Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd J P
Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P Downing
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd C E
Lloyd – yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan
gyn-Gyngor Dyfed - personol. Y Cynghorydd W G
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Arsyllwr: I Guy - Cadeirydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2021. PDF 781 KB Cofnodion: Cyflwynodd Jason
Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), Gynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe 2021. Amlinellwyd mai
diben y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig gan SAC, pryd y byddai'n cael ei
wneud, faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n gwneud y gwaith. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar y canlynol: - ·
Effaith
barhaus COVID-19, yr ansicrwydd wrth symud ymlaen a sut roedd SAC yn bwriadu
ymgymryd â'u gwaith. ·
Archwilio
cyfrifon y Gronfa Bensiwn. ·
Risgiau'r
archwiliad ariannol, gan gynnwys risgiau sylweddol; effaith COVID-19; Dyfarniad
McCloud; buddsoddiadau ecwiti preifat; a
Phartneriaeth Pensiwn Cymru. ·
swyddogaethau
Archwilio Statudol. ·
Ffi,
tîm archwilio ac amserlen. Mynegodd y
Pwyllgor ddiolch bod y ffi archwilio wedi aros yr un peth â 2020/21. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd SAC am ddod i'r cyfarfod a chyflwyno'r adroddiad. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
ceisio sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol.
Amlinellwyd bod
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, yn unol â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol, wedi cynhyrchu a chymeradwyo datganiad strategaeth ariannu,
mewn ymgynghoriad â chyflogwyr ei gynllun, yr actiwari
penodedig a'r ymgynghorwyr ym mis Mawrth 2020.
Manylwyd hefyd ar
brif ddiben y Datganiad Strategaeth Ariannu, canllawiau'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth
Leol (MHCLG) a chanllawiau'r Bwrdd Cynghori ar y Cynllun. Darparwyd Datganiad
drafft y Strategaeth Ariannu – Mawrth 2021 yn Atodiad 1. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Sicrhau
yn erbyn y golled bosib o ganlyniad i gyflogwyr trydydd parti’n dod yn rhan o'r
Gronfa ond yn methu anrhydeddu eu hymrwymiadau, yr opsiynau sydd ar gael wrth
ddod yn rhan ohoni megis bond yn cael ei dalu i yswirio yn erbyn colled a
gwarantau noddi trosgynnol a ddarperir gan Gynghorau Abertawe neu Gastell-nedd
Port Talbot; ·
Sicrhau
nad yw'r Gronfa, ei haelodau a'r trethdalwr yn dioddef unrhyw golledion o
ganlyniad i drydydd partïon yn mynd i’r wal; ·
Y
broses ymgynghori; ·
Effaith
bosib achos Goodwin. Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau i'r datganiad
strategaeth ariannu, yn amodol ar ymgynghoriad. |
|
Adroddiad am Doriadau. (Er Gwybodaeth) PDF 240 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Darparodd Atodiad
A fanylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn
ym mis Tachwedd 2020. Amlygwyd manylion
y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 392 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
darparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer
2021/22. Amlinellwyd bod y
Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer gorau, wedi cynhyrchu cynllun busnes i lywio’i
rhaglen waith ar gyfer y cyfnod 12 mis sydd i ddod. Darparwyd y Cynllun Busnes
ar gyfer 2021/22 yn Atodiad 1. Trafododd y
pwyllgor yr wybodaeth a gynhwysir o fewn y cynllun fel a ganlyn: - ·
Y
diwygiad i gydnabod cynrychiolydd aelodau'r cynllun ar CBLl; ·
Parhau
i esblygu'r rhaglen lleihau carbon o fewn y portffolio ecwiti. Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes Blynyddol Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a chyllideb 2021/22. |
|
Hyfforddiant Ymddiriedolwyr. PDF 268 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
ceisio penderfynu ar rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn, aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn. Amlinellwyd y
cefndir a'r cynnydd a wnaed o ran anghenion hyfforddi a gwybodaeth a gafwyd,
gan gynnwys Côd Ymarfer CIPFA a gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth y Rheolydd
Pensiynau a Datganiad Polisi'r Gronfa Bensiwn.
Darparwyd
manylion Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
(NKA) a lansiwyd gan Hymans yn 2020, yr hyfforddiant Ymddiriedolwyr a gynhaliwyd
yn 2020/21 a'r rhaglen hyfforddi arfaethedig yn 2021/22. Penderfynwyd cymeradwyo'r asesiad a'r cynllun
hyfforddiant amlinellol ym mharagraffau 3.7, 3.8 a 3.9 ac y dylai cyfleoedd
pellach a nodir yn ystod y flwyddyn gael eu dirprwyo i'r Dirprwy Swyddog Adran
151 i'w cymeradwyo. |
|
Rheoliadau Taliadau Ymadael - Diweddariad. (Er Gwybodaeth) PDF 220 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn diweddaru Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar y Rheoliadau Cap Ymadael
gwerth £95k a ddatgymhwyswyd ar 12 Chwefror 2021. Amlinellwyd bod
Trysorlys EM wedi cyhoeddi Cyfarwyddiadau Taliad Ymadael 2021 a oedd yn
datgymhwyso rheoliadau 3.9 a 12 o Reoliadau Cyfyngu ar Daliadau Ymadael y
Sector Cyhoeddus 2020. Roedd hyn yn golygu nad oedd y cap ymadael yn berthnasol
i daliadau ymadael a oedd yn digwydd ar neu ar ôl 12 Chwefror 2021. Roedd y
Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi nodiadau arweiniol ar gyfer
Awdurdodau Gweinyddu a ddarparwyd yn Atodiad 1.
Nodwyd, er bod y Cap Ymadael ar ei ffurf wreiddiol wedi'i ddatgymhwyso,
fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno dull capio amgen i daliadau ymadael y
sector cyhoeddus 'ar gyflymder'. Ychwanegwyd nad
oedd unrhyw ymadawiadau’n torri'r cap rhwng 4 Tachwedd a 12 Chwefror ar gyfer
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Yn
ogystal â hyn, adroddwyd bod Y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a
Llywodraeth Leol (MHCLG) wedi stopio ymgynghoriad yn gofyn am farn ar gynigion
i ddiwygio telerau taliadau ymadael pellach ac roedd yr ymgynghoriad hwn yn dal
i fynd rhagddo. |
|
Gwahardd Y Cyhoedd. PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth
Pensiwn Cymru). Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan
weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. Roedd Atodiad 2 yn darparu llinell amser Marchnadoedd Preifat WPP. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cofnodion: Darparodd Nick
Jellema, Ymgynghorwr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno
Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 4 2020/21. Nodwyd cynnwys yr
adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.
Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am yr adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad "er gwybodaeth", a oedd yn cyflwyno’r perfformiad buddsoddi ar
gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020
ynghyd â diweddariad cyllid ar 31/12/20 a ddangosodd y lefel ariannu ar 99.6% Atodwyd
crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y
flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020 yn Atodiad 1. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: Ecwitïau Byd-eang Presennol Partneriaeth Pensiwn Cymru a Rheolwyr Incwm Sefydlog, Russell Investments. Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad gan Aidan Quinn a Taran Paik o Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddarparu'r cyflwyniad. |