Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion Cyfarfod
y Grŵp Llywio a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Trafodaeth - Tir Comin Gwyr, Anafiadau Ffyrdd Da Byw. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Tynnodd Roger
Button sylw at nifer y damweiniau sy'n ymwneud â da byw ar Dir Comin Gŵyr,
i'w trafod. Trafododd y
Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Y nifer
uchel o anifeiliaid a laddwyd ar ffyrdd y tir comin a'r angen o bosib i
gyflwyno ffensys a lleihau cyflymder traffig; ·
Yr
arwyddion cyflymder a godwyd gan wirfoddolwyr yn cael eu difrodi gan stormydd
diweddar; ·
Cyflwyno
ffensys ffisegol ac electronig i atal da byw rhag crwydro ar y ffyrdd; ·
Grŵp
Trawsbleidiol sy'n trafod materion sy'n ymwneud â'r tir comin, sydd hefyd yn
cael ei fynychu gan yr Heddlu, Cominwyr, Grŵp
Diogelwch Tir Comin Gŵyr, a sut roedd cyflymder y traffig wedi gostwng o
60 mya i 40 mya; ·
A yw'n
gyfreithlon i osod ffensys o amgylch rhannau o dir comin, sut y byddai pobl
leol yn ymateb a'r anhawster o ran gosod camerâu cyflymder Gan Bwyll mewn
mannau priodol ar dir comin; ·
Cydnabod
mai cyflymder traffig oedd y ffactor cyffredin a'i fod yn fater diogelwch yr
oedd angen mynd i'r afael ag ef; ·
Casglu
ystadegau perthnasol ynghylch damweiniau sy'n ymwneud â da byw - lladdwyd dros 100 o anifeiliaid yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf, a faint o ddamweiniau nad oeddent yn cael eu hadrodd i'r
Heddlu?; ·
Yr
angen i dda byw aros ar dir comin er mwyn rheoli'r tir; ·
Y
datrysiadau amrywiol a ystyriwyd a sut yr oedd ardaloedd eraill yn profi
sefyllfaoedd tebyg; ·
Yr
anawsterau wrth gael y Fan Cyflymder Gan Bwyll i fynd i ardaloedd ym Mhenrhyn
Gŵyr, e.e. y tu allan i ysgolion; ·
Colli
da byw a'r costau i ffermwyr / berchnogion; ·
Sut
yr oedd ffyrdd tir comin yn annog gyrru cyflym a'r angen posib i edrych ar
atebion radical; ·
Faint
o'r cerbydau sy’n goryrru oedd yn cael eu gyrru gan breswylwyr Gŵyr. Cynigiodd Hamish Osborn
ei wasanaethau i helpu i ddod o hyd i atebion yn y dyfodol. Penderfynwyd nodi cynnwys y trafodaethau. |
|||||||||
Cais am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll - Diweddariad. PDF 295 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Chris
Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, adroddiad am y diweddaraf am y Cais am
Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll. Cyfeiriwyd at
ddiweddariad blaenorol a ddarparwyd ym mis Mawrth 2021 ac eglurwyd bod y
'Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Gŵyr' bellach wedi'u cymeradwyo fel Canllawiau Cynllunio Atodol gan
Bwyllgor Cynllunio Cyngor Abertawe.
Gallai tîm AoHNE Gŵyr bellach gwblhau'r cais Cymuned Awyr Dywyll
Ryngwladol i'r Gymdeithas Awyr Gwyllt Ryngwladol (IDA). Roedd y gweithgareddau perthnasol ers
Blwyddyn Newydd 2022 yn cynnwys: - ·
Trafodaethau
o'r newydd gyda chynrychiolwyr IDA ynghylch cwblhau'r cais yn erbyn eu
Canllawiau diwygiedig ar gyfer Cymunedau Awyr Dywyll Rhyngwladol 2018. ·
Cwblhau'r
gwaith monitro ansawdd awyr blynyddol, a wnaed ar ddiwedd mis Ionawr, gyda
gwaith maes pellach ar gyfer dechrau mis Mawrth. Nid oedd yr adroddiad monitro wedi'i gwblhau
eto. ·
Cyfranogiad
yn ystod Wythnos Awyr Dywyll gyntaf Cymru (19-27 Chwefror), gyda holl Barciau
Cenedlaethol Cymru a'r AoHNE yn cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein a
byw. ·
Rhaglen
barhaus o drawsnewid goleuadau stryd AoHNE Gŵyr yn unedau LED sy'n gyfeillgar
i Awyr Dywyll, gan dîm Goleuadau Priffyrdd Cyngor Abertawe. Byddai Tîm AoHNE
Gŵyr yn cwblhau'r gwaith o ddrafftio'r cais terfynol gyda'r gweithgor i'w
gyflwyno i'r IDA cyn gynted â phosib.
Byddai diweddariad pellach yn ystod Fforwm Blynyddol AoHNE Gŵyr. Trafododd y
Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Pryder
ynghylch effaith bosib dau ddigwyddiad presenoldeb mawr arfaethedig ar Benrhyn
Gŵyr, sut yr oeddent yn ddau ddigwyddiad ar wahân a manylion y
trafodaethau a gynhaliwyd gyda'r trefnwyr; ·
Yr anawsterau
o ran rheoli goleuadau ar dai preifat / eiddo preifat a sut mai addysg oedd y
dull a ffefrir ar gyfer delio â materion. Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|||||||||
Adroddiad am Grantiau AoHNE 2022/23. PDF 220 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb
o'r prif grantiau presennol sy'n cefnogi'r AoHNE a rhagolwg o'r flwyddyn
ariannol nesaf. Darparwyd manylion y grantiau canlynol: - ·
Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) – Amlinellwyd yr hanes
a'r cefndir. Esboniwyd bod y grant hwn
wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru a bod y gyllideb o £100,000 yn 2020/21 a
2021/22 wedi'i gwario/hymrwymo'n llawn. Yn amodol ar gwblhau / gadarnhau cyllideb
Llywodraeth Cymru, rhagwelwyd y byddai'r CDC yn parhau i 2022/23, er na
chytunwyd ar unrhyw ffigur. ·
Grant Partneriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) –
Darparwyd yr hanes a'r cefndir. Nodwyd
bod y grant hwn fel arfer yn rhan o gynnig aml-flwyddyn, er bod y grant
presennol yn gynnig un flwyddyn o tua £68,000 ynghyd â chyllid cyfalaf pellach
(£40,000) ar gyfer prosiectau bioamrywiaeth penodol drwy Gronfa Bioamrywiaeth a
Chydnerthedd Ecosystemau Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd
trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda CNC ynglŷn â'u cefnogaeth i'r
AoHNE. Unwaith eto, byddai unrhyw gynnig
yn amodol ar gadarnhad o gyllidebau Llywodraeth Cymru, ond deallwyd bod Cyfoeth
Naturiol Cymru yn ystyried cynnig rhaglen ddwy flynedd. ·
Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (TCLlC) - Roedd y rhaglen buddsoddi cyfalaf TCLlC ar draws wyth Tirwedd Ddynodedig Cymru yn sicrhau y
