Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: - Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac
yn cyfrannu i'r Gronfa Bensiwn. NODWYD bod y Cynghorydd P Downing wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad a phleidleisio ar unrhyw eitem
sy'n ymwneud â chyflogaeth gyffredinol staff, materion cyllidebol ac unrhyw
faterion eraill sy'n effeithio ar y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol, ac
eithrio materion sy'n cael effaith uniongyrchol ar ei frawd mewn perthynas
benodol â'i swydd.
Y Cynghorydd C E
Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
cyfrannol o'r Cynllun Pensiwn ac rwyf yn derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol -
gweinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol. Y Cynghorydd M
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf fi a fy ngwraig yn aelodau o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. NODWYD bod y Cynghorydd M Thomas wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad ond nid i bleidleisio ar unrhyw
eitem sy'n ymwneud â chyflogaeth gyffredinol staff, materion cyllidebol ac
unrhyw faterion eraill sy'n cael effaith uniongyrchol ar ei wraig mewn
perthynas benodol â'i swydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
|
Adroddiad ISA 260 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 476 KB Cofnodion: Cyflwynodd Geraint
Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad yn nodi'r materion a gododd i'w
hystyried o'r archwiliad ar ddatganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer
2015-16 a oedd yn gofyn am adroddiad dan SRA 260. Mae'r Cynllun
Archwiliadau ar gyfer y Gronfa Bensiwn a chyflwynwyd ym mis Mawrth 2016 yn
nodi'r risgiau archwiliad ariannol y'u hystyrir yn rhai sylweddol. Bu'r
archwilwyr yn cynnal yr archwiliad er mwyn asesu'r risgiau hyn a hefyd i
ystyried unrhyw risgiau newydd a oedd efallai wedi codi. Dangoswyd crynodeb o'r
risgiau archwiliad ariannol, y gwaith archwilio a wnaed a'r casgliad yn
Arddangosyn 1. Nod yr Archwilydd
Cyffredinol oedd cyhoeddi adroddiad archwilio diamod am y datganiadau ariannol
wedi i'r awdurdod ddarparu Llythyr o Gynrychiolaeth yn seiliedig ar yr hyn a
amlinellir yn Atodiad 1. Amlinellwyd yr
adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2. Cafodd y gronfa bensiwn ei
chynnwys ym mhrif ddatganiadau ariannol y cyngor, a'r brif farn
a fynegwyd felly oedd o blaid y cynnig arfaethedig o gynnwys y Gronfa Bensiwn
ym mhrif ddatganiadau ariannol y cyngor. Amlinellwyd nad
oedd unrhyw gamddatganiadau wedi eu nodi yn yr adroddiadau ariannol a oedd heb
eu cywiro. Roedd nifer o gamddatganiadau a gywirwyd gan y rheolaeth, ond roedd
yr archwilwyr o'r farn y dylid tynnu sylw at hyn
oherwydd eu perthnasedd i gyfrifoldebau'r awdurdod dros y broses adrodd
ariannol. Nodwyd y rhain gydag esboniadau yn Atodiad 3. Ni chafodd y newidiadau
hyn unrhyw effaith ar Gyfrif y Gronfa, ond nodwyd yn y Datganiad o'r Asedau Net
bod cynnydd o £1,513,000 wedi bod o ran gwerth buddsoddiadau. Gwnaed hefyd
nifer o addasiadau cyflwyniadol eraill i'r datganiadau ariannol drafft a gododd
o'r archwiliad. Adroddwyd am faterion sylweddol eraill a gododd o'r archwiliad.
Amlinellwyd yr
argymhellion allweddol a gododd o'r archwiliad ariannol yn Atodiad 4. Roedd y
Rheolaeth wedi ymateb iddynt a bydd y cynnydd yn cael ei wirio yn ystod
archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle barnwyd unrhyw weithredoedd yn rhagorol, bydd
yr archwilwyr yn parhau i fonitro'r cynnydd a'i gynnwys yn yr adroddiad y
flwyddyn nesaf. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am y crynodeb o gywiriadau a wnaed i'r adroddiadau ariannol
drafft, a'r argymhellion a gododd o waith archwilio ariannol 2015-16, yn
enwedig o ran cysoni cronfa ddata ALTAIR a chydymffurfio â'r Datganiad o
Egwyddorion Buddsoddi cymeradwy, ac ymatebwyd iddynt yn briodol. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Datganiad o Gyfrifon 2015/16. PDF 53 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe ar gyfer 2015/16. Diolchodd i staff y Tîm Trysorfa a Thechnegol am
eu gwaith o ran llunio'r cyfrifon. Nodwyd bod Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n
ffurfio cydran benodol ac ar wahân o Ddatganiad Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe
yn ei chyfanrwydd. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio Datganiad o
Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2015/16 yn unol â'u
cynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach eleni.
Hwn oedd yr archwiliad cyntaf dan y trefniadau archwiliad allanol newydd ers i PriceWaterhouseCoopers adael eu swydd fel archwilwyr
penodedig. Atodwyd Datganiad o
Gyfrifon y Gronfa Bensiwn 2015/16 i Atodiad 1 yr adroddiad. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau a gwnaeth sylwadau am statws cyrff
cydnabyddedig, adenillion ar fuddsoddiadau, ffioedd
perfformio a manylion am y costau eraill a restrwyd dan Dreuliau Rheoli
Buddsoddiadau. PENDERFYNWYD: - 1)
Cymeradwyo
Datganiad o Gyfrifon Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2015/16; 2)
Mae
Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol yn rhoi dadansoddiad i'r pwyllgor am
gostau eraill a restrir dan Dreuliau Gweinyddol a Rheoli Buddsoddiadau. |
|
Effaith buddsoddi mewn carbon PDF 67 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i
gomisiynu astudiaeth i effaith buddsoddiad carbon/anfuddsoddiad
ar y portffolio. Diolchodd i'r grwpiau lobïo, gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, am eu
diddordeb mewn perthynas â pholisi a strategaeth buddsoddi'r Gronfa Bensiwn
mewn perthynas â'r ddadl am newid yn yr hinsawdd. Ychwanegwyd bod y Gronfa
Bensiwn wedi cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn risg allweddol, ac roedd yn
gweithio'n galed i'w deall a'i rheoli. Parhaodd y gronfa i fuddsoddi mewn
technoleg lân ac ynni adnewyddadwy drwy ei phortffolio ecwiti preifat, lle'r
oedd yn gallu dod o hyd i fuddsoddiadau a oedd yn darparu dychweliadau a
addasir o ran risgiau costau net. Amlygwyd hefyd bod rhaid i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn,
wrth gyflawni ei ddyletswyddau, gofio mai'r
ddyletswydd gyntaf yw talu pensiynau aelodau pan fyddant yn ymddeol, ac y
byddai dadfuddsoddiad asedau carbon heb opsiynau
eraill sy'n darparu dychweliadau cymesur yn creu ansicrwydd economaidd, a byddai'n
anghyfrifol i ddechrau ar raglen o ddadfuddsoddiad a
fyddai'n effeithio ar allu'r gronfa i dalu pensiynau. Rhoddwyd mwy o
wybodaeth am newid yn yr hinsawdd ac asedau carbon. Daethpwyd
i'r casgliad y dylid cydnabod nad oedd ateb hawdd i newid yn yr hinsawdd a
mabwysiadu polisi buddsoddiad carbon addas. Felly, awgrymwyd y dylid comisiynu
dadansoddiad o effaith carbon y portffolio presennol gyda'r nod o lunio polisi
buddsoddi carbon cydlynol. Trafododd
y pwyllgor yr angen i bennu strategaeth fuddsoddi gyfrifol, sut y bydd rhannu'n
effeithio ar y strategaeth, a'r angen i edrych ar wahanol ffyrdd o echdynnu
tanwyddau ffosil megis ffracio. PENDERFYNWYD comisiynu dadansoddiad blaenorol ar
effaith buddsoddiad carbon/anfuddsoddiad ar y
portffolio er mwyn helpu o ran llunio polisi carbon ar gyfer Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion
yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Dyraniad Isadeiledd - Hastings. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf
am benodiad y Rheolwr Buddsoddi mewn Isadeiledd a gymeradwywyd gan Bwyllgor y
Gronfa Bensiwn ar 3 Rhagfyr 2014. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'gwybodaeth llawn' a oedd yn cynnwys
y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin
2016. Atodwyd y crynodebau buddsoddi
chwarterol ar gyfer y Gronfa Bensiwnyn Atodiad 1 ar
gyfer y chwarter blaenorol, y flwyddyn flaenorol a'r tair blynedd flaenorol ar
gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2016. |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr adroddiad
yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt yr
Ymgynghorwyr Annibynnol a benodwyd.
Cyflwynodd Atodiad 1 yr adroddiad ar fuddsoddiadau ar gyfer y chwarter a
ddaeth i ben 30 Mehefin 2016 ynghyd â diweddariad ar gyfer y cyfnod o 1
Gorffennaf tan 2 Medi 2016 gan Mr V Furniss. Atodwyd yn Atodiad 2 y nodyn
economaidd a sylwebaeth y farchnad ar gyfer mis Medi 2016 gan Mr N Mills. Nodwyd cynnwys pob
adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu hadroddiadau. |
|
Cyflwyniad - Rheolwr Cronfa. a) Goldman Sachs – Bondiau Byd-eang. Cofnodion: (1) Rhoddwyd cyflwyniad ar y cyd gan Jason Smith
a Jason Freeman o Goldman Sachs. Gofynnwyd
cwestiynau mewn perthynas â chynnwys y cyflwyniad gan y pwyllgor ac ymatebwyd
i'r cwestiynau'n briodol. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniadau a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |