Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd -
mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei
chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd C E Lloyd – yr agenda yn ei
chyfanrwydd – aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei
chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei
chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan gyn-Gyngor Dyfed -
personol. Councillor W G Thomas - yr agenda yn ei
chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. A Lowe - yr agenda yn ei chyfanrwydd –
Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn
ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol -
personol. Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn
ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd C E Lloyd - yr
agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol -
personol. Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei
chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda
yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan gyn-Gyngor Dyfed -
personol. Y Cynghorydd W G Thomas - yr agenda yn
ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd –
Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
– personol. J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd –
Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
– personol. C Isaac – yr agenda yn ei chyfanrwydd –
Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
– personol. A Lowe – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod
o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 8 Medi 2021 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 820 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Eglurodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 mai hwn oedd adroddiad annibynnol
SRA260 yr Archwilydd Allanol. Cynigiodd Daniel
King ymddiheuriadau gan Jason Garcia a chyflwynodd yr adroddiad archwilio
diamod a oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau'r archwiliad o gyfrifon 2020-21. Dywedodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 fod llai o faterion i'w nodi
nag mewn blynyddoedd blaenorol ac eglurodd y materion mewn perthynas â'r
materion sylweddol a amlinellir yn Arddangosyn 2. Diolchodd y Cadeirydd
i Archwilio Cymru am yr adroddiad a chanmolodd y Dirprwy Brif Swyddog
Cyllid/Dirprwy Swyddog A151, Karen Cobb, Uwch Gyfrifydd a staff Cyllid am eu
holl waith. Penderfynwyd cymeradwyo'r Adroddiad Archwilio Cyfrifon. |
|
Adroddiad am doriadau. (Er gwybodaeth) PDF 286 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2021. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Y Diweddaraf am y Polisi - Gordaliad Pensiwn. PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad yn unol â
statud, i gymeradwyo'r polisi
Gordaliadau Pensiwn. Penderfynwyd cymeradwyo'r Polisi Gordaliadau Pensiwn yn Atodiad 1. |
|
Adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. PDF 484 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad i bennu a monitro
amcanion mesuradwy ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi penodedig fel sy'n ofynnol
gan ofynion CMA. Penderfynwyd cymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi a'u cynnydd yn erbyn yr un a amlinellir yn Atodiad 1, yn amodol ar adolygiad cyfnodol gan y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid. |
|
Diweddariad Gweinyddiaeth Pensiwn. PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Strategaeth Gweinyddu Pensiynau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad yn unol â statud i
ddiweddaru Polisi Disgresiwn yr Awdurdod Gweinyddu a'r Polisi Gweinyddu
Pensiynau. Dywedodd nad
oedd ond yn ceisio cymeradwyaeth ar y Strategaeth Gweinyddu Pensiynau ar hyn o
bryd. Byddai Polisi Disgresiwn yr
Awdurdod Gweinyddu yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn. Diolchodd y
Cadeirydd, ar ran Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, i'r Rheolwr Pensiynau a'i thîm am
eu holl waith caled. Penderfynwyd cymeradwyo'r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau. |
|
Adroddiad Sero-ned. PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad i ystyried y
goblygiadau a nodi dyddiad targed priodol a methodoleg i gyflawni portffolio
buddsoddi carbon sero net yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Amlinellodd
David Morton ac Andre Ranchin, Hymans
Robinson LLP y manylion yn Atodiad 1 – Uchelgais Sero Net a Chredoau Buddsoddi.
Penderfynwyd cymeradwyo'r
canlynol: A) Ymrwymiad
i sicrhau sefyllfa carbon sero net yn ei bortffolio buddsoddi erbyn 2037; B) Bydd
mabwysiadu Credoau Buddsoddi Cyfrifol y Gronfa fel yr amlinellir yn Atodiad 1
yn sail i weithredoedd y Gronfa ar risgiau yn yr hinsawdd; C) Datblygir
camau ar weithredu ar y newid yn yr hinsawdd y Gronfa ar draws tri maes
allweddol ('3 dimensiwn') i roi mwy o gydbwysedd rhwng: 1. Carbon a metrigau LlCA eraill (yn y
gorffennol a'r dyfodol); 2. Cyfleoedd a
fydd yn elwa o'r newid i economi carbon is; 3. Gweithgareddau ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd, ac annog arfer gorau ymhlith rheolwyr cronfeydd, cwmnïau buddsoddi a buddsoddwyr eraill. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 236 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. (Er gwybodaeth)
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth
Pensiwn Cymru (WPP) Dywedodd fod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu wedi cymeradwyo'r cytundeb rhwng Awdurdodau a gymeradwywyd hefyd gan Gyngor Abertawe ar 4 Tachwedd 2021. |
|
Adroddiad Buddsoddi. (Er gwybodaeth) Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Andre Ranchin, Ymgynghorydd Buddsoddi Hymans Adroddiad Monitro Buddsoddi Chwarter 3 2021 Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am ei adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. (Er gwybodaeth)
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y
chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: · Russel Investments - Y Diweddaraf am Ecwitïau Byd-eang ac Incwm Sefydledig Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Russell Investments
– Ecwitïau Byd-eang ac Incwm Sefydlog- Diweddariad Gwnaed cyflwyniad
gan Aidan Quinn, Taran Paik
a William Pearce o Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |