Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021/2022. Penderfyniad: Penderfynwyd y
dylid ethol y Cynghorydd C E Lloyd yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig
2021-2022 (Y Cynghorydd C E Lloyd fu’n llywyddu) Cofnodion: Penderfynwyd y
dylid ethol y Cynghorydd C E Lloyd yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig
2021-2022 (Y Cynghorydd C E Lloyd fu’n llywyddu) |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer dlwyddyn ddinesig 2021/2022. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd J P
Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd C E
Lloyd – yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan
gyn-Gyngor Dyfed - personol. Arsyllwr: I Guy - Cadeirydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse - yr
agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chofnod
Rhif 32 - Adroddiad a Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Drafft 2020/21 - Clerc
Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol. Cofnodion: Y Cynghorydd J P Curtice
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol -
personol. Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd C E
Lloyd – yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan
gyn-Gyngor Dyfed - personol. Arsyllwr: I Guy - Cadeirydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse - yr
agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chofnod
Rhif 32 - Adroddiad a Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Drafft 2020/21 - Clerc
Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo Cofnodion Cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021 fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo Cofnodion Cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad am doriadau. PDF 275 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd
manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn
ym mis Mawrth 2021. Amlygwyd manylion y
toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru. PDF 31 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a
oedd yn darparu fframwaith ar gyfer rhaglen waith Partneriaeth Pensiwn Cymru ar
gyfer 2021-2024. Ychwanegwyd, yn unol ag arfer gorau, fod Partneriaeth
Pensiwn Cymru wedi llunio cynllun busnes i lywio'i raglen waith ar gyfer y
cyfnod o 12 mis sydd i ddod. Darparwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2021/2024 yn
Atodiad 1. Ychwanegwyd ymhellach fod Penodi Cynrychiolydd Aelod o'r
Cynllun i'r Cydbwyllgor Llywodraethu wedi derbyn cytundeb rhyng-Awdurdod
diwygiedig a bod yn rhaid i bob awdurdod unigol hefyd gael cymeradwyaeth o'u
cyfarfod cyngor. Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn
Cymru 2021/22. |
|
Adroddiad a datganiad o Gyfrifon Blynyddol Drafft ar gyfer 2020/21. PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 yr adroddiad
a'r datganiad o gyfrifon blynyddol drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir
Abertawe ar gyfer 2020/21 i'w gymeradwyo. Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe bob amser wedi
cynhyrchu datganiad o gyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân mewn perthynas
â'r flwyddyn ariannol dan sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd
bynnag, mewn ymgynghoriad ag Archwilio Cymru, penderfynwyd cydgrynhoi'r ddwy
ddogfen yn un a symleiddio'r broses gynhyrchu/archwilio. Ychwanegwyd bod Swyddogion wedi cyflwyno adroddiad
blynyddol a datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer 2020/21 wedi'u cwblhau i
Archwilio Cymru i ddechrau eu harchwiliad. Roedd Archwilio Cymru wedi nodi na
fyddent yn dechrau eu harchwiliad o Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon
drafft 2020/21 y Gronfa Bensiwn tan fis Medi 2021 oherwydd oedi yn eu harchwiliadau
statudol o'u cleientiaid corff cyhoeddus eraill (gan gynnwys Cyngor Abertawe).
Byddai eu hadroddiad Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (SRhA)
260 dilynol gyda barn archwilio a chanfyddiadau archwilio'n cael eu cyflwyno i
Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad ym mis Tachwedd 2021. Atodwyd Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe 2020/21 yn Atodiad 1. Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar y canlyniadau rhagorol a ddarparwyd a
diolchwyd i'r staff yn y Gwasanaethau Ariannol a'u llongyfarch am eu gwaith a'u
hymrwymiad, yn enwedig drwy gydol pandemig COVID-19. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2020/21
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, yn amodol ar archwiliad. |
|
Ymholiadau ynghylch archwiliadau i'r rheini sy'n gyfrifol am Lywodraethu. PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer rheolwyr a'r sawl sy'n gyfrifol am ymatebion
llywodraethu i ymholiadau archwilio 2020/21. Esboniwyd, yn
unol â gofynion statudol, fod Archwilio Cymru wedi amlinellu eu cynllun
archwilio i archwilio'r datganiad ariannol a'r dulliau rheoli ariannol
cysylltiedig mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe i Bwyllgor y
Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2021. Roedd
Archwilio Cymru wedi dweud y byddent yn dechrau eu gwaith maes archwilio yn
ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Medi 2021. Ychwanegwyd, fel
rhan o'u gwaith rhagarweiniol, fod Archwilio Cymru wedi gwneud rhai ymholiadau lefel
uchel mewn perthynas â'r fframweithiau llywodraethu a rheoli sydd ar waith ac
yn weithredol wrth reoli'r Gronfa Bensiwn.
Darparodd Atodiad 1 ymateb y rheolwyr a'r ymateb arfaethedig mewn
perthynas â'r sawl sy'n gyfrifol am Lywodraethu i'r ymholiadau archwilio hynny. Penderfynwyd cymeradwyo'r ymatebion atodedig i ymholiadau archwilio. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 236 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad ar y Strategaeth Buddsoddi.
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer parhad y rhaglen ailddyrannu asedau (lleihau risg)
bresennol o ecwitïau i asedau sy'n cynhyrchu, gan nodi'r enillion buddsoddi
rhagorol o 31% (cyfartaledd CPLlL o 22%). Cydnabuwyd bod gan y strategaeth arfaethedig
risg o ran cyfleoedd cymharol dyladwy os bydd marchnadoedd ecwiti'n parhau i
berfformio'n well ond cydnabuwyd ei bod
yn ddoeth cyn prisiad tair blynedd 31/3/22. Penderfynwyd: - 1)
Y dirprwyir awdurdod i'r
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151, mewn ymgynghoriad â'r
ymgynghorwyr buddsoddi penodedig a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, barhau
i weithredu'r rhaglen ailddyrannu asedau (dad-risgio) o ddadfuddsoddi
asedau ecwiti ac ailfuddsoddi mewn asedau amgen sy'n
cynhyrchu gan gynnwys buddsoddi mewn dosbarthiadau asedau/rheolwyr buddsoddi
newydd gan gynnwys pren. 2)
Y dirprwyir awdurdod i'r Dirprwy Brif Swyddog
Cyllid/Dirprwy Swyddog A151, mewn ymgynghoriad â'r ymgynghorwyr buddsoddi
penodedig a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, fonitro prisio diogelu ecwiti
ar gyfer cyfleoedd ail-weithredu wrth arfarnu offerynnau ariannol amgen (e.e.
cyllid masnach) a allai ddarparu yswiriant tebyg am bris cymharol well a
buddsoddi/gweithredu fel y bo'n briodol. |
|
Sero Net.
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn ceisio gwerthuso goblygiadau cyflawni portffolio buddsoddi carbon
sero-net yng Nghronfeydd Pensiwn Dinas a Sir Abertawe. Amlinellwyd bod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi cymeradwyo'r fersiwn gyntaf o'i Bolisi Buddsoddi
Cyfrifol yn 2017 ac roedd y fersiynau dilynol wedi nodi gostyngiad o 50% mewn
carbon yn ei dargedau ecwiti rhestredig erbyn 2022. Adroddwyd am y cynnydd yn erbyn y targed hwn
wrth Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2020. Ychwanegwyd bod
yr Awdurdod Gweinyddu, Cyngor Abertawe, wedi cymeradwyo targed uchelgeisiol o
fod yn sefydliad carbon sero-net erbyn 2030 a hefyd ar gyfer y Ddinas gyfan
erbyn 2050. Cytunwyd ar gynnal gweithdy ar y cyd gyda
Phwyllgor y Gronfa Bensiwn a'r Bwrdd Pensiwn Lleol Sero-Net ym mis Hydref 2021. |
|
Rheoli arian.
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth benodol ar gyfer y defnydd o gronfeydd y farchnad arian/cronfeydd
bondiau wrth reoli llifoedd arian parod gwaith y Gronfa Bensiwn yn effeithiol. Penderfynwyd cymeradwyo'r defnydd o arian y farchnad arian/cronfeydd
bondiau i'w ddefnyddio wrth reoli balansau llif arian
y Gronfa Bensiwn yn unol â Strategaeth Buddsoddi Rheolaeth Trysorlys yr
Awdurdod Gweinyddu a bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i'r Dirprwy Brif Swyddog
Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 weithredu hyn fel y bo'n briodol. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - diweddariad.
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru
(PPC). Darparodd Atodiad 1 yr adroddiad cynnydd a
diweddaru chwarterol, ynghyd â'r adroddiad blynyddol a ddarparwyd gan awdurdod
cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru, Cyngor Sir Gâr a Chynllun Contractiol
Awdurdodedig (ACS) The Operator - Link. Darparodd
Atodiad 2 lythyr Marchnadoedd Preifat PPC i aelodau'r Cyd-bwyllgor
Llywodraethu. Nodwyd bod y Cynghorydd C E Lloyd, Cadeirydd Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi'i benodi'n Gadeirydd Cyd-bwyllgor
Llywodraethu PPC. |
|
Gwarchodaeth a gwasanaethau cysylltiedig. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer proses gaffael briodol a phenodiad dilynol i atgyfnerthu
gwarchodaeth a gwasanaethau cysylltiedig ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir
Abertawe. Penderfynwyd rhoi cymeradwyaeth ddirprwyedig i'r
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 i: - a)
Gael
mynediad at fframwaith CPLlL Norfolk
ar gyfer gwarchodaeth a gwasanaethau cysylltiedig; b)
Defnyddio'r
fframwaith yn ôl y gofyn gyda'r bwriad o atgyfnerthu darparwr y warchodaeth yn
unol â darpariaeth PPC. |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorydd Buddsoddi.
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Nick
Jellema ac Andre Ranchin, Ymgynghorwyr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth', a
gyflwynodd yr Adroddiad Monitro Buddsoddi Chwarterol. Nodwyd cynnwys yr
adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.
Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am eu hadroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi.
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn cyflwyno'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Atodwyd crynodebau
buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021 yn Atodiad 1. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: · Russell Investments – Ecwitïau Byd-eang/Mandadau Incwm Sefydlog Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gwnaed cyflwyniad
gan Aidan Quinn,Helena Hui Rovonas, Gerard Fitzpatrick, Andreas Koester
a Taran Paik o Russell Russell
Investments ar Ecwitïau Byd-eang/Mandadau Incwm
Sefydlog. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddarparu'r cyflwyniad. |