Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: - Cynghorwyr Y Cynghorydd P
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac
yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn - personol Y Cynghorydd C E
Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd – mae fy merch yng nghyfraith yn aelod
cyfrannol o'r Cynllun Pensiwn ac rwy'n derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol - a
weinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol. Y Cynghorydd M
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Cofnod 10 - Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17 - Rwy'n Gynghorydd Cymuned
gyda Chyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol. Swyddogion J Parkhouse -
Cofnod 10 – Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17 - Rwy'n cael fy nghyflogi fel
clerc i Gyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol. |
|||
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor
y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth a 22 Mehefin fel cofnodion cywir. |
|||
Eitem Frys. Cofnodion: Yn unol â
pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd y Cadeirydd ei
farn y dylid ystyried yr adroddiad am opsiynau i gwblhau'r broses o gysoni'r
Isafswm Pensiwn Gwarantedig yn y cyfarfod fel mater brys. |
|||
Ystyried Opsiynau I Gwblhau'r Broses O Gysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig O Fewn Yr Amserlenni Sydd ar Gael. Cofnodion: Rheswm dros y cynnig brys: Rhoi gwybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn fod proses
ar waith i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i gwblhau'r broses o gysoni'r
Isafswm Pensiwn Gwarantedig o fewn yr amserlenni angenrheidiol. Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad brys 'er
gwybodaeth' fel a amlinellwyd uchod. Rhoddodd yr wybodaeth gefndir i'r broses o
gysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig a thynnodd sylw at yr amserlenni a'r
risgiau cysylltiedig posib. Trafododd y
pwyllgor yr wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad, gan nodi'r cynnydd a wnaed.
|
|||
Presenoldeb Aelodau'r Bwrdd Pensiwn ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn. PDF 67 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Gyfreithiwr
adroddiad 'er gwybodaeth' a roddodd wybod i aelodau'r pwyllgor am drefniadau
presenoldeb aelodau'r Bwrdd Pensiwn ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn yn y dyfodol.
Amlinellwyd na
allai aelodau'r Bwrdd Pensiwn fynd i gyfarfodydd llawn Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ar hyn o bryd a bod rhaid iddynt adael pan drafodir eitemau a eithrir,
yn debyg i aelodau'r cyhoedd. Derbyniodd
Cadeirydd blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, y Cynghorydd R C Stewart, lythyr
oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd Pensiynau, Alan Lockyer, a ofynnodd yn ffurfiol am
bresenoldeb cynrychiolydd y Bwrdd Pensiwn ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn ar
gyfer yr agenda lawn, gan gynnwys eitemau a eithrir. Datganodd y llythyr mai'r
diben oedd cydymffurfio â dyletswyddau statudol a byddai'r cynrychiolydd yn
adrodd yn ôl i'r Bwrdd Pensiwn llawn. Dangosodd yr
ymchwil a ddarparwyd nad oedd 5 pwyllgor pensiwn yn caniatáu i aelodau o fyrddau pensiynau fod yn bresennol mewn cyfarfodydd llawn
ac roedd 3 yn caniatáu hynny. Rhoddwyd cyngor gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, y Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Adnoddau blaenorol mewn ymateb i'r llythyr. Y cyngor oedd y gallai aelodau o'r Bwrdd Pensiwn gael mynediad i'r papurau cyfrinachol ar yr un adeg ag y cânt eu cyhoeddi ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gallai'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd fynd i gyfarfodydd y pwyllgor ac aros am adroddiadau a eithrir. Fodd bynnag, gall fod achosion eithriadol pan ofynnir iddynt adael a byddai hyn yn cael ei esbonio ar y pryd. Hefyd, byddai'n rhaid i aelodau o'r Bwrdd Pensiwn lofnodi cytundeb cyfrinachedd o ran presenoldeb ym Mhwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gyfer eitemau a eithrir a mynediad i adroddiadau a eithrir. |
|||
Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17. PDF 53 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe 2016/17. Diolchodd i staff Tîm y Trysorlys a Thechnegol am eu
gwaith ar lunio'r cyfrifon. Datganwyd bod
cyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n rhan
unigryw ac ar wahân o Ddatganiad o Gyfrifon Dinas a Sir Abertawe'n
gyffredinol. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio Datganiad o Gyfrifon
y Gronfa Bensiwn 2016/17 yn unol â'i hadroddiad, a fyddai'n cael ei gyflwyno i
Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad yn nes ymlaen yn y
flwyddyn. Atodwyd Datganiad
Drafft o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn Atodiad 1. PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Drafft o Gyfrifon
2016/17. |
|||
Partneriaeth Pensiwn Cymru - Diweddariad. (Er Gwybodaeth) PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf
i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gynnydd Cronfa Buddsoddi Cymru Gyfan. Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys yr amserlen ddiweddaraf a'r
diweddaraf ar gynnydd a luniwyd gan ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru,
Hymans Robertson.
|
|||
Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad er mwyn pennu rhaglen hyfforddiant
flynyddol ar gyfer ymddiriedolwyr a swyddogion y Gronfa Bensiwn. Ychwanegwyd bod angen hyfforddiant i sicrhau y cydymffurfir â Chôd Ymarfer Gwybodaeth Ariannol a Sgiliau Pensiynau Sector
Cyhoeddus y CIPFA a gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth y Rheolydd Pensiynau. Amlinellwyd bod yr
hyfforddiant canlynol wedi'i nodi yn 2017/18 fel hyfforddiant priodol ar gyfer
aelodau o'r pwyllgor, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd hyfforddiant priodol a oedd ar
gael yn ystod y flwyddyn, i'w cytuno arnynt â'r Swyddog Adran 151: 1.
Gweithdy Credoau Buddsoddi 2.
