Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorwyr J P Curtice, C E Lloyd ac W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r awdurdod ac rydw i'n derbyn pensiwn a weinyddir gan Raglen Pensiwn Cyngor Sir Dyfed - personol.

 

Swyddogion:

 

J Dong, J Parkhouse ac S Williams - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

43.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cadarnhau a llofnodi cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd a 18 Rhagfyr fel cofnodion cywir.

44.

Gweinyddu Disgresiwn yr Awdurdod. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro gyflwyniad a oedd yn ceisio cadarnhad o bob disgresiwn sydd ar gael i Awdurdod Gweinyddu Dinas a Sir Abertawe dan y Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol perthnasol.  Gwnaed hyn i sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Darparwyd rhestr o bob disgresiwn y mae'r Awdurdod Gweinyddu yn ei ddefnyddio, neu y mae'n dewis peidio â'i ddefnyddio yn Atodiad A. Amlygwyd pob disgresiwn newydd a phob disgresiwn a adolygwyd oherwydd rhoi adolygiadau ar waith er hwylustod cyfeirio atynt.

 

Ychwanegwyd na fyddai angen cyhoeddi pob disgresiwn.  Fodd bynnag, y bwriad oedd cyhoeddi'r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â phob disgresiwn sydd ar gael. Bydd pob disgresiwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Gronfa Bensiwn a bydd yn cael ei ddosbarthu i gyflogwyr sy'n cyfrannu at y gronfa.

 

Ar ben hynny, er bod y rhestr o ddisgresiynau'n amlinellu'r sefyllfa gyffredinol, roedd angen i'r cyngor ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod a gall fod yn groes i'r rhestr mewn amgylchiadau arbennig neu gyfiawnadwy.

 

Mae'r rheoliadau hefyd yn gofyn i gyflogwyr sy'n cyfrannu at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) lunio, cyhoeddi ac adolygu rhannau o'r cynllun lle gallant ddefnyddio'u disgresiwn. Mae'r Adran Bensiynau'n gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau y cydymffurfir â hyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo disgresiynau Awdurdod Gweinyddu'r CPLlL a ddiweddarwyd ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a atodir yn Atodiad A.

 

45.

Cais Corff Derbyn - Parkwood Leisure. pdf eicon PDF 49 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo cais y corff derbyn ar gyfer Parkwood Group er mwyn sicrhau y cydymffurfir â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013 (fel y'u diwygiwyd).

 

Amlinellwyd bod yr awdurdod wedi gweithredu ymarfer caffael, a rhoddwyd contract i Parkwood Group i gynnal Plantasia. Byddai'r cwmni'n gyfrifol am weithredu'r cyfleuster hamdden a byddai hyn yn cynnwys y gweithrediadau o ddydd i ddydd, staffio, gwasanaethau cwsmeriaid, iechyd a diogelwch a marchnata'r cyfleusterau. Penderfynwyd bod y gwasanaethau hyn yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer statws corff derbyniedig dan y Rheoliadau CPLlL. Dechreuodd y contract ar gyfer gwasanaethau ar 1 Chwefror 2019.

 

Ar ben hynny, dan amodau'r contract, cynigiwyd trosglwyddo'r gweithlu presennol dan drefniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) o'r cyflogwr presennol, Dinas a Sir Abertawe, i Parkwood Group.  Er mwyn cadw hawliau pensiwn y staff a drosglwyddir, cynigiwyd hefyd roi statws corff derbyniedig i Parkwood Group yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ac y rhoddir y cytundeb derbyn ar sail cynllun caeëdig, a fydd yn cynnwys y staff a enwir yn atodlen 1 y cytundeb derbyn yn unig.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    cymeradwyo Cais i'r Corff Derbyn gan Parkwood Group, sy'n destun cwblhau'r Cytundeb Derbyn yn foddhaol;

2)    rhoi awdurdod i'r Dirprwy Swyddog Adran 151 gwblhau'r cytundeb derbyn fel a amlinellir yn yr adroddiad hwn, gydag ymgynghorwyr cyfreithiol penodedig y Gronfa Bensiwn.

 

46.

Adroddiad Toriadau. pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Darparodd Atodiad A fanylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2018. Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr.

47.

Cynllun Busnes 2019-20. pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro Gynllun Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20 er mwyn darparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2019/20. Atodwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1.

