Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd P Downing yn Is-gadeirydd ar gyfer

Blwyddyn Ddinesig 2017/2018.

 

(Y CYNGHORYDD P DOWNING A FU'N LLYWYDDU)

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Y Cynghorydd P Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn.

 

Y Cynghorydd M B Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch-yng-nghyfraith yn aelod cyfrannol y Cynllun Pensiwn ac rwyf yn derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol a weinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol.

 

Y Cynghorydd M Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd W G - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

3.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

4.

Cyflwyniadau a Dethol Rheolwr Isadeiledd.

Cofnodion:

Darparwyd gwybodaeth gefndirol ynghylch y broses werthuso a meini prawf y broses benodi gan Sam Gervaise Jones a Guy Hopgood o bifinance. Rhoddwyd cyflwyniadau i'r pwyllgor gan ddau reolwr ynghylch eu cynigion priodol.

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniadau ac atebwyd yn briodol iddynt.  Derbyniodd y pwyllgor gyngor gan swyddogion, yr ymgynghorydd annibynnol, a chynrychiolwyr bfinance a Hymans Robertson.

Gwerthuswyd cynigion terfynol y ddau gynigwr olaf gan gymharu eu cyflwyniadau’n unol â’r meini prawf gwerthuso. Yn seiliedig ar y gwerthusiad hwn, nodwyd y gallai First State Investments gynnig ateb a fyddai'n bodloni gofynion Abertawe gyda'i chynnyrch Cronfa Isadeiledd Amrywiol Ewropeaidd II ("EDIF II").

PENDERFYNWYD:  -

1)    Gwahodd tendr terfynol gan First State Investments ac awdurdodi bfinance i werthuso'r tendr am y pris gorau/cymhareb ansawdd;
 

2)    Yn amodol ar safon y cynigwr terfynol, caniatáu bfinance/Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a Chanolfan Gwasanaethau i geisio eglurdeb a dod i delerau â'r tendrwr olaf er mwyn cadarnhau a chwblhau telerau cyfreithiol y contract; ac

3)    Yn amodol ar gytuno ar delerau contract, caniateir bfinance/Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a Chanolfan Gwasanaethau i ddyfarnu'r contract terfynol a hysbysu'r cynigwr llwyddiannus.