Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing fel
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig
2018-2019. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd J P Curtice - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd C E Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rydw i a fy nhad yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol - personol. Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r awdurdod lleol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol – personol a
Chofnod rhif 4 – Datganiad o Gyfrifon Drafft 2017/18 – Clerc Cyngor Cymuned
Llanrhidian Uchaf – personol. S Williams – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn ar 15 Mawrth a 4 Mai 2018 fel cofnodion cywir yn amodol ar y
diwygiad canlynol: - 15 Mawrth 2018 Ychwanegu'r
datganiad o ddiddordeb canlynol: - Y Cynghorydd D G
Sullivan - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. |
|
Datganiad Drafft o Gyfrifon 2017/18. PDF 33 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe ar gyfer 2017/18. Diolchodd
i'r staff yn nhîm y Drysorfa a Thechnegol am eu gwaith er mwyn llunio'r
cyfrifon. Datganwyd bod Cyfrifon
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n elfen wahanol
ac ar wahân i Ddatganiad Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe yn ei gyfanrwydd. Archwiliodd Swyddfa Archwilio Cymru
Ddatganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18 yn unol â'i hadroddiad
a chyflwynir hyn i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn ei chasgliad o'r archwiliad yn
hwyrach yn y flwyddyn. Rhoddodd
ddadansoddiad manwl yn llawn gwybodaeth am y cyfrifon, gan bwysleisio'r elw
cadarnhaol a nododd fod y rhagamcaniadau ar gyfer y llif arian yn y tymor hir yn
gadarnhaol ar gyfer y gronfa yn y tymor canolig. Ychwanegodd fod asedau net y Gronfa wedi
cynyddu i £1,914,031 ar 31 Mawrth 2018. Atodir Datganiad o
Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 yn Atodiad 1. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, ac ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd cymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon Drafft
ar gyfer 2017/18. |
|
Adroddiad Toriadau. PDF 124 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion
toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2018.
Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y
rheolwyr. |
|
Diweddariad ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu
manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am
Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2018.
Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y
rheolwyr. |
|
Cofnodion: Adroddodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Gynllun Busnes Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar
gyfer 2018-2019 i'w gymeradwyo er mwyn darparu fframwaith gweithiol ar gyfer
rhaglen waith y Gronfa. Yn Atodiad 1
darparwyd y Cynllun Busnes Blynyddol ar gyfer 2018-2019, darparwyd Cofrestr
Risgiau'r Gronfa Bensiwn yn Atodiad 2 a darparwyd Cyllideb y Gronfa Bensiwn ar
gyfer 2018-19 yn Atodiad 3. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r cynllun gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015. Penderfynwyd: - 1)
nodi
a chymeradwyo Cynllun Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar
gyfer 2018-19; 2)
y
bydd Swyddog y Drysorfa a Thechnegol yn cyfeirio at Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y Cynllun Busnes. |
|
Cofnodion: Adroddodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Gynllun Hyfforddiant ar gyfer Aelodau Pwyllgor
y Gronfa Bensiwn i'w gymeradwyo. Darparwyd yr
hyfforddiant a gwblhawyd yn 2017-2018 a'r hyfforddiant arfaethedig ar gyfer
2018-2019. Penderfynwyd cymeradwyo'r hyfforddiant a nodir ar gyfer
aelodau yn Adran 3.7 yr adroddiad. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion
yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol
1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cofnodion: Darparodd Prif Swyddog
y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf
am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Yn Atodiad 1
darparwyd yr amserlen ddiweddaraf a'r diweddaraf am gynnydd ynghylch gweithredu
CCA Partneriaeth Pensiwn Cymru. |
|
Polisi Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (LlCA) Diweddaru. Cofnodion: Darparodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am fynegeion carbon isel. Yn Atodiad 1
darparwyd y Ffeithlen Mynegai Carbon Isel Blackrock MSCI. |
|
Adroddiad gan yr Ymgynghorwr Buddsoddi. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad 'er gwybodaeth' yr adroddiad chwarterol a oedd yn crynhoi prisiadau
ased a pherfformiad y gronfa hyd at 31 Mawrth 2018. Atodwyd adroddiad
chwarterol Hymans Robertson yn Atodiad 1. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Ymgynghorydd Buddsoddi ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd gynnwys yr adroddiad a
diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad. |
|
Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr
adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y
farchnad o safbwynt yr ymgynghorydd buddsoddi annibynnol a benodwyd. Gorffennodd yr
adroddiad ar 31 Mawrth 2018 gan yr ymgynghorydd buddsoddi annibynnol, ac
atodwyd Mr Noel Mills yn Atodiad 1. Nodwyd gynnwys yr
adroddiad gan y Pwyllgor a diolchwyd i'r ymgynghorydd buddsoddi annibynnol am
ei adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd Prif Swyddog
y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y
perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i
ben ar 31 Mawrth 2018. Atodwyd
crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y
flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018 yn Atodiad 1. |
|
Cyflwyniad gan Reolwr y Gronfa: a)
Blackrock – Mandad
Goddefol b)
Blackrock - Cronfa'r
Cronfeydd Rhagfantoli Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad
gan Chris Head a Funmi Osiyemi
o Blackrock. Darparodd y
rheolwyr wybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch mandad goddefol a chyllido cronfeydd rhagfantoli.
Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac
atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwr(wyr) y Gronfa
am ddod i'r cyfarfod. |