Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd:: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorwyr M B Lewis, C E Lloyd ac W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r awdurdod ac rydw i'n derbyn pensiwn a weinyddir gan Raglen Pensiwn Cyngor Sir Dyfed - personol.

 

Swyddogion:

 

J Dong, J Parkhouse ac S Williams - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

40.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

41.

Diogelu Ecwiti - Dewis Rheolwr.

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer penodi Rheolwr Diogelu Ecwiti.

 

Amlinellwyd bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi cymeradwyo rhaglen lleihau risgiau fel rhan o'i bortffolio marchnadoedd ecwiti yn ystod ei adolygiad o'r strategaeth fuddsoddi ym mis Mawrth 2018. Nod strategol y rhaglen lleihau risgiau oedd lleihau cyfran y gronfa a fuddsoddir mewn stociau a chyfrannau wrth gynyddu arallgyfeirio i gynyddu asedau go iawn (eiddo, ecwiti preifat ac isadeiledd).

 

Cymeradwywyd rhoi rhaglen diogelu ecwiti ar waith gan y pwyllgor (Medi 2018) sy'n ymwneud â'r rhan o'r portffolio na fyddai'n cael ei fuddsoddi mwyach mewn ecwitïau (i'w ail-fuddsoddi mewn asedau go iawn). Fel parhad o'r broses hon, ceisiodd y pwyllgor benodi Rheolwr Diogelu Ecwiti.

 

Gwnaed cyflwyniad gan Ronan O'Riordan a Craig Shubin o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Gofynnodd y pwyllgor am ddechrau'r rhaglen ar y cam cynharaf posib o ystyried yr ansicrwydd presennol.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Penodi Russell Investments fel Rheolwyr Diogelu Ecwiti;

2)    Gofyn i Russell Investments ddechrau'r broses ar y cam cynharaf posib.