Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

47.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Y Cynghorydd J P Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Arsyllwr:

 

I Guy - Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn Lleol - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

C Isaac – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol a Chofnod Rhif 51 – Prisiad Teirblwyddol – Clerc i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

48.

Cofnodion. pdf eicon PDF 247 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

49.

Cynllun Archwilio 2020 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 325 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Jason Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), Gynllun Archwilio 2020 Swyddfa Archwilio Cymru  – Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Amlinellwyd mai diben y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig gan Swyddfa Archwilio Cymru, pryd y byddai'n cael ei wneud, faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n gwneud y gwaith.  Nodwyd cyfrifoldebau SAC, ynghyd â rhai'r rheolwyr a'r rheini sy'n llywodraethu yn Atodiad 1. 

 

Roedd ymagwedd yr archwiliad, sy'n gysylltiedig ag asesu risgiau, yn cynnwys tri cham a amlinellwyd yn Arddangosyn 1.  Nodwyd risgiau camddywediadau pwysig, yr oedd SAC yn eu hystyried yn sylweddol ac yr oedd angen ystyriaeth archwilio arbennig arnynt, yn Arddangosyn 2, ynghyd â'r gwaith y byddai SAC yn ei wneud i fynd i'r afael â hwy.  Roedd Arddangosyn 2 hefyd yn darparu manylion y risgiau archwilio ariannol a'r ymateb archwilio arfaethedig.

 

Roedd Arddangosyn 3 yn darparu'r ffi archwilio, Arddangosyn 4 yn darparu manylion y tîm archwilio ac Arddangosyn 5 yn darparu'r amserlen. Darparwyd cyfrifoldebau priodol yn Atodiad 1 ac amlinellwyd datblygiadau eraill yn y dyfodol yn Atodiad 2.

 

Ychwanegwyd y byddai gwaith ar y Gronfa Bensiwn yn cychwyn ar ôl i'r archwiliad ar  Datganiad o Gyfrifon y cyngor gael ei gwblhau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd SAC am ddod i'r cyfarfod a chyflwyno'r adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

50.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

51.

Prisiad Tair Blynedd.

Cofnodion:

Darparwyd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, Cyfraddau Prisiad Teirblwyddol Drafft a Thystysgrif Addasu 2019 i'r Pwyllgor gan Chris Archer, Aon.  Diben yr adroddiad hwn oedd sicrhau y cydymffurfiwyd â rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sy'n mandadu ymgymryd â phrisiad actiwaraidd teirblwyddol llawn.

 

Trafododd y Pwyllgor yr wybodaeth a ddarparwyd ac amlygwyd bod y prisiadau'n cael eu cyflwyno ar gylch tair blynedd yn unig.  Ychwanegwyd bod rheolwyr yn derbyn prisiadau bob chwe mis.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Chris Archer ar ran y pwyllgor am ei gyfraniad gwerthfawr i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a dymunodd y gorau iddo ar gyfer ei ymddeoliad.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi a chymeradwyo'r cyfraddau actiwaraidd teirblwyddol drafft a thystysgrifau addasu 2019, yn amodol ar unrhyw newidiadau pwysig rhwng y dyddiad hwn a 31 Mawrth 2020, ac y bydd y Dirprwy Swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn neu ei ddirprwy enwebedig, yn cymeradwyo unrhyw newidiadau, ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor amdanynt;

2)    Cyflwyno'r adroddiad actiwaraidd terfynol (os yw'n wahanol) i'r Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn ei gyfarfod nesaf;

3)    Darparu diweddariadau ariannol dros dro yn rheolaidd.

 

Nodwyd: Ymataliad y Cynghorydd M B Lewis

52.

Y Diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. 

 

Yn y diweddariad cyfeirir at yr amserlen ar gyfer lansio cronfa incwm sefydlog cyfran 3. Mae hon wedi'i haildrefnu ac fe'i cynhelir bellach yn ystod Chwarter 1af 2020.

53.

Adroddiad Buddsoddi.

Cofnodion:

Darparodd Nick Jellema, Ymgynghorwr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 4 2019.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.  Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am ei adroddiad.

54.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2019.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2019 yn Atodiad 1.

55.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa:

1) Buddsoddiadau Russell - Telegynhadledd.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad 'o bell' gan Aidan Quinn ac Yacine Zerizef o Russell Investments.

 

Gan nodi anwadalrwydd y farchnad oherwydd pryderon am coronafeirws, adroddwyd bod y rhaglen amddiffyn ecwiti wedi darparu gwerth £7m o amddiffyniad hyd yn hyn.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.

 

(Sesiwn Agored)

56.

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft i sicrhau y cydymffurfir â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr oedd angen datganiad strategaeth ariannu ar eu cyfer.

 

Prif bwrpas y Datganiad Strategaeth Ariannu oedd amlinellu'r prosesau a ddefnyddir gan yr awdurdod gweinyddu i:

 

§  sefydlu strategaeth ariannu glir a thryloyw, sy'n benodol i'r Gronfa, a fyddai'n nodi sut y gellid bodloni rhwymedigaethau pensiwn cyflogwr;

§  gefnogi'r gofyniad rheoliadol mewn perthynas â dymunoldeb cynnal cyfradd cyfraniadau sylfaenol sydd mor gyson â phosib;

·         sicrhau bod y gofynion rheoliadol i bennu cyfraniadau er mwyn sicrhau diddyledrwydd a chost effeithlonrwydd tymor hir y Gronfa'n cael eu bodloni;

·         ystyried ariannu rhwymedigaethau'r Gronfa'n ochelgar yn y tymor hwy.

 

Ychwanegwyd, er bod yn rhaid adlewyrchu'r strategaeth ariannu sy'n berthnasol i gyflogwyr unigol yn y Datganiad Strategaeth Ariannu/Datganiad Strategaeth Buddsoddi, y byddai'n canolbwyntio ar bob adeg ar y camau gweithredu hynny a oedd er budd tymor hwy pennaf y Gronfa.

57.

Toriadau. pdf eicon PDF 321 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Darparodd Atodiad A fanylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2019.  Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.  Nodwyd bod toriadau GDPR yn cael eu cynnwys bellach at ddibenion adrodd.

58.

Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2020/21. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2020/21 er mwyn darparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith yn Gronfa Bensiwn yn 2020/21.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi a chymeradwyo'r Cynllun busnes ar gyfer 2020/21, gan nodi'r amserlen a'r cyfrifoldeb am bwyntiau gweithredu allweddol drwy gydol y flwyddyn;

2)    Nodwyd bod y ddogfen yn ddogfen ddynamig ac y byddai'n cael ei gwella a'i diwygio drwy gydol y flwyddyn yn ôl yr angen.

59.

Hyfforddiant Ymddiriedolwyr - Cod Ymarfer CIPFA, Gwybodaeth a Sgiliau Cyllid y Sector Cyhoeddus - Aelod o Bwyllgor Dyletswydd Gwybodaeth a Dealltwriaeth y Rheoleiddiwr Pensiwn. pdf eicon PDF 268 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer aelodau Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, Aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn.

 

Penderfynwyd

 

1)    cymeradwyo'r asesiad a'r cynllun hyfforddiant amlinellol yn 3.7, 3.8 a 3.9;

2)    y dylai cyfleoedd pellach a nodir yn ystod y flwyddyn gael eu dirprwyo i'r Dirprwy Swyddog Adran 151 i'w cymeradwyo;

3)    y dylai aelodau'r pwyllgor gwblhau'r Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol ar-lein erbyn 17 Ebrill 2020.