Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: - Y Cynghorydd P.
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac
yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn. NODWYD bod y Cynghorydd P Downing wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau yn yr achos hwn. Y Cynghorydd C E
Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd D G
Sullivan - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy merch yng nghyfraith yn aelod
cyfrannol o'r Cynllun Pensiwn ac rwy'n derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol a
weinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir. |
|
Ardystiad Cyfraddau Prisio Teirblwyddol ac Addasiadau Drafft 2017. PDF 56 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Archer, AON Hewitt, actiwari'r gronfa bensiwn a benodwyd yn statudol adroddiad
a oedd yn ceisio sicrhau cydymffurfio â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol. Ychwanegwyd, yn
unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fod Gronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe yn ymgymryd â phrisiad actiwararaidd teirblwydd llawn o 31 Mawrth
2016, er mwyn mesur asedau ac atebolrwydd y Gronfa Bensiwn ac, o ganlyniad,
bennu cyfraddau cyfraniadau priodol y cyflogwr y byddant yn daladwy ar gyfer y
tair blynedd sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2017. Darparwyd y dystysgrif cyfraddau
actiwaraidd ac addasiadau yn Atodiad 1.
Roedd actiwari'r gronfa benodedig wedi cwrdd â chyflogwyr a chyflwyno ei
brif dybiaethau a meysydd datblygu ynglŷn â phrisiad 2016 iddynt.
Ymgynghorwyd â chyflogwyr ar ganlyniadau drafft dangosol ac opsiynau am wella
cyfraddau cyfraniadau cynyddol. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i gynrychiolydd AON Hewitt a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD cymeradwyo ardystiad cyfraddau prisio
teirblwyddol ac addasiadau drafft 2016. |
|
Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft 2017 PDF 207 KB Cofnodion: Darparodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol Ddatganiad Strategaeth
Ariannu 2017 i'w gymeradwyo. Ychwanegwyd, yn unol â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fod
angen i Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe lunio datganiad strategaeth ariannu
mewn ymgynghoriad â'r rhai sy'n cyfrannu at y cynllun a'r actiwari a
chynghorwyr a benodwyd. Prif bwrpas y Datganiad Strategaeth Ariannu oedd
nodi'r prosesau yr oedd yr Awdurdod Gweinyddu wedi cyflawni'r canlynol
drwyddynt: § Sefydlu strategaeth ariannu glir a thryloyw a oedd yn benodol i'r Gronfa,
ac a oedd yn nodi'r ffordd orau o fodloni atebolrwydd pensiwn y cyflogwr. § Cefnogi'r gofyniad rheoleiddiol mewn perthynas â dymunoldeb cynnal
cyfradd cyfraniadau sylfaenol mor gyson â phosib. § Sicrhau'r gofynion rheoleiddiol i bennu cyfraniadau er mwyn sicrhau y
bodlonir diddyledrwydd ac effeithiolrwydd cost tymor hir y Gronfa. § Cymryd golwg tymor hwy ochelgar ar ariannu atebolrwydd y Gronfa. Nodwyd, er bod yn rhaid i'r strategaeth ariannu sy'n berthnasol i
gyflogwyr unigol gael ei hadlewyrchu yn y Datganiad Strategaeth
Ariannu/Datganiad Strategaeth Buddsoddi, dylai ei ffocws bob amser fod ar y
gweithdrefnau hynny a oedd o fudd tymor hir i'r Gronfa. PENDERFYNWYD nodi a chymeradwyo Datganiad
Strategaeth Ariannu 2017, yn amodol ar unrhyw newidiadau arwyddocaol cyn 31
Mawrth 2017 yn cael eu cymeradwyo gan Swyddog Adran 151 a'u hadrodd yn ôl i'r
Pwyllgor. |
|
Polisi Adrodd am Doriadau PDF 222 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Reolwr Pensiynau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi
adrodd am doriadau. Esboniwyd bod
angen adrodd am unrhyw dorcyfraith i'r Rheoleiddiwr Pensiynau dan baragraffau
241 a 275 Côd Ymarfer Rheoleiddiwr Pensiynau Rhif 14 (Llywodraethu a gweinyddu
cynlluniau pensiynau gwasanaethau cyhoeddus) - "Côd Ymarfer".
Ychwanegwyd y gallai toriadau ddigwydd mewn perthynas ag amrywiaeth eang o'r
tasgau sydd fel arfer yn gysylltiedig â swyddogaeth weinyddol cynllun pensiwn
megis cadw cofnodion, rheoliadau mewnol, cyfrifo budd-daliadau a gwneud
buddsoddiadau neu benderfyniadau sy'n ymwneud â buddsoddi. Amlinellodd yr
adroddiad y gweithdrefnau i'w mabwysiadu gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir
Abertawe mewn perthynas â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a reolir ac a
weinyddir gan Ddinas a Sir Abertawe, o ran adrodd am unrhyw dorcyfraith i'r
Rholeiddiwr Pensiynau. Cafodd rai o'r darpariaethau cyfreithiol allweddol
eu cynnwys yn Atodiad A a chafodd enghraifft o gofrestr torcyfraith ei chynnwys
yn Atodiad B a darparwyd arweiniad ar fframwaith goleuadau traffig yn Atodiad
C. Byddai adroddiad cofnodi toriadau yn
cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Pensiwn a Phwyllgor y Gronfa Pensiwn bob chwarter. Trafododd y
pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD
cymeradwyo'r polisi. |
|
Cynllun Busnes 2017/18. PDF 67 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol
adroddiad a oedd yn ceisio darparu fframwaith gweithredu ar gyfer rhaglen waith
y Gronfa Bensiwn 2017/18. Atodwyd y Cynllun
Busnes ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1. PENDERFYNWYD: - 1) Nodi a chymeradwyo Cynllun Busnes
Blynyddol 2017/18; 2) Nodi'r amserlen a'r cyfrifoldeb ar gyfer
pwyntiau gweithredu allweddol yn ystod y flwyddyn. |
|
Cronfa Buddsoddi