gallent gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Manylwyd ar y pedair
prif raglen. Cyflwynwyd cynigion prosiect,
gan gynnwys prosiectau cydweithredol gan y tirweddau dynodedig a dyrannwyd
arian gan Lywodraeth Cymru drwy bartneriaeth Tirweddau Cymru. £185,000 oedd cyfanswm grant TCLlC AoHNE Gŵyr yn 2020/21 a £225,000 yn
2021/22. Yn amodol ar gwblhau /
gadarnhau cyllideb Llywodraeth Cymru, roeddem yn rhagweld y byddai'r TCLlC yn parhau i 2022/23 ac y gallai fod yn ddyraniad
aml-flwyddyn, er na chytunwyd ar ffigur cyllideb. ·
Grant
Refeniw Llywodraeth Cymru - Cynigiodd Llywodraeth Cymru grant refeniw untro o £75,000 ar gyfer AoHNE Gŵyr ar gyfer
2021/22. Roedd y grant wedi galluogi ar
gyfer recriwtio Swyddog Prosiect Cymunedau a Natur AoHNE Gŵyr ar sail
cyfnod penodol (hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022). Deallwyd
bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu cyllid refeniw pellach ar gyfer pob
AoHNE yng Nghymru yn 2022-23, gyda dyraniadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd
ariannol nesaf. Diben y dyraniad oedd
mynd i'r afael â materion capasiti o fewn timau AoHNE
o ran cynyddu'r gwaith ar fioamrywiaeth, datgarboneiddio, cadernid cymunedol a
thwristiaeth gynaliadwy. Penderfynwyd nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|||||||||
Diweddariad yr Is-gr?p Twristiaeth. PDF 209 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru am gynnydd yr Is-grŵp
Twristiaeth. Dywedwyd yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2021 y "nodwyd bod Gweithgor
Pwysau Twristiaeth AoHNE Gŵyr wedi cyfarfod ar gyfer trafodaethau
rhagarweiniol ar 22 Tachwedd 2021. Byddai Swyddogion yn cysylltu â
rhanddeiliaid i ddarparu enghreifftiau ar gyfer cofnod gweithredu a byddai'r
gweithgor yn cyfarfod i drafod y canfyddiadau yn y flwyddyn newydd.” Ychwanegwyd bod yr Is-grŵp wedi cyfarfod ar 31 Ionawr 2022 ac wedi
dechrau paratoi'r cofnod materion i'w ddatblygu a'i gwblhau ymhellach. Roedd y prif faterion a nodwyd yn cynnwys: ·
Parcio dros nos ·
Rheoli digwyddiadau mawr ·
Cŵn sydd dan reolaeth wael ·
Lefelau uchel o draffig ·
Diogelwch y briffordd Ychwanegodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr hefyd y byddai'n parhau i weithio
ar y log materion gydag aelodau'r Is-grŵp ac y byddai'n adrodd yn ôl i
Bartneriaeth yr AoHNE maes o law. Cynigiodd Hamish Osborn, Cyfoeth Naturiol Cymru ei gefnogaeth i'r
Is-grŵp i gynorthwyo gyda'r allbynnau. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC). PDF 106 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Amlygwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi
cadarnhau mai cyllideb y CDC ar gyfer 2022/22 fyddai £100,000. Roedd 15 o brosiectau wedi'u cymeradwyo, gyda £100,000 wedi'i neilltuo, gan
neilltuo'r arian yn llawn ar gyfer 2021/22. Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000.
