Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P. Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn.

 

Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd P Rees - yr agenda yn ei chyfanrwydd - merch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd M Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. 

 

Y Cynghorydd W G Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

39.

Cofnodion. pdf eicon PDF 132 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

40.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi manylion am doriadau a wnaed yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r Polisi Adrodd am Doriadau. 

 

Darparwyd yr Adroddiad Toriadau yn Atodiad A, ynghyd â manylion am doriadau a gafwyd ers cyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2017. Amlygwyd manylion y toriadau a'r gweithrediadau a gyflawnwyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

 

41.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf am Gynnydd. pdf eicon PDF 555 KB

Cofnodion:

Darparodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

The Committee were updated regarding the submission in respect of the 8 Welsh Pension Funds, governance and procurement progress, including the reporting procedure of the Joint Governance Committee.

 

Darparodd Atodiad 1 fanylion cyfuno Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Partneriaeth Cronfa Bensiwn Cymru: Adroddiad Cynnydd mis Hydref 2017.

 

42.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

(SESIWN GAEËDIG)

 

43.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Argymhelliad i Benodi Gweithredwr Cynllun Cytundebol Awdurdodedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth gan Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru i benodi Gweithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA).

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Penodi cynigiwr 1 fel y cynigiwr dewisol i'w benodi fel gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru;

2)    Yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur a'r Cytundeb Gweithredu terfynol, penodir cynigiwr 1 fel y gweithredwr dan y Cytundeb Gweithredu.

 

44.

Credoau Buddsoddi.

Cofnodion:

Darparodd Hymans Robertson, Ymgynghorwyr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r camau nesaf a argymhellir mewn perthynas â datblygu a ffurfioli credoau buddsoddi'r pwyllgor.

 

Darparodd atodiad 1 adroddiad crynhoi gan Hymans Robertson a oedd yn amlinellu'r credoau buddsoddi cryno a gafwyd o'r holiadur a'r diwrnod hyfforddi.

 

45.

Materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu.

Cofnodion:

Darparodd Hymans Robertson, Ymgynghorwyr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r camau nesaf a argymhellir mewn perthynas â pholisïau'r pwyllgor ynglŷn â materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol.

 

Atodwyd yr adroddiad a oedd yn crynhoi camau nesaf Hymans Robertson yn Atodiad 1.

 

46.

Adolygu Buddsoddiadau.

Cofnodion:

Darparodd Hymans Robertson, Ymgynghorwyr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi diweddariad ar y buddsoddiad chwarterol a'r farchnad.

 

Atodwyd yr adroddiad chwarterol gan Hymans Robertson yn Atodiad 1.

 

47.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt yr Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd.

 

Yn Atodiad 1 roedd adroddiadau chwarterol y ddau ymgynghorydd annibynnol, Mr Noel Mills a Mr Valentine Furniss, a ddaeth i ben ar 30 Medi 2017.  Darparodd Mr Furniss ddiweddariad wedi'i ddiwygio.

 

Nodwyd cynnwys pob adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu hadroddiadau.

 

48.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad er gwybodaeth a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2017.

 

Yn Atodiad 1 roedd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2017.

 

49.

Cyflwyniad gan Reolwr y Gronfa: -

·         Bondiau Byd-eang – Rheoli Asedau Goldman Sachs.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan David Thomas a Jason Smith o Reoli Asedau Goldman Sachs.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.