Gweithdy Credoau
Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu 3.
Hanfodion Ymddiriedolwyr
Cyflogwyr Llywodraeth Leol, diwrnod 1, 2 a 3 4.
Uwchgynhadledd Fuddsoddi'r
LGC 5.
Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol yr LAPFF 6.
Hyfforddiant
Ymddiriedolwyr y CIPFA 7.
Cyfuno Buddsoddi a'r
Fframwaith Rheoleiddiol parthed Cynllun Contractiol
Awdurdodedig PENDERFYNWYD cytuno ar yr hyfforddiant a nodwyd uchod. |
|||
MIFID II. (Er Gwybodaeth) PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol a'r Ymgynghorydd Buddsoddi adroddiad 'er
gwybodaeth' a roddodd wybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am MIFID
II a'i effaith bosib ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn genedlaethol ac
yn lleol. Amlinellwyd yr
effaith bosib ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yr asesiad angenrheidiol
arfaethedig a'r ffordd ymlaen. Rhoddwyd ymateb y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn
Atodiad 1.
|
|||
Côd Tryloywder Costau'r LGPS. (Er Gwybodaeth) PDF 56 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth'
a roddodd wybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am y côd ymddygiad gwirfoddol
newydd ar dryloywder costau yn y diwydiant rheoli cronfeydd. Atodwyd y Côd Ymddygiad ar gyfer Tryloywder Costau yn Atodiad 1. Cydnabuwyd bod y templed i'w gwblhau wedi'i
ddatblygu ar gyfer mandadau ecwiti'n unig ar yr adeg hon ac roedd templedi'r
dosbarthiadau asedau eraill yn y broses o gael eu datblygu. Fodd bynnag, bwriadwyd
cynnwys y rheolwyr ecwiti penodedig (a rheolwyr yn y dosbarthiadau asedau
eraill pan fydd y templedi ar gael) i lofnodi'r côd gwirfoddol. Nodwyd y dylai
hyn fod yn amod o unrhyw benodiadau i'r gronfa neu Gronfa Partneriaeth Pensiwn
Cymru yn y dyfodol. |
|||
Polisi Torri Amodau. (Er Gwybodaeth) PDF 77 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog
y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a roddodd wybod i Bwyllgor y
Gronfa Bensiwn am unrhyw achosion o dramgwyddo'r Gronfa Bensiwn yn unol â'r
Polisi Adrodd am Dramgwyddau. Atodwyd yr
Adroddiad am Dramgwyddau yn Atodiad A. Rhoddwyd mwy o wybodaeth am
gyfandaliadau ymddeol a thramgwydd un cyflogwr (Grŵp Gwalia) a
fethodd gyflwyno data i'r Gronfa Bensiwn erbyn 30 Ebrill er mwyn i'r
cyfraniadau a'r taliadau wedi'u cysoni ar ddiwedd y flwyddyn gael eu hychwanegu
at gofnodion yr aelodau. |
|||
Adolygiad o Adroddiadau Rheoli Mewnol. (Er Gwybodaeth) PDF 114 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi gwybod i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am eitemau adroddadwy yn
adroddiadau dulliau rheoli mewnol rheolwyr penodedig y gronfa. Ychwanegwyd bod rheolwyr a cheidwaid asedau'n destun rheoliadau sylweddol
yng nghyd-destun y byd, yr UE a'r DU. Roedd rhaid iddynt adrodd am eu systemau
rheolau mewnol, a oedd yn destun archwiliad allanol a sylwadau gan gwmnïau
archwilio cymwys ac annibynnol. Atodwyd y crynodeb o eithriadau ar gyfer y
flwyddyn galendr ddiwethaf yn Atodiad 1 ar gyfer rheolwyr a cheidwad cronfeydd
penodedig Dinas a Sir Abertawe. Nodwyd bod y rheolwyr wedi mynd i'r afael â'r eithriadau'n briodol, gan eu
cydnabod drwy gymryd camau gweithredu adferol priodol. |
|||
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar
y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor
brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|||
Adroddiadau Ymgynghorwyr. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Roedd yr adroddiad
yn cyflwyno'r diweddariad economaidd a sylwadau ar y farchnad o safbwynt yr
Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd. Yn Atodiad 1, roedd
adroddiadau'r chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017 gan y ddau Ymgynghorydd
Buddsoddi annibynnol, Mr Noel Mills a Mr Valentine
Furniss. Yn ogystal, dosbarthodd Mr Furniss adroddiad buddsoddi am y chwarter a
ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2017. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i bob ymgynghorydd ac fe'u
hatebwyd yn briodol. Nodwyd cynnwys pob
adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu
hadroddiadau. |
|||
Adroddiad Ymgynghorydd Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Cyflwynodd Mr W Marshall, Hymans Robertson, ymgynghorydd buddsoddi
penodedig y gronfa, y diweddaraf ar y farchnad fuddsoddi adolygiad o berfformiad
y gronfa ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017. Rhoddwyd
adroddiad byr am ail chwarter 2017 i'r pwyllgor hefyd. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i bob ymgynghorydd ac fe'u
hatebwyd yn briodol. Nodwyd cynnwys yr
adroddiadau gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr
adroddiad. |
|||
Crynodeb Buddsoddiadau. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Rhoddodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er gwybodaeth" a
gyflwynodd, yn Atodiad 1, grynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar
gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017.
|
|||
Cyflwyniad Rheolwr y Gronfa: ·
Harbourvest – Ecwiti Preifat Byd-eang. Cofnodion: Gwnaethpwyd
cyflwyniad ar y cyd gan Craig McDonald ac Emily Archer o Harbourvest. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac fe'u
hatebwyd yn briodol. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |