Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing fel Is-gadeirydd ar gyfer

blwyddyn ddinesig 2019-2020.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd J P Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rydw i a fy nhad yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwyf i'n derbyn pensiwn a weinyddir gan gyn Gyngor Dyfed - personol.

 

Y Cynghorydd W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol a Chofnod rhif 6 – Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 – Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

 

S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

4.

Cronfa Olrhain Mynegai Carbon Isel - Diweddariad. pdf eicon PDF 42 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn diweddaru'r pwyllgor ar elfen drosglwyddo cronfa carbon isel y Polisi Llywodraethu Amgylcheddol a Chymdeithasol (LlACh).

 

Ychwanegwyd bod y cyngor wedi cymryd nifer o gamau i ddeall effaith materion LlACh ar y gronfa ac amlinellwyd y rhain yn yr adroddiad. 

 

Amlinellwyd, fel rhan o waith y gronfa, fod y pwyllgor wedi comisiynu MSCI i ddadansoddi amlygiad carbon y portffolio.  Roedd gan MSCI wybodaeth am amlygiad carbon pob stoc fyd-eang ac roedd yn gallu cymharu amlygiad carbon daliannau'r gronfa ag amrywiaeth o feincnodau cyfeirio. Dangosodd ganlyniadau'r astudiaeth fod asedau carbon y portffolio presennol 9% dan bwysau.  Cytunodd y pwyllgor i dargedu sefyllfa tan bwysau 50% erbyn 2022 yn ei bolisi LlACh a'r ffordd fwyaf effeithlon o ran gweithredu i ddechrau cyrraedd ei darged oedd trwy fynegai goddefol carbon isel.  Roedd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn flaenorol wedi cymeradwyo trosglwyddo ei asedau ecwiti olrhain mynegai cyfalafiad wedi'i bwysoli marchnad Blackrock gwerth tua £0.5 biliwn i gronfa olrhain Mynegai Carbon Isel Blackrock. Byddai hyn yn cyfrannu'n sylweddol at fodloni ei ymrwymiad i leihau ôl-troed carbon y gronfa 50% erbyn 2022. Dechreuwyd trosglwyddo'r asedau hynny ar 3 Gorffennaf 2019 a byddai'r cyfan wedi'i drosglwyddo erbyn diwedd y mis.

 

Yn ogystal, yng nghyfarfod Cyngor Abertawe a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019, cymeradwywyd hysbysiad o gynnig a oedd yn datgan argyfwng hinsawdd. Yn yr hysbysiad o gynnig, cyfeiriwyd at waith arloesol ac ymrwymiad Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i leihau ei ôl-troed carbon. Roedd Atodiad 1 o'r adroddiad yn darparu'r Polisi Llywodraethu Amgylcheddol a Chymdeithasol a luniwyd o ganlyniad i hyfforddiant cychwynnol, gwybodaeth bellach a gasglwyd, sylwadau a dderbyniwyd gan grwpiau â diddordeb a thrafodaeth a phroses gwneud penderfyniadau'r pwyllgor yn dilyn hyn. 

 

Gwnaeth y pwyllgor sylw ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed a'r uchelgais i leihau 50% o ôl-troed carbon y gronfa erbyn 2022, wrth sicrhau enillion buddsoddiad ar gyfer aelodau'r gronfa.

5.

Polisi Buddsoddiad Cyfrifol drafft Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth Polisi Buddsoddiad Cyfrifol (BC) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Cydnabyddir bod gan PPC bolisi BC sydd wedi'i ddiffinio'n glir, sy’n arfer gorau, y gellid ei roi ar waith ar draws ei gronfeydd. Nodwyd bod pob cronfa aelod o PPC ar gamau gwahanol o ran ystyried yr agenda LlAC/BC gyfan. Felly lluniwyd polisi PPC gyda golwg ar sicrhau i beidio â rhwymo cronfa unigol i ymrwymiad cyfyngol neu rwymol. Cynhwysir Atodiad 1 ym Mholisi BC y PPC.

 

Penderfynwyd cymeradwyo polisi BC y PPC.

6.

Cynllun Archwilio 2019 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro Gynllun Archwilio 2019 i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a oedd yn nodi'r gwaith archwilio arfaethedig, pryd y byddai'n cael ei wneud, faint byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n ei wneud.

 

Mae Atodiad 1 yn nodi cyfrifoldebau'r archwilydd, ynghyd â rhai'r rheolwyr a'r sawl sy'n gyfrifol am lywodraethu. Roedd Arddangosyn 1 yn darparu tri cham yr ymagwedd archwilio; roedd Arddangosyn 2 yn amlinellu'r risgiau yr ystyriwyd eu bod yn sylweddol yr oedd angen ystyriaeth arbennig arnynt yn yr archwiliad. Nodwyd y ffi archwilio arfaethedig ar gyfer y gwaith hwn yn Arddangosyn 3 a darparwyd yr amserlen ar gyfer yr archwiliadau arfaethedig yn Arddangosyn 5. Roedd gwaith maes archwilio'n mynd rhagddo a byddai'r ISA 260 sy'n amlinellu casgliadau/argymhellion yr archwiliad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi 2019.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

7.

Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19. pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2018/19.

 

Ychwanegwyd bod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi dechrau eu harchwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn 2018/19 yn unol â'u cynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach yn y flwyddyn. Cyflwynir eu hadroddiad i'r pwyllgor ym mis Medi 2019.  Darparwyd Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 yn Atodiad 1.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Aelodaeth ychwanegol oherwydd cofrestriad awtomatig;

·         Perfformiad cadarnhaol y gronfa;

·         Gostyngiad mewn dyraniad ecwiti;

·         Effaith dyfarniad McCloud.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2018/19, sy'n destun archwiliad.

8.

Cais i'r Corff Derbyn - The Wallich. pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth am gais y corff derbyn ar gyfer The Wallich.

 

Amlinellwyd, yn dilyn ymarfer adolygu gwasanaethau blaenorol a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT), penodwyd Tai Tarian

(Cartrefi Castell-nedd Port Talbot gynt) i reoli gwasanaethau tai ar ran CBSCNPT.  Roedd elfen o'r gwasanaeth hwnnw a oedd yn cefnogi'r rheini yr oedd digartrefedd yn effeithio arnynt, wedi'i ail-dendro’n dilyn hyn, a phenodwyd The Wallich am gyfnod o 3 blynedd.

 

Roedd The Wallich, sefydliad nid er elw gwirioneddol â statws elusen eithriedig gymeradwy, wedi bod yn darparu gwasanaethau llety a chefnogaeth i bobl ddigartref ers 1978. Dechreuodd y contract am wasanaethau ar 1 Gorffennaf 2017 am 3 blynedd.

 

Dan amodau'r contract, bydd y gweithlu cymwys presennol yn cael ei drosglwyddo dan drefniadau TUPE o'r cyflogwr presennol, Tai Tarian, i The Wallich.  Er mwyn cadw hawliau pensiwn y staff a drosglwyddir, cynigiwyd rhoi statws Corff Cydnabyddedig i The Wallich yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.  Cynigiwyd rhoi'r cytundeb derbyn ar sail cynllun caeedig, a fydd yn cynnwys y staff a enwir yn unig yn atodlen 1 y cytundeb derbyn.

 

Mae angen i'r cyflogwr noddi, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, sicrhau'r bond indemniad angenrheidiol neu'r warant cyflogwr sy'n noddi ar y cytundeb derbyn.  Bydd yr awdurdod gweinyddu hefyd yn cynnal asesiad risg priodol o'r corff a dderbynnir, The Wallich.

 

Trafodwyd manylion y cais gan y pwyllgor.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Cymeradwyo Cais Corff Derbyn The Wallich, yn amodol ar gwblhau Cytundeb Derbyn boddhaol (sy'n cydnabod dyddiad dechrau'r contract);

2)    Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid gwblhau'r Cytundeb Derbyn gydag ymgynghorwyr cyfreithiol penodedig, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

9.

Toriadau. pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Roedd Atodiad A yn darparu manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys gofyniad newydd mewn perthynas ag ad-daliadau clo. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

10.

Hyfforddiant Ymddiriedolwyr. pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad i bennu rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer Ymddiriedolwyr a Swyddogion y Gronfa Bensiwn.

 

Roedd paragraff 3.7 o'r adroddiad yn darparu'r hyfforddiant a gwblhawyd yn  2018/19 ac roedd yn amlinellu'r hyfforddiant arfaethedig ar gyfer 2019/20 fel a ganlyn: -

 

1.    Gweithdy Credoau Buddsoddiad PPC;

2.    Gweithdy Credoau LlAC PPC;

3.    Diwrnod 1, 2 a 3 Hanfodion Ymddiriedolwyr Cyflogwyr Llywodraeth Leol (CLlL);

4.    Uwchgynhadledd Buddsoddiad LGC;

5.    Hyfforddiant ar gyfathrebu;

6.    CCB Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol

7.    Hyfforddiant ymddiriedolwyr CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus).

 

Roedd paragraff 3.8 yn amlinellu y dylid dirprwyo'r gofynion hyfforddiant ar gyfer swyddogion i'r Dirprwy Swyddog Adran 151.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd M B Lewis wedi dweud y byddai'n mynd i'r digwyddiadau hyfforddiant lleol yn unig.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Cymeradwyo'r cynllun hyfforddiant amlinellol yn 3.7 a 3.8;

2)    Y byddai cyfleoedd pellach a nodir yn ystod y flwyddyn yn cael eu dirprwyo i'r Dirprwy Swyddog Adran 151 i'w cymeradwyo.

 

 

11.

Ymgynghoriadau Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar Gyfyngiadau Tâl Gadael a Chylch Prisio/Risg Cyflogwyr. pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ôl-dremiol ar gyfer yr ymateb i Ymgynghoriad Trysorlys EM a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) ar y terfyn ar Daliadau Ymadael, y Cylch Gwerthuso a Diwygio Gwerthuso.

