Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Y Cynghorydd J P
Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd C E Lloyd
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol -
personol. Y Cynghorydd P Rees
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod
o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rwy'n derbyn pensiwn a weinyddir gan
gyn-Gyngor Sir Dyfed - personol. Y Cynghorydd W G
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Arsyllwr: I Guy - Cadeirydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol a
Chofnod Rhif 67 – Awdurdod Gweinyddu – Adnoddau – personol a rhagfarnol, a
gadawodd y cyfarfod cyn trafod yr eitem hon. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol a Chofnod rhif 62 – Prisiad Teirblwyddol – Clerc i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2020 fel cofnod cywir. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2019/20. PDF 273 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jeff Dong, Dirprwy Swyddog Adran 151, adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyo’r Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir
Abertawe 2019/20, yn amodol ar archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru Ychwanegwyd bod Swyddogion wedi cyflwyno datganiad
o gyfrifon drafft wedi'i gwblhau yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni, yn ystod
anterth y cyfyngiadau symud, gan weithio o bell a defnyddio systemau'r cyngor o
bell yn ystod y cyfnod hwn. Roedd cynhyrchu'r cyfrifon a glynu at yr amserlenni
a amlinellwyd yn glod i'r tîm cyfrifo buddsoddiadau dan arweiniad Karen Cobb. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi na
fyddai’n dechrau ei harchwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn
2019/20 tan fis Medi 2020, oherwydd ymyrraeth argyfwng COVID-19 (nad oedd yn
unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn
gynharach yn y flwyddyn). Fodd bynnag,
byddai’n dal i fod yn unol â therfynau amser statudol. Byddai ei hadroddiad yn
cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad yn ddiweddarach
yn y flwyddyn. Darparwyd Datganiad
o Gyfrifon Drafft 2019/20 yn Atodiad 1. Bu'r Pwyllgor yn
trafod effaith COVID-19, y gostyngiad mewn ecwiti yn ystod Ch1 a'r adferiad
dilynol yn Ch2, budd y rhaglen diogelu ecwiti a roddwyd ar waith yn 2019 a oedd
yn darparu amddiffyniad yn erbyn y gostyngiad a gafwyd yn Ch1. Cadarnhawyd nad
oedd prisiadau asedau'n effeithio'n uniongyrchol ar fuddiannau aelodau o'r
gronfa bensiwn, a'u bod wedi'u gwarantu gan statud Diolchodd y
Cadeirydd i Ddirprwy Swyddog Adran 151, yr Uwch Gyfrifydd, y Tîm Pensiynau a'r
staff cyllid am eu gwaith. Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20, a ddarparwyd yn Atodiad 1, sy'n destun archwiliad. |
|
Twyll a Sicrwydd i Bartïon Perthynol. PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo’r
Datgeliad Twyll a Phartïon Perthynol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir
Abertawe 2019/20. Amlinellwyd, fel rhan o archwiliad statudol Swyddfa Archwilio Cymru o
ddatganiad o gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas-ranbarth Abertawe, fod gofyn iddi
ganfod sut roedd Uwch-reolwyr yn goruchwylio ac yn rheoli cyfres o faterion a
oedd yn ymwneud â phartïon perthynol, rheolaeth ariannol a rheoli twyll. Yn Atodiad 1, atodwyd datgeliad twyll a phartïon perthynol yr uwch-reolwyr
a’u hymateb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r Datganiad Datgelu Twyll a Phartïon Perthynol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20. |
|
Adroddiad am Doriadau. ((Er Gwybodaeth) PDF 237 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2020. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Cynllun Busnes. PDF 282 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC)
2020. Darparwyd Cynllun
Busnes PPC yn Atodiad 1. Roedd y cynllun
yn manylu ar flaenoriaethau a meysydd ffocws PPC ar gyfer 2020/21, 2021/22 a
2022/23 ac fe'i cymeradwywyd gan Gyd-bwyllgor Llywodraethu PPC ar 12 Mawrth
2020. Ychwanegwyd bod y Cynllun Busnes
yn cael ei fonitro'n gyson a chaiff ei adolygu'n ffurfiol a'i gytuno bob
blwyddyn. Esboniwyd mai
diben y cynllun busnes oedd: ·
Esbonio cefndir a strwythur llywodraethu'r
PPC ·
Amlinellu blaenoriaethau ac amcanion y PPC
dros y tair blynedd nesaf ·
Cyflwyno polisïau a chynlluniau'r PPC ·
Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer y
cyfnod Cynllun Busnes perthnasol ·
Crynhoi Amcanion Buddsoddiadau a Pherfformiad PPC Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y gwaith sy'n cael ei wneud i gynnwys Aelodau yn y PPC. Penderfynwyd: - 1)
Cymeradwyo
Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) 2020; 2) Mae'r Cadeirydd yn argymell cynnwys y canlynol fel tasg cynllun busnes ar gyfer 2020/21: Cynrychiolaeth o aelodau'r cynllun ar Gyd-bwyllgor Llywodraethu (CBLl) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). |
|
Hyfforddiant Rathbone. (Er Gwybodaeth) PDF 284 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn hysbysu'r Pwyllgor o statws un o gyflogwyr ei gorff cydnabyddedig. Amlinellwyd bod Pwyllgor y gronfa bensiwn wedi cymeradwyo derbyn Rathbone Training
ym mis Medi 2015 a mis Rhagfyr 2015 fel cyflogwr y corff cydnabyddedig mewn
perthynas â 7 o weithwyr a gyflogwyd yn flaenorol gan Goleg Gŵyr (4) a
Chyngor Abertawe (3) (y ddau yn gyflogwyr cofrestredig â Chonfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe). Fel
gofyniad ar gyfer derbyn, roedd yn rhaid i Rathbone
Training ymrwymo i gytundeb derbyn rhwymol, ac
roedd yn ofynnol i Goleg Gŵyr a Choleg Abertawe ddarparu gwarantiadau
noddi'r cyflogwr mewn perthynas ag unrhyw amddifadu neu unrhyw rwymedigaethau
eraill sy'n weddill pe bai cyflogwr yn methu. Derbyniwyd hysbysiad ym mis Mai 2020 fod Rathbone
Training wedi datgan diddymiad gwirfoddol gan
gredydwyr. Ym mis Mai 2020, o'r 7 aelod a nodwyd, roedd 2 yn bensiynwyr, roedd
3 yn aelodau gohiriedig ac roedd 2 wedi trosglwyddo budd-daliadau. Felly, nid oedd unrhyw aelodau gweithredol
presennol mewn perthynas â Rathbone Training. Ychwanegwyd bod anfonebau yn ddyledus i Rathbone
Training, fel a ganlyn: - ·
£69,048 (costau mynediad cynnar mewn perthynas â
chyn-weithwyr Coleg Gŵyr a chostau actiwaraidd a
ailgodir ar Goleg Gŵyr); ·
£2,050 (costau actiwaraidd a
ailgodir ar gyngor Abertawe) Roedd y rhain yn cael eu datblygu gyda'r gweinyddwyr penodedig, Begbies Traynor. Roedd actiwari'r gronfa a benodwyd, AON, wedi cael ei hysbysu ac roedd yn ymgymryd â'r prisiad statudol gofynnol ar gyfer ymadael mewn perthynas â'r cyflogwr, Rathbone. Bydd y gweinyddwyr yn adennill unrhyw rwymedigaethau sy'n weddill gan y cyflogwyr sy'n noddi, sef Coleg Gŵyr a Chyngor Abertawe, yn unol â'r cytundeb derbyn. |
|
Adnoddau'r Awdurdod Gweinyddol. PDF 138 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn ceisio cymeradwyo'r diwygiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad o ran
darparu adnoddau. Darparodd yr
adroddiad fanylion yr ailstrwythuro ariannol a roddwyd ar waith ym mis Mehefin
2020 a'r ailstrwythuro/ailraddio arfaethedig dilynol ar gyfer gweinyddu
pensiynau a buddsoddiadau a chyfrifyddu pensiynau. Cadarnhawyd y
byddai'r rolau yn amodol ar adolygiad Gwerthuso Swyddi. Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiadau o ran darparu
adnoddau a amlinellwyd yn 3.1 ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn 6.1. |
|
Gwahardd Y Cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Diweddariad. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth
Pensiwn Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan
weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. Darparodd Atodiad
2 Bolisi Gwrthdaro Buddiannau Drafft PPC, darparodd Atodiad 3 Bolisi Risg
Hinsawdd PPC Drafft ac Atodiad 4 Datganiad Cyfrifon Drafft y PPC 2019/20. Yn y diweddariad
cyfeirir at lansio cronfa incwm sefydlog cyfran 3 ar ddiwedd mis Gorffennaf
2020. Roedd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn paratoi ar gyfer y cyfnod
pontio hwn. |
|
Rhoi'r Strategaeth Buddsoddi ar Waith - Diweddariad. Cofnodion: The Deputy S151 Officer presented a report which updated the
Committee on the progress of the investment strategy implementation approved by
the Committee in March 2019, outlining the benefits of the equity protection
programme implemented in 2019 during the market volatility in Q1 2020 and the
progress of the implementation of the yielding assets strategic re-allocation. Penderfynwyd: - 1)
Nodi'r
cynnydd o ran ei rhoi ar waith yn 2.1 a pherfformiad y rhaglen diogelu ecwiti
yn 3.1; 2)
Rhoi’r
pwerau dirprwyedig i Ddirprwy Swyddog Adran 151 gymeradwyo ariannu galwadau cyfalaf
a'u rhoi ar waith fel y maent yn dod yn ddyledus, fel y nodwyd yn 4.1. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cofnodion: Darparodd Nick
Jellema, Ymgynghorwr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno
Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 1 2020. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am ei adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 yn Atodiad 1. |