Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing fel Is-gadeirydd
ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd J P
Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd
C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan
gyn-Gyngor Dyfed - personol. Y Cynghorydd W G
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Arsyllwr: I Guy - Cadeirydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda yn
ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 860 KB Cofnodion: Cyflwynodd Jason
Garcia ac Andrea Williams (Archwilio Cymru) yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon –
Dinas a Sir Abertawe a oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau'r archwiliad o
gyfrifon ar gyfer 2019-20. Esboniwyd bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar bob agwedd
ar ein cymdeithas ac roedd yn parhau i wneud hynny. Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r cyngor
baratoi cyfrifon ac roedd yn enghraifft o ymrwymiad y tîm cyfrifon bod y cyngor
wedi llwyddo i wneud hynny eleni yn wyneb yr heriau a gafwyd yn sgíl y pandemig hwn. Roedd Archwilio Cymru yn hynod ddiolchgar am
broffesiynoldeb y tîm wrth eu cefnogi i gwblhau ein harchwiliad mewn
amgylchiadau mor anodd. Derbyniodd
Archwilio Cymru y datganiad cyfrifon drafft ar 10 Mehefin 2020, fel y cytunwyd
gyda'r Gronfa Bensiwn, a derbyniodd set o gyfrifon ar 2 Medi 2020 yn dilyn rhai
addasiadau gwerthuso asedau. Derbyniwyd y fersiwn hon fel y set ddrafft o
gyfrifon a fyddai'n cael eu harchwilio gan eu bod wedi'u derbyn cyn i Archwilio
Cymru ddechrau ar eu gwaith archwilio. Darparwyd
effaith y pandemig yn Arddangosyn 1. Amlinellwyd bod Archwilio Cymru yn bwriadu
cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y bydd yr Awdurdod
wedi darparu'r Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar yr hyn a nodir yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig yn
Atodiad 2. Ychwanegwyd
na nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol a oedd dal heb eu
cywiro. Roedd camddatganiadau yn y
cyfrifon i ddechrau a oedd wedi'u cywiro gan y rheolwyr. Darparwyd y
gwelliannau mwyaf arwyddocaol yn Atodiad 3.
Roedd Arddangosyn 2 yn cynnwys sylwebaeth ar y materion mwy arwyddocaol
y daeth Archwilio Cymru ar eu traws ac y bu'n gweithio gyda'r rheolwyr i'w
datrys. Dywedodd Jeff Dong,
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 fod y cyngor yn gwerthfawrogi'n
fawr yr hyblygrwydd a ddangoswyd gan Archwilio Cymru, a gwnaeth sylwadau ar y
ffordd gadarnhaol iawn yr oedd y ddau sefydliad wedi gweithio gyda'i gilydd. Dywedodd y
Cadeirydd fod yr adroddiad yn gyflawniad eithriadol gan y cyngor a chanmolodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151, Karen Cobb, yr
Uwch-gyfrifydd a'r staff Cyllid am eu gwaith. Penderfynwyd cymeradwyo'r Adroddiad Archwilio Cyfrifon. |
|
Adroddiad am Doriadau. (Er Gwybodaeth) PDF 346 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2020. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Gweinyddu Pensiwn - Adolygiad o Adnoddau Gweinyddu Adran Bensiwn. PDF 306 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
arfarnu'r lefelau staffio presennol o fewn y Tîm Gweinyddu Pensiynau, gyda'r
nod o fynd i'r afael â heriau gweinyddu cynlluniau a newidiadau rheoleiddiol i
sicrhau bod rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni. Amlinellwyd
manylion y cefndir a heriau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol a darparwyd
cynigion adnoddau. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r cynigion adnoddau a'r goblygiadau ariannol cysylltiedig a amlinellir ym mharagraff 5.5 a bod y Dirprwy Swyddog Adran 151/Rheolwr Pensiwn yn cael eu hawdurdodi i weithredu'r newidiadau ar unwaith. |
|
Diwygio Taliadau Ymadael - Ymateb i Ymgynghoriad y Llywodraeth. PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
darparu ymateb 'er gwybodaeth' yr Awdurdod Gweinyddu i ymgynghoriad y
Llywodraeth ar Ddiwygio'r Taliad Ymadael. Esboniwyd bod yr
ymateb, y bu'n rhaid ei ddarparu erbyn 4 Tachwedd 2020, wedi'i anfon ymlaen
gyda chymeradwyaeth Cadeirydd y Pwyllgor a Chadeirydd y Bwrdd Pensiynau Lleol. Darparwyd llythyr y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn amlinellu eu safbwynt yn Atodiad 1 a darparwyd ymateb yr Awdurdod Gweinyddu yn Atodiad 2. |
|
Gwahardd Y Cyhoedd. PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. |
|
Diweddariad am y Strategaeth Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad diweddaru a oedd yn
amlinellu cynnydd gweithredu'r strategaeth buddsoddi, a gymeradwywyd yn
flaenorol gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn. Darparodd Atodiad 1 adroddiad i'r cyngor ar 4 Tachwedd 2020 – 'Sut mae'r
Gronfa Bensiwn yn mynd i'r afael â risg newid yn yr hinsawdd yn ei phortffolio
buddsoddi'. Penderfynwyd y byddai Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn nodi ac
yn cymeradwyo: 1) yr ymrwymiadau
cyfalaf diwygiedig yn 2.1; 2)
yr adroddiad diweddaru yn Atodiad 1. |
|
Adroddiad Ymgynghorwyr Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd yr
Ymgynghorwr Buddsoddi, David Morton a Nick Jellema, adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 3 2020. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am yr adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. (Er gwybodaeth) Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020 yn Atodiad 1. |