mhenrhyn Gŵyr

 

Rhoddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr y diweddaraf i'r cyfarfod am y mast ffonau symudol arfaethedig yn Horton sy'n cael ei ddatblygu gan asiantiaid Llywodraeth y DU, Aquiva, dan y Prosiect Isdeiledd Ffonau Symudol (MIP).  Cwblhawyd y prosiect ym mis Mawrth 2016, ond nid oedd gwaith datblygu ar y mast wedi'i gwblhau.  Nododd fod Llywodraeth y DU wedi derbyn nad oedd yr MIP wedi llwyddo yn y modd yr oedd wedi gobeithio.  Fodd bynnag, amlygodd yntau'r goblygiadau ychwanegol ar gwmnïau ffonau symudol i ddarparu gwell signalau ffôn dros dirfas sy'n cael eu cyflwyno yn y Bil Economi Ddigidol a ddylai wella derbyniad mewn ardaloedd gwledig.

 

26.

Cymeradwyo Cynllun Rheoli AoHNE. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth gan Gynllun Rheoli AoHNE Gŵyr.

 

Amlinellwyd bod Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr (2016) wedi'i lunio gan y Tîm AoHNE ar ran Partneriaeth AoHNE Gŵyr. Wedi iddo gael ei fabwysiadu gan y cyngor dan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), byddai'n ffurfio'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) a byddai'n ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn yr AoHNE ac sy'n effeithio arni.  Darparwyd copi o'r Cynllun Rheoli yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

Ychwanegwyd bod y cynllun rheoli statudol cyntaf ar gyfer AoHNE Gŵyr wedi'i fabwysiadu a'i gyhoeddi gan y cyngor yn 2006. Lluniwyd y cynllun o ganlyniad i ymgynghoriad pellgyrhaeddol gyda chyfranogiad rhanddeiliaid dros fwy na dwy flynedd mewn cyfarfodydd, grwpiau ffocws, ymweliadau safle, cyflwyniadau ac ymgynghoriadau.

 

Cychwynnwyd yr adolygiad cyntaf hwn o'r cynllun rheoli yn

2010 ond cafodd ei oedi am sawl rheswm.  Rhagflaenwyd llunio Cynllun Rheoli terfynol AoHNE Gŵyr (2016) gan weithgareddau adolygu ac roedd y Cynllun rheoli terfynol yn cynnwys llawer o strwythur a fformat cynllun 2016.  Rhoddwyd manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y Cynllun Rheoli drafft i'r grŵp hefyd, ynghyd â goblygiadau cyfreithiol ac o ran adnoddau.

 

Trafododd y grŵp y canlynol: -

 

·         5.33 -  Amcan 16: Gwella safon a lefel rheoli bresennol gwaith cynnal a chadw'r hawliau tramwy cyhoeddus fel bod 95% ar agor, yn gallu cael eu defnyddio ac wedi’u nodi â chyfeirbyst - yn benodol, bryderon am fynediad a darparu hawliau tramwy cyhoeddus yn y dyfodol;

·         Y prif weithgaredd a allai effeithio ar benrhyn Gŵyr yw treillio tywod morol a datblygiadau tyrbinau gwynt alltraeth - mynegwyd pryderon hefyd am gynlluniau morgloddiau a chynlluniau mawr a allai o bosib effeithio ar yr AoHNE ac ardaloedd eraill, e.e. Arae'r Iwerydd;

·         Defnydd gan yr awdurdod o bolisïau a gyhoeddwyd o'r blaen, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â charafanau a chabanau sefydlog a sut byddai'r ardaloedd hyn yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu;

·         Thema 14: Cynyddu Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth - Gweledigaeth - Tirwedd a gydnabyddir yn llawn am ei rhinweddau arbennig ac sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i deall gan breswylwyr ac ymwelwyr - cynigiwyd mai'r thema hon ddylai fod y thema gyntaf gan mai dyma'r un bwysicaf;

·         Yr angen am fabwysiadu'r Cynllun Rheoli a'i ddefnyddio'n effeithiol;

·         Gellir rhoi caniatâd am ddiben penodol darparu tai fforddiadwy i ddiwallu'r prinder presennol i bobl y mae angen iddynt fyw'n lleol fel nad oes modd cyflawni hyn trwy'r farchnad dai gyffredinol - Amlygwyd bod angen i gynllunwyr lleol fabwysiadu ysbryd yr amcan hwn;

·         Yr angen i gael cynllun realistig â chanlyniadau y gellir eu cofnodi, adolygu'r Cynllun Rheoli'n flynyddol a mesur yn erbyn ei amcanion;

·         Y broses gymeradwyo ffurfiol drwy'r awdurdod;

·         Sut mae'r Cynllun Rheoli'n effeithio ar gyrff heblaw'r cyngor;

·         Amcan 28: Cynnal gwelliannau priffyrdd arfer da ar draws yr

AoHNE - y gofyniad i gynnwys gostwng cyflymder traffig ym mro Gŵyr yn y cynllun ac ymgynghori â phreswylwyr ynghylch unrhyw gynigion newydd;

·         Llwyddiant cynllun 2006, yn enwedig asesiad o'r amcanion a'r camau gweithredu o Gynllun Rheoli 2006 sy'n dangos lle mae amcanion a chamau gweithredu wedi cael eu cyflawni/cwblhau, heb eu datblygu, eu disodli neu mae angen eu cynnwys yng nghyfnod y cynllun presennol;

·         Yr angen am fersiwn fyrrach o'r cynllun â DPA clir;

·         Byddai angen cyfraniad sefydliadau partner i gyflwyno'r cynllun.

 

Dywedodd Paul Meller, Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol, wrth y grŵp fod y Gwasanaethau Cynllunio wedi newid y ffordd roedd yn monitro polisïau a strategaethau, ac yr eid i'r afael â'r rhai nad oedd yn gweithio ar gam cynnar.  Ychwanegodd yr adroddid i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cynllun ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, byddai'n ffurfio Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) a byddai'n ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio o fewn yr AoHNE ac a fyddai'n effeithio arni.  Dywedodd hefyd nad oedd y cynllun yn ddogfen a oedd yn seiliedig ar gynllunio'n unig a'i fod yn cynnwys meysydd gwasanaeth eraill megis priffyrdd, parcio a thwristiaeth.

 

Cynigiwyd gwneud y diwygiadau canlynol: -

 

·         Y ddau brif weithgaredd â'r potensial i effeithio ar fro Gŵyr yw treillio'r môr am dywod a datblygiadau tyrbinau gwynt alltraeth i'w diwygio i gynnwys morgloddiau;

·         Caiff y Cynllun Rheoli ei fonitro'n rheolaidd a'i adolygu'n flynyddol;

·         Thema 14: Symud 'Cynyddu Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth - Gweledigaeth - Tirwedd a gydnabyddir yn llawn am ei rhinweddau arbennig ac sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i deall gan breswylwyr ac ymwelwyr' i Thema 1 y cynllun.

 

O ystyried bod y Cynllun Rheoli'n fwy na dogfen gynllunio'n unig, teimlai'r grŵp y byddai cymeradwyaeth ehangach na'r hyn a ddarperir gan y Pwyllgor Cynllunio'n fwy priodol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

1)    Cymeradwyo Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr yn amodol ar gyflawni'r diwygiadau uchod ac y bydd swyddogion wedyn yn mynd ati i gael cymeradwyaeth y cyngor yn y dull sydd fwyaf priodol i gyfansoddiad y cyngor;

2)    Y bydd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn targedau'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

27.

Materion sy'n ymwneud â chynllunio ar Benrhyn G?yr. (Llafar)

·         Mae lliwiau'r carafanau'n cael eu newid yn araf;

·         Rhoddir amodau ar siediau yn yr AoHNE i'w gwneud yn llai amlwg yn y dirwedd.    

Cofnodion:

Cododd Gordon Howe, Cymdeithas Gŵyr, faterion o ran materion cynllunio ar benrhyn Gŵyr.  Amlygodd y canlynol: -

 

·         Lliwiau carafanau sefydlog - dylai lliwiau carafanau sefydlog gael eu gwella, yn enwedig gan fod carafanau'n gorfod cael eu hadnewyddu ar ôl 10 mlynedd ar safle. Mae lliw toeon rhai carfanau wedi newid ond mae angen newid lliw'r ochrau hefyd.  Ychwanegodd ei fod yn fater o geisio cael pobl i werthfawrogi'r gwahaniaeth;

Amodau'n cael eu rhoi i siediau o fewn yr AoHNE i'w gwneud yn llai amlwg yn y dirwedd - mae nifer o siediau wedi'u codi ym mhenrhyn Gŵyr gyda/heb ganiatâd a oedd yn groes i amodau cynllunio.   Ychwanegodd nad oedd y deunyddiau modern a ddefnyddir ar doeon gwyn siediau'n pylu, yn wahanol i siediau hŷn.  Roedd wedi tynnu sylw'r Gwasanaethau Cynllunio at yr achosion hyn er mwyn iddynt fynd ati i orfodi. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

28.

Y Diweddaraf am Bartneriaeth Tirwedd Gwyr. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ddiweddariad llafar ar Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr.

 

Amlinellodd fod y bartneriaeth wedi symud i fodel cyflwyno gwahanol a oedd yn fwy o rôl gomisiynu.  Cyflwynodd enghreifftiau o'r gwaith a wneir gan y bartneriaeth a rhoddodd y diweddaraf i'r grŵp am newidiadau  i’r aelodaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

29.

Y Diweddaraf am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad ar y diweddaraf am Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. 

Amlinellwyd mai'r gyllideb ar gyfer y gronfa eleni oedd £55,000. Mae 17 o brosiectau'n cael eu hariannu ar hyn o bryd, gyda 4 o geisiadau ychwanegol yn cael eu hasesu.  Ar hyn o bryd, roedd £7,626.52 heb ei neilltuo ar gyfer 2016/17, ond byddai hwn yn cael ei neilltuo'n llawn erbyn diwedd mis Ionawr.

Mae'r ffigur cronfeydd neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd Neilltuedig

£ 47,373.48

Heb eu neilltuo hyd yn hyn

£ 7,626.52

Ceisiadau Dan Ystyriaeth

£ 7,625.00

 

Ni fyddai'r gyllideb ar gyfer 2017/18 yn cael ei chadarnhau tan fis Mawrth/Ebrill 2017, fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi nodi y byddai cyllid ar gyfer 2017/18 yn aros yr un peth â 2016/17.  Fodd bynnag, roedd 6 phrosiect yn cael eu hariannu ar hyn o bryd ar gyfer 2017/18, gyda 2 gais yn cael eu hasesu, a 3 arall yn ddisgwyliedig o fewn y deufis nesaf.

 

Roedd cyllideb o £48,600 yn ddisgwyliedig, gyda £25,670 eisoes wedi ei neilltuo, a disgwylir ceisiadau gwerth £20,600.  Roedd yn debygol y byddai'r gronfa wedi ei neilltuo'n llawn cyn 2017/18.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

30.

Affordable Housing Sub-Committee.

Cofnodion:

Gofynnwyd am ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd yr Is-bwyllgor Tai Fforddiadwy.

 

PENDERFYNWYD y bydd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn dosbarthu'r dyddiadau i'r Is-bwyllgor.