Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

73.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd J P Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan gyn-Gyngor Sir Dyfed - personol.

 

Y Cynghorydd W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Arsyllwr:

 

I Guy - Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol a Chofnod rhif 76 – Adroddiad Blynyddol 2019/2020 – Clerc i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

74.

Cofnodion. pdf eicon PDF 246 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir.

 

75.

Adroddiad Blynyddol 2019/2020. pdf eicon PDF 270 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019/20. 

Esboniwyd bod datganiad ariannol drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi'i gyflwyno'n flaenorol i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2020. Roedd y datganiadau ariannol hynny'n cael eu harchwilio gan Archwiliad Cymru ar hyn o bryd a byddai eu crynodeb o SRA 260 yn cael ei gyflwyno ym mhwyllgor nesaf y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2020.

Darparwyd Adroddiad Blynyddol Dinas a Sir Abertawe 2019/20 yn Atodiad 1.

Tynnodd y pwyllgor sylw at y posibilrwydd o gyfathrebu ychwanegol ag aelodau'r Gronfa yn y dyfodol.

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20 yn Atodiad 1 yn amodol ar archwiliad terfynol.

76.

Adroddiad Toriadau. pdf eicon PDF 335 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2020. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

77.

Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) - Gosod Amcanion ar gyfer Ymgynghorwyr Buddsoddi. pdf eicon PDF 635 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad a oedd yn arfarnu cynnydd yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer yr ymgynghorwyr buddsoddi penodedig fel sy'n ofynnol gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).

 

Darparodd yr adroddiad ofynion CMA, pwysigrwydd yr amcanion, pennu amcanion ar gyfer ymgynghorwyr, mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio.

 

Darparodd Atodiad 1 Amcanion Perfformiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

 

Trafododd y pwyllgor wella cyfathrebu ag aelodau'r Gronfa.

 

Nodwyd bod David Morton a Nick Jellema wedi gadael y cyfarfod cyn unrhyw drafodaethau ar yr eitem hon.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cynnydd yr Ymgynghorwyr Buddsoddi yn erbyn yr amcanion a nodwyd ac a gymeradwywyd yn Atodiad 1.

78.

Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - Canlyniadau. pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad a gyflwynodd ganlyniadau Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Amlinellwyd bod y pwyllgor wedi cymeradwyo cynllun hyfforddi'r ymddiriedolwyr ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2020. Yn gynwysedig yn y cynllun hyfforddi oedd argymhelliad i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd gynnal Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar-lein a weinyddir gan Hymans Robertson ac roedd gan yr arolwg cyfradd cyfranogiad gyfunol o 69% ar gyfer y Bwrdd a'r Pwyllgor.

 

Darparwyd canlyniadau Abertawe yn Atodiad 1 a nodwyd bod sgôr gyfartalog o 63%, gan roi Abertawe yn y 7ed safle allan o 18 o gronfeydd gyda'r Pwyllgor ar gyfartaledd o 68.79% a'r Bwrdd ar gyfartaledd o 58.16%. Darparwyd canlyniadau ar gyfer yr holl ymatebwyr yn Atodiad 2.

 

Ychwanegwyd bod yr asesiad wedi nodi meysydd penodol lle roedd angen rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol ar yr aelodau, sef Gweinyddu Pensiynau a phrisiad Actiwaraidd. Gallai'r meysydd hyn felly lywio gofynion hyfforddi yn y dyfodol. Hefyd, nododd yr Aelodau hyfforddiant ar reoli risgiau ac Adran 13 yr hoffent ei gael yn y dyfodol.

 

Roedd Hymans Robertson wedi llunio cynllun hyfforddi awgrymedig gan ddefnyddio'r wybodaeth a gafwyd o'r asesiad a byddai'n cytuno ar gynllun gweithredu gyda'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid.

 

Soniodd y Cadeirydd am bwysigrwydd y canlyniadau a oedd yn nodi gofynion hyfforddi yn y dyfodol ac yn amlygu ei bod hi’n arfer llywodraethu da i werthuso'r pwyllgor yn y modd hwn.

 

Penderfynwyd nodi canlyniadau'r Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol a dirprwyo awdurdod i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid i nodi hyfforddiant addas a lywiwyd gan yr asesiad.

79.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

80.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol.

Cofnodion:

Darparodd yr Ymgynghorwr Buddsoddi, David Morton a Nick Jellema, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 2 2020.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am yr adroddiad.

81.

Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. 

 

Darparodd Atodiad 2 Bolisi Gwrthdaro Buddiannau Drafft PPC, darparodd Atodiad 3 Bolisi Risg Hinsawdd PPC Drafft ac Atodiad 4 Datganiad Cyfrifon Drafft y PPC 2019/20.

 

Yn y diweddariad cyfeiriwyd at lansiad y gronfa incwm sefydlog cyfran 3 ar ddiwedd mis Gorffennaf 2020, a ohiriwyd tan ddiwedd mis Medi 2020.

82.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020 yn Atodiad 1.

83.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: Ecwitïau Byd-eang - Russell Investments.

Cofnodion:

Gwnaed cyflwyniad gan Aidan Quinn, Taran Paik, Sasha Mandrich, William Pearce a Yacine Zerizef o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddarparu'r cyflwyniad.