Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae ei dad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Datganodd y Cynghorydd M B Lewis fudd personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Datganodd y Cynghorydd P Rees fudd personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae ei ferch-yng-nghyfraith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Datganodd y Cynghorydd D G Sullivan fudd personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd - derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol o Gronfa Bensiwn Dyfed ac mae ei ferch-yng-nghyfraith yn aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Abertawe.

 

Datganodd y Cynghorydd M Thomas fudd personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a'i wraig hefyd yn derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Datganodd y Cynghorydd W G Thomas fudd personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

23.

Cofnodion. pdf eicon PDF 77 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir.

24.

Adroddiad ISA 260. pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Williams, Arweinydd y Tîm Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) adroddiad a oedd yn nodi'r materion i'w hystyried o archwiliad cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2016-2017 yr oedd angen eu nodi o dan SRA 260.

 

Bwriad yr Archwilydd Cyffredinol yw cyflwyno adroddiad pendant ar gyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2016-17 unwaith y bydd yr awdurdod yn darparu llythyr sylwadau i Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1.

 

Nodwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2. Roedd y Gronfa Bensiwn wedi'i chynnwys ym mhrif gyfriflenni ariannol y cyngor ac felly'r ymateb a gyflwynwyd oedd yr un a gynigiwyd ar gyfer cynnwys prif gyfriflenni ariannol y cyngor yn y Gronfa Bensiwn.

 

Amlinellwyd bod camddatganiadau wedi'u cywiro gan reolwyr ond mae'r SAC o'r farn y dylid tynnu ein sylw atynt oherwydd eu perthnasedd i'n cyfrifoldebau dros y broses adrodd ariannol. Nodwyd y rhain gyda'r esboniadau yn Atodiad 3. Ni chafodd y diwygiadau hyn unrhyw effaith ar Gyfrif y Gronfa ond cynyddodd gwerth y buddsoddiadau yng Nghyfriflen yr Asedau Net o £2.3 miliwn. Dylid cydnabod nad camddatganiadau oedd y rhain, ond prisiadau a gafodd eu cynnwys yn y cyfriflenni ariannol yn seiliedig ar yr unig wybodaeth amcangyfrifedig a oedd ar gael wrth lunio'r adroddiad. Pan gafwyd y prisiad dilynol yn ystod yr archwiliad, diwygiwyd y cyfriflenni ariannol. Roedd hefyd nifer o ddiwygiadau cyflwyniadol a wnaed i'r cyfriflenni ariannol drafft sy'n codi o'r archwiliad.

 

Nodwyd yr argymhellion sy'n codi o'r gwaith archwilio ariannol yn Atodiad 4.  Ymatebodd y rheolwyr iddynt a byddai SAC yn gwirio'r cynnydd a wnaed yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle'r oedd unrhyw gamau gweithredu heb eu cyflawni, byddant yn parhau i fonitro cynnydd a'i gynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

25.

Adroddiad Blynyddol 2016/17. pdf eicon PDF 9 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2016/17 i'w gymeradwyo.

 

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio Adroddiad Blynyddol 2016/17 y Gronfa Bensiwn yn unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach y flwyddyn hon.

 

Roedd Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2016/17 yn Atodiad 1.

 

Nodwyd bod camgymeriad ar dudalen 74 y pecyn agenda - dylai'r geiriad ar waelod y dudalen ddarllen 'Cynnydd yng ngwerth y Gronfa' yn hytrach na 'Gostyngiad yng ngwerth y Gronfa'.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

26.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Reolwr Pensiynau adroddiad 'er gwybodaeth' er mwyn cyflwyno unrhyw doriadau a wnaed yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r Polisi Adrodd am Doriadau. Roedd y Polisi Adrodd am Doriadau wedi'i fabwysiadu ac mewn grym ers 9 Mawrth 2017.

 

Atodwyd yr Adroddiad Toriadau yn Atodiad A.  Ers yr adroddiad diwethaf ar 13 Gorffennaf 2017, roedd 32.71% o daliadau cyfandaliad ymddeol heb eu talu o fewn y meincnod; fodd bynnag, mae ymchwil pellach wedi canfod bod pob taliad hwyr o ganlyniad i aelodau nad oeddent wedi dychwelyd y gwaith papur priodol er mwyn derbyn taliad. Adolygwyd yr ohebiaeth a anfonir at aelodau pan fyddant yn ymddeol er mwyn sicrhau bod pwysigrwydd anfon y dogfennau priodol yn ôl ar amser yn cael ei amlygu.

 

Mae'r Gronfa'n gofyn bod cyflogwyr yn talu cyfraniadau gweithwyr a chyflogwyr i'r Gronfa'n fisol a dim hwyrach na'r 19 diwrnod o'r mis ar ôl i'r cyfraniadau gael eu tynnu. Mae nifer o achosion wedi bod yn ystod y cyfnod adrodd lle cafwyd toriadau.  Ym mhob achos, roedd staff Rheoli'r Trysorlys wedi ysgrifennu at y cyflogwyr yn gofyn am daliad ac i'w hatgoffa o gyfrifoldebau talu ar amser.

27.

Mifid II pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol a'r Ymgynghorydd Buddsoddi adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn hysbysu Pwyllgor y Gronfa Bensiwn o MIFID II a'i effaith bosib ar y CPLlL yn genedlaethol ac yn lleol.

 

Amlinellwyd yr effaith bosib ar y CPLlL, yr asesiad arfaethedig sydd ei angen a'r ffordd ymlaen. 

 

Penderfynwyd y dylai Pwyllgor y Gronfa Bensiwn:

 

1)              Nodi'r effaith bosib ar strategaeth fuddsoddi yn dod yn gwsmer manwerthu yn effeithiol o 3 Ionawr 2018;

2)              Cymeradwyo dechrau'r ceisiadau ar unwaith ar gyfer statws cwsmer proffesiynol etholedig gyda phob sefydliad perthnasol er mwyn sicrhau y gellir parhau i roi strategaeth fuddsoddi effeithiol ar waith;

3)              Wrth ethol statws cwsmer proffesiynol, roedd y pwyllgor yn cydnabod ac yn cymeradwyo hepgor yr amddiffyniadau sydd ar gael i gwsmeriaid manwerthu.

4)               Dirprwyo cymeradwyaethau priodol at ddibenion cwblhau ceisiadau a phenderfynu ar sylfaen briodol y cais i'r Swyddog Adran 151.

28.

Camau Corfforaethol. pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Darparodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad i fonitro cyfleoedd i adfer colled o ganlyniad i dorri deddfau Gwarannau'r UDA.

 

Adroddodd ar gefndir yr eitem hon, y gwahaniaeth rhwng achosion buddsoddwyr yn yr UDA, y DU a gwledydd eraill; cyfranogiad presennol mewn cyd-achosion yn yr UDA ac amlinellodd ffordd ymlaen.

 

Penderfynwyd y byddai BR&B yn cael ei ddefnyddio fel a amlinellwyd yn 4.1 (i) a (ii) yr adroddiad.

29.

Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig. pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Reolwr Pensiynau adroddiad ar leoliad presennol y Gronfa mewn perthynas â chysoniad GMP a chymeradwyodd y weithdrefn sydd ei hangen er mwyn cwblhau'r ymarfer Cysoniadau GMP o fewn yr amserlen sydd ar gael.

 

Darparwyd adroddiad briffio yn y cyfarfod diwethaf i ddiweddaru'r pwyllgor am y sefyllfa bresennol o ran ymarfer Cysoniadau GMP, a gafodd ei gynnwys fel Atodiad A.  Amlinellwyd yr adroddiad gwreiddiol ar gyfer y pwyllgor ar 12 Mawrth 2015 yn Atodiad B.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y casgliadau y daethpwyd iddynt o ganlyniad i adolygiad o'r safle presennol ac ystyriaeth o'r gwahanol opsiynau sydd ar gael er mwyn cwblhau'r ymarfer o fewn yr amserlen sydd ar gael.

