Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Minor Hall, Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gower, Swansea. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Croeso a Chyflwyniadau.

Cofnodion:

Croesawodd y cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i Minor Hall, Neuadd Bentref Reynoldston a dechrau'r cyfarfod. 

 

13.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

 

14.

Cofnodion. pdf eicon PDF 79 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod blynyddol Partneriaeth

AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.

 

15.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion.

 

16.

Ynn yn gwywo. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad i'r Grŵp Llywio am glefyd coed ynn. Cyfeiriodd at fap o'r DU a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a ddangosodd yr achosion o ynn yn gwywo, gan gynnwys lleoliad y coed afiach yn Gŵyr. Cafodd y clefyd ei gludo o Ewrop a daethpwyd o hyd i'r achosion cyntaf a nodwyd yn y DU yn Nwyrain Anglia yn 2012.

 

Esboniodd fod clefyd coed ynn yn glefyd ffwng sy'n effeithio ar goed ynn. Bydd coed afiach yn dangos tystiolaeth o ddifrod i'r dail, gwywo i'r corun ac anafiadau.  Ychwanegodd mai ynn oedd y mwyafrif o'r coetir ar benrhyn Gŵyr, gan olygu y gallai'r afiechyd gael effaith sylweddol ar ganopi'r coetir a'r dirwedd ffisegol. 

 

Nododd nad oedd unrhyw ofynion rheoli statudol ar gyfer coed afiach, a dywedodd y byddai cael gwared ar y coed yn wrthgynhyrchiol gan fod cryn dipyn y gellir ei wneud er mwyn rheoli neu atal y clefyd.

 

Dangoswyd enghreifftiau o'r clefyd gan AoHNE Twyni Caint, a dywedwyd bod de-ddwyrain Lloegr yn dechrau dod i delerau â'r clefyd. Mae prosiectau presennol sy'n ymchwilio i'r clefyd yn cynnwys prosiect 'Living Ash' sy'n archwilio i ymwrthedd i'r clefyd.

 

Gofynnodd y grŵp gwestiynau i Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Gofynnwyd a oedd yn bosib adrodd am unrhyw achosion o glefyd coed ynn i CNC/Tîm AoHNE Gŵyr.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad llafar;

2)    Y dylai Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr gylchredeg gwybodaeth am glefyd coed ynn i'r Cynghorau Cymuned a Thref.

 

17.

Canclwm Japan ar Benrhyn Gwyr. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y diweddaraf ar lafar am Ganclwm Japan.  Rhoddwyd y diweddariad mewn ymateb i sylwadau a wnaed yn y Cyfarfod Blynyddol ynghylch contractwyr Dinas a Sir Abertawe'n torri Canclwm Japan wrth dorri gwrychoedd ym Mhenrhyn Gŵyr. Ychwanegodd fod arolwg ar waith ar hyn o bryd er mwyn cadarnhau i ba raddau y mae Canclwm Japan wedi ymledu ym Mhenrhyn Gŵyr.

                                   

Ychwanegodd nad oedd y contractwyr a oedd yn torri'r gwrychoedd i fod i dorri'r canclwm.  Fodd bynnag, roedd yn amlwg nad oedd hyn bob amser yn digwydd yn ymarferol.

 

Roedd Dinas a Sir Abertawe'n cynnal rhaglen chwistrellu ac roedd triniaeth newydd yn cael ei threialu.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiad.

 

18.

Anafusion ffyrdd ar gominau Gwyr. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y diweddaraf ar lafar am anafiadau ffyrdd ar diroedd comin penrhyn Gŵyr.  Tynnwyd sylw at y mater yn y Cyfarfod Blynyddol ac roedd trafodaethau â Chominwyr Gŵyr yn parhau. Tynnwyd sylw at gyflwyniad llwyddiannus camerâu cyflymder cyfartalog rhwng Llanrhidian a Thregŵyr, a'r gobaith oedd y byddai cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno ar diroedd comin Penrhyn Gŵyr.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y diweddariad.

 

19.

Cynllun Datblygu Lleol a Grwp Gweithredu Lleol. pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad i'r grŵp am y Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) a'r Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl).  Amlinellwyd bod y RhDG yn rhaglen Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n dod â datblygiad gwledig yn unol â blaenoriaethau'r UE. Mae'r rhaglen yn nodi ac yn cytuno ar ardaloedd lle gall cefnogaeth UE roi'r gwerth ychwanegol mwyaf, ac mae'n rhan o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

 

Roedd PAC Cymru wedi galluogi ariannu gweithgareddau sy'n cefnogi ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau gwledig. Roedd y gweithgareddau hyn wedi annog rheolaeth gynaliadwy amaethyddiaeth a'r amgylchedd mewn pedwar maes allweddol:

 

·         Amaethyddiaeth

·         Coedwigaeth, amgylchedd a chefn gwlad

·         Cadwyn gyflenwi ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth

·         Ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig

 

Cymdeithas anghorfforedig yw'r Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl), sy'n: -

 

·         Ceisio cynyddu gallu sefydliadau ac unigolion lleol i ddatblygu prosiectau a'u rhoi ar waith;

·         Llunio gweithdrefn ddethol dryloyw sy'n osgoi gwrthdaro buddiannau, yn sicrhau bod o leiaf 50% o'r pleidleisiau mewn penderfyniadau dethol yn cael eu bwrw gan bartneriaid nad ydynt yn awdurdodau cyhoeddus;