 

Amlinellwyd bod y Llywodraeth yn bwriadu rhoi terfyn diamod o £95m ar daliadau ymadael yn y sector cyhoeddus a'i bod yn ceisio ymgynghoriad ar y rheoliadau i'w roi ar waith. Darparwyd yr offeryn statudol drafft a'r ymateb i'r ymgynghoriad yn Atodiad 1.

 

Roedd diffiniad y Llywodraeth o daliad ymadael yn cynnwys unrhyw gyfraniadau pensiwn ychwanegol y mae eu hangen i alluogi mynediad cynnar heb leihad i fuddion aelod pan fônt yn gorfod ymddeol yn gynnar ar ôl colli swydd yn 55 oed neu'n hŷn. I egluro hyn, byddai'r taliad ymadael yn cynnwys colli swydd (aelod yn derbyn taliad mewn arian parod) ac unrhyw gyfraniadau pensiwn ychwanegol (y gronfa bensiwn sy'n derbyn y taliad). Byddai'r terfyn mympwyol o £95m yn cynnwys gweithwyr y sector cyhoeddus hir eu gwasanaeth sy'n derbyn tâl cymedrol a nifer o newidynnau ar hyd y ffordd fel a amlygir yn yr ymateb arfaethedig.

 

Roedd gweddill yr ymateb yn nodi materion technegol a oedd yn ymwneud ag ym mha ffordd y byddai angen asesu'r 2 elfen o derfyn y tâl ymadael ac ymdrin â nhw, ynghyd â rhai o wendidau'r cynnig. Cymeradwywyd yr ymateb gan Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 2 Gorffennaf 2019.

 

Yn ogystal, cyhoeddodd MHCLG ymgynghoriad ar gynigion i amrywio'r cylch prisio 3 blynedd presennol, cynigion ynghylch taliadau ymadael a diogelu hawliau aelodaeth gweithwyr rhai cyflogwyr. Roedd actiwari penodedig y gronfa wedi rhoi'r ymateb i'r ymgynghoriad a ddarparwyd yn Atodiad 2.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Y bydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn cymeradwyo'r ymateb i'r ymgynghoriad a gafwyd gan yr Awdurdod Gweinyddu o ran y terfyn ar daliadau ymadael yn adolygol.

 

2)    Y bydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn cymeradwyo'r ymateb i'r ymgynghoriad gan actiwari penodedig y gronfa o ran y cylch prisio a diwygio prisio.

12.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

13.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa:

 

a)    Russell Investments.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Aidan Quinn, Sasha Mandich, Yacine Zerizef a William Pearce o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.

14.

PPC - Diweddariad.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru  a ddarparwyd gan weithredwr Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA) Link Asset Services. 

 

Cyfeiriwyd yn y diweddariad at y bwriad i gymeradwyo cronfa incwm sefydlog cyfran 3 gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FCA yn ystod chwarter 4 2019.

 

15.

Tai Preswyl fel Dosbarth Asedau.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Tai Preswyl fel dosbarth asedau buddsoddi.

 

Amlinellwyd bod y Gronfa Bensiwn ar hyn o bryd yn buddsoddi mewn ystod eang o ddosbarthiadau asedau, gan gynnwys ecwitïau, bondiau, eiddo, isadeiledd, ecwiti preifat, cronfeydd rhagfantoli a dyled breifat. Fodd bynnag, nid oedd ganddo ddosbarthiad tai preswyl.

Ychwanegwyd bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi derbyn diwrnod o hyfforddiant ar y dosbarth asedau ym mis Chwefror 2019 a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan reolwyr sy'n arbenigo yn sector rhentu'r farchnad, tai cymdeithasol, tai fforddiadwy a thai cefnogi'r digartref fel dosbarthiadau asedau y gellir buddsoddi ynddynt.

Roedd Atodiad 1 yn darparu crynodeb o nodweddion a buddion mabwysiadu tai preswyl fel dosbarth asedau

Trafododd y pwyllgor strwythuro'r ymarfer caffael i dargedu rhai mathau o dai preswyl, a'r posibilrwydd o leoleiddio materion er mwyn iddynt fod o fudd i'r economi leol.

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro y byddai'n ceisio cyngor ychwanegol gan Ymgynghorwr Buddsoddi/Gynghorwr Annibynnol.

Penderfynwyd mabwysiadu Tai Preswyl fel dosbarth asedau buddsoddiad.

16.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Darparodd Nick Jellema, Ymgynghorydd Buddsoddiadau, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r gwerthusiad o asedau a pherfformiad buddsoddiadau ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2019.

 

Yn Atodiad 1 roedd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2019.

17.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorydd Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt Mr Noel Mills, yr ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd.

 

Atodwyd yr adroddiad chwarterol a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2019 yn Atodiad 1.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.  Diolchwyd i'r ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd am ei adroddiad.

18.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mis Medi 2018.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi yn Atodiad 1.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.