Byddai adroddiad manwl yn cael ei lunio ar ôl mis Ebrill a'i ddosbarthu i aelodau'r
Grŵp Llywio, gan dynnu sylw at y gwaith a wnaed gan y prosiectau y mae'r
Gronfa wedi'u cefnogi. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y CDC ar gyfer 2022/23
eto, ond roedd arwyddion y byddai'n fwy na £50,000. Byddai Panel Grantiau CDC newydd yn cael ei benodi yn dilyn cyfarfod Fforwm
Blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr ym mis Gorffennaf 2022. |
|||||||||
Cynllun Grant Tirwedd a Bioamrywiaeth Gwyr. PDF 215 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru ynghylch Cynllun
Grant Tirwedd a Bioamrywiaeth Gŵyr. Esboniwyd bod y cynllun grant, sy'n cael ei gynnal fel
is-gorff i'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a’i reoli yn lleol ar ran Llywodraeth
Cymru, yn anelu at gefnogi amrywiaeth o fentrau gwella tirwedd a bioamrywiaeth
yn AoHNE Gŵyr. Byddai'r grant yn cael ei anelu at dirfeddianwyr,
Cynghorau Cymuned a grwpiau eraill i annog a chefnogi prosiectau lle gallai
enillion bioamrywiaeth ymgysylltu â'r rheini a oedd yn byw yn y gymuned leol a
bod o fudd iddynt. Byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gynlluniau lle gellid
dangos y budd mwyaf o ran bioamrywiaeth a budd cymunedol. Byddai'r cynllun yn darparu cymorth grant ar gyfer y
gweithgareddau canlynol: ·
Waliau cerrig sychion ·
Gosod gwrychoedd a phlannu
·
Creu coetiroedd bach ·
Prysgoedio ·
Creu ac adfer perllannau ·
Creu pyllau ·
Adfer dolydd blodau gwyllt ·
Creu coridor blodau gwyllt
cymunedol ·
Nodweddion hanesyddol bach Byddai cyfres o nodiadau canllaw yn nodi pa safonau ac
amodau a ddefnyddiwyd a ble i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor ychwanegol. Byddai grantiau hyd at £3,000, gyda hyd at 50% o gyllid,
a gallai costau cymwys gynnwys gwaith, deunyddiau, gwaith arolygu a chynlluniau
rheoli. Roedd disgwyl i'r cynllun ddechrau gwahodd ceisiadau ym mis Ebrill
2022. Byddai ffurflen gais syml yn cael ei defnyddio i wneud
cais am gyllid, gyda chyngor a chefnogaeth gan Y Tîm AoHNE. Byddai cyfnod
cynnal a chadw o 10 mlynedd yn ddisgwyliedig, a byddai angen cynllun rheoli
syml fel rhan o'r cais. Byddai'r cynllun yn rhedeg fel cynllun peilot yn 2022/23,
fel y gellid ei adolygu a gwneud unrhyw ddiwygiadau i wella'r canlyniadau yn y
blynyddoedd canlynol. Byddai copïau o ddogfennau'r cynllun yn cael eu dosbarthu
i aelodau Panel Grant y CDC, ac aelodau Grŵp Llywio'r AoHNE. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Tirweddau Cymru - Diweddariad. PDF 118 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd
Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru ar Tirweddau Cymru. Esboniwyd mai Tirweddau Cymru (TC) yw partneriaeth y tirweddau dynodedig
yng Nghymru a oedd yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â heriau
cyffredin allweddol, gan gynnwys gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac
argyfyngau natur. Roedd partneriaeth TC yn cynnwys y pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
a thri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru.
Yn ogystal â chysylltu cyrff tirwedd â meysydd polisi allweddol
Llywodraeth Cymru a materion strategol Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd nodau a
chylch gwaith y bartneriaeth yn cynnwys: ·
Cysylltu cyrff tirwedd i weithio gyda'i gilydd ar heriau
allweddol. ·
Gweinyddu'r gronfa Tir Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy,
cronfa buddsoddi cyfalaf wedi'i rhannu ar draws pob tirwedd, gyda chyllid ar
gyfer prosiectau cydweithredol ar draws tirweddau lluosog. Roedd gweinyddiaeth Tirweddau Cymru o'r rhaglen TCLlC
eisoes wedi darparu dros £8 miliwn i gefnogi mwy na 90 o brosiectau ar draws
Tirweddau Dynodedig Cymru. Yn dilyn seminar ar-lein yr hydref ym mis Hydref 2021, roedd y paratoadau'n
dechrau ar gyfer seminar wyneb yn wyneb ar gyfer aelodau Partneriaeth AoHNE a'r
Parc Cenedlaethol a rhanddeiliaid eraill yn yr hydref mewn lleoliad yn ardal
Gŵyr. Penderfynwyd y dylid nodi
cynnwys yr adroddiad. |