 

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r pwyllgor yn unol â pharagraff 16 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiol) (Cymru) 2007 er mwyn i'r Pwyllgor gael cyngor cyfreithiol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Trafododd yr aelodau'r materion sy'n ymwneud â'r adroddiad a'r argymhellion.

 

(Sesiwn Agored)

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)              Cymeradwyo rhoi ymarfer Cysoniad GMP i drydydd parti, dadansoddiad data pensiynau arbenigol a darparwr rheoli data;

2)              Penodi'r sefydliad a ddewiswyd drwy Fframwaith Cenedlaethol CPLlL i gwblhau ymarfer Cysoniad GMP.

30.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

31.

Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig.

Cofnodion:

Darparodd y Prif Reolwr Pensiynau adroddiad i gymeradwyo penodi cyflenwr i gwblhau ymarfer Cysoniad GMP o fewn yr amserlen sydd ar gael.

 

Nodwyd y dylid diwygio brawddeg olaf ail baragraff 5.1

 

Penderfynwyd penodi'r cwmni a amlinellwyd yn yr argymhelliad er mwyn cwblhau ymarfer Cysoniad GMP.

32.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf.

Cofnodion:

Darparodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Adroddodd ar gefndir yr eitem, darparodd fanylion mewn perthynas â'r cyflwyniad o ran 8 Cronfa Bensiwn Cymru ac amlinellodd y llywodraethu dros dro a'r broses gaffael a gafwyd hyd yn hyn.

 

Amlinellwyd amserlen wedi'i diweddaru a diweddariad ar gynnydd a grëwyd gan ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, Hymans Robertson, yn Atodiad 1.

 

33.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd yr adroddiad 'er gwybodaeth' ddiweddariad ar fuddsoddiad chwarterol a diweddariad ar gyfer y farchnad yr ymgynghorydd buddsoddi penodedig i'r gronfa.

 

Penderfynodd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ychwanegu'r gwasanaethau ymgynghorol i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn gyda phenodiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi, Hymans Robertson, a fydd, ynghyd â'r ymgynghoriaeth fuddsoddi draddodiadol yn cynorthwyo wrth lywio y gronfa a'r polisïau buddsoddi sy'n gyfrifol, ynghyd â chynorthwyo wrth fonitro perfformiad Cronfa Buddsoddi Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Atodwyd adroddiad chwarterol Hymans Robertson yn Atodiad 1.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Ymgynghorydd Buddsoddi ac atebwyd yn briodol iddynt.  Nodwyd cynnwys yr adroddiad a diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad.

34.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwebaeth y farchnad o safbwynt yr Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd.

 

Yn Atodiad 1 roedd adroddiadau chwarterol y ddau ymgynghorydd annibynnol, Mr Noel Mills a Mr Valentine Furniss, a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2017. Darparodd Mr Furniss ddiweddariad wedi'i ddiwygio.

 

Nodwyd cynnwys pob adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu hadroddiadau.

35.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad er gwybodaeth a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2017.

 

Yn Atodiad 1 roedd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2017.

36.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa:

·         Schroders – UK Equities.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Geoff Day, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid, a Sue Noffke, Rheolwr Cronfa Ecwiti'r DU Schroders - Ecwitïau'r DU.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.

37.

Ymddeoliad - diolch.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r pwyllgor y byddai'r Rheolwr Pensiynau'n ymddeol o'r awdurdod yn dilyn 39 o flynyddoedd yn gweithio i'r adran Bensiynau.

 

Diolchodd ar ran yr awdurdod am ei gwaith yn rheoli'r gwasanaeth o ran cydymffurfio a llywodraethu ar hyd y blynyddoedd diwethaf.