Penderfynwyd nodi Cynllun Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019/20 a chymeradwyo'i gynnwys.

 

48.

Gweinidog dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Arweiniad Drafft ar Gronni Asedau - Ymateb Partneriaeth Pensiwn Cymru. pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth o ymateb ar y cyd gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a Phartneriaeth Pensiwn Cymru i ymgynghoriad MHCLG ar Gronni Asedau CPLlL.

 

Dosbarthwyd arweiniad drafft Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) ar rai egwyddorion cronni ar gyfer ymgynghoriad yn Atodiad 1.

 

Ychwanegwyd bod ymgynghorwyr penodedig y Gronfa Bensiwn wedi cynghori nifer mawr o gronfeydd CPLlL, wedi gwerthuso'r arweiniad, wedi gwneud rhai arsylwadau ac wedi darparu adborth i'w cleientiaid.  Darparwyd hyn yn Atodiad 2.  Darparwyd yr ymateb drafft cyntaf i'r ymgynghoriad ar arweiniad cronni drafft yn Atodiad 3.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ymateb ar y cyd yn Atodiad 3.

49.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

50.

Polisi Benthyca Stoc Partneriaeth Pensiwn Cymru (PCC).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth o raglen benthyca stoc Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe eisoes wedi cymeradwyo polisi benthyca stoc fel rhan o'i phortffolio gyda'r bwriad o gynyddu incwm buddsoddi. Oherwydd trosglwyddiad arfaethedig (o'r mwyafrif) o'r asedau a restrir i Gronfa CCA Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), roedd angen llunio a chymeradwyo Polisi/Rhaglen Benthyca Stoc ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Amlygwyd manteision benthyca stoc yn Atodiad 1.  Darparwyd y rhaglen benthyca stoc arfaethedig ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Atodiad 2.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Rhaglen Benthyca Stoc Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Atodiad 2.

 

51.

Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Incwm Sefydlog Cyfran 3.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer strwythur is-gronfa cyfran 3 (incwm sefydlog) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Eglurwyd y trefnwyd i is-gronfeydd cyfran 3 fod yn is-gronfeydd incwm sefydlog gweithredol.  Ar ôl sawl mis o waith llunio ac ystyried yr is-gronfa gan yr 8 cronfa sy'n aelodau, ar y cyd â'u hymgynghorwyr Russell, roeddent wedi datblygu'r strwythur a argymhellir i'w gymeradwyo. Darparodd Atodiad 1 y strwythur is-gronfa arfaethedig ar gyfer cyfran 3, incwm sefydlog.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    cymeradwyo'r strwythurau is-gronfa yn Atodiad 1;

2)    rhoi caniatâd dirprwyedig i'r Dirprwy Swyddog Adran 151/Ymgynghorwyr Buddsoddi/Ymgynghorwyr Annibynnol i glustnodi ar draws y cronfeydd mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y pwyllgor.

 

52.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Cyflwynodd William Marshall a Nick Jellema, Hymans Robertson, y buddsoddi chwarterol a diweddariad ar gyfer y farchnad yr ymgynghorwyr buddsoddi penodedig i'r gronfa, gan gynnwys papur diweddaru ar y raglen diogelu ecwiti.

 

Darparwyd y papur rhoi strategaeth buddsoddi ar waith yn Atodiad 1, y Diweddariad Diogelu Ecwiti yn Atodiad 2 a'r Adroddiad am Fuddsoddiadau Chwarterol gan Hymans Robertson yn Atodiad 3.

 

Cyfeiriwyd at y Crynodeb Diogelu Ecwiti yn Nhabl 1 yn Atodiad 2.  Rhoddwyd diweddariad ar weithredu'r rhaglen Diogelu Ecwiti, a disgwylir ei rhoi ar waith ar 18 Mawrth 2019.

 

Gofynnwyd cwestiynau amrywiol gan y pwyllgor, ac fe'u hatebwyd yn briodol.  Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am eu diweddariad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo defnyddio'r strategaeth lleihau risgiau a amlinellir yn Atodiad 1 a ddirprwyir i swyddogion/ymgynghorwyr buddsoddi mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

53.

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad 'Er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt Mr Noel, yr ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd.

 

Atodwyd yr adroddiad chwarterol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2018 yn Atodiad 1.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'i hatebwyd yn briodol.  Diolchwyd i'r ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd am ei adroddiad.

54.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'Er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2018.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2018 yn Atodiad 1.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.