·         Blaenoriaethu prosiectau yn unol â'u cyfraniad at gyflawni amcanion a thargedau'r Strategaeth Datblygu Lleol (SDLl);

·         Paratoi a chyhoeddi cynigion neu weithdrefn cyflwyno prosiect barhaus a meini prawf dethol diffiniol;

·         Derbyn ac asesu ceisiadau am gefnogaeth;

·         Dewis prosiectau, gan gytuno ar lefelau cefnogaeth grant cyn eu cymeradwyo. Gwerth £445k o arian grant, graddfa ymyriad 80%.  Bydd y corff arweiniol yn sicrhau cydymffurfio a chymhwysedd;

·         Monitro rhoi'r SDLl ar waith, a'r prosiectau a gefnogir, ac yn gwerthuso gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r strategaeth.

 

Ychwanegwyd mai Dinas a Sir Abertawe oedd y corff arweiniol. Darparwyd hefyd weledigaeth ac amcanion y SDLl, yn ogystal ag aelodaeth bresennol y GGLl a'r tri is-grŵp.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

20.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Darparodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad yn rhoi'r diweddaraf am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Ychwanegwyd bod y Tîm AoHNE yn gweithredu cynllun grantiau bach, Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC), gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru. Nod y gronfa oedd cefnogi prosiectau blaengar, cynaliadwy ac amgylcheddol sy'n cynnwys cymunedau lleol mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE).

Nod y CDC yw datblygu a phrofi dulliau o gyflawni ffordd o fyw fwy cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig o harddwch ac amrywiaeth naturiol gwych, a hynny drwy bartneriaeth. Mae'r cynllun yn ceisio cadw a gwella'r nodweddion lleol, megis y diwylliant, y bywyd gwyllt, y dirwedd, y defnydd o'r tir a'r cymunedau lleol. Mae cynnal lles cymdeithasol a dichonoldeb economaidd cymunedau hefyd yn nodau pwysig o'r cynllun.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer grantiau bach sy'n llai na £3,000 neu grantiau mwy sy'n werth hyd at £25,000. Caiff ceisiadau dros £3,000 eu hasesu gan Panel Grantiau'r CDC, sef is-grŵp Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE.

Ar gyfer y flwyddyn bresennol, y gyllideb ar gyfer y gronfa oedd £55,000. Mae 15 o brosiectau'n cael eu hariannu ar hyn o bryd, gyda 4 o geisiadau ychwanegol naill ai'n ddisgwyliedig neu dan asesiad. Ar hyn o bryd, roedd £3,131.52 heb ei neilltuo ar gyfer 2016/17, ond roedd yn debygol y byddai hwn yn cael ei neilltuo'n llawn erbyn diwedd mis Hydref.

Mae'r ffigur cronfeydd neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd Neilltuedig

£ 48,118.48

Heb eu neilltuo hyd yn hyn

£ 3,131.52

Ceisiadau Dan Ystyriaeth

£ 3,000.00

 

Esboniwyd na fyddai'r gyllideb ar gyfer 2017/18 yn cael ei chadarnhau tan fis Mawrth/Ebrill 2017. Fodd bynnag, roedd 4 prosiect yn cael eu hariannu ar hyn o bryd ar gyfer 2017/18, gyda 2 gais dan asesiad, a 3 arall yn ddisgwyliedig o fewn y ddeufis nesaf. Roedd cyllideb o £48,600 yn ddisgwyliedig, gyda £25,670 eisoes wedi ei neilltuo, a disgwylir ceisiadau gwerth £20,600. Roedd yn debygol y byddai'r gronfa wedi ei neilltuo'n llawn cyn 2017/18.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

21.

Unrhyw fater arall.

Cofnodion:

Trafodwyd y canlynol: -

 

Darpariaeth a Glendid Toiledau ym Mhenrhyn Gŵyr

 

Nododd Barbara Parry fod profiadau ymwelwyr â Phenrhyn Gŵyr yn cael eu niweidio oherwydd darpariaeth toiledau gwael, a chyflwr gwael toiledau'r cyngor. Ychwanegodd fod angen gwella'r cyfleusterau os oedd y cyngor am ddenu mwy o dwristiaid i Benrhyn Gŵyr.

 

Trafododd y grŵp gyflwr cyfleusterau toiled penodol ym Mhenrhyn Gŵyr.  Nododd y Cynghorydd J P Curtice, fel Hyrwyddwr Pobl Hŷn, ei bod hi'n ymwybodol o broblemau tebyg ar draws Abertawe.

 

PENDERFYNWYD tynnu sylw'r Aelod(au) Cabinet perthnasol at y mater.

 

Darpariaeth Band eang/Derbyniad Ffonau Symudol ym Mhenrhyn Gŵyr

 

Mynegwyd pryder ynghylch darpariaeth band eang/derbyniad ffôn symudol gwael ym Mhenrhyn Gŵyr. Ychwanegwyd nad yw rhai apiau ffônau symudol yn gweithio oherwydd derbyniad ffôn gwael.

 

PENDERFYNWYD y byddai Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn diweddaru'r grŵp am y mast ffôn symudol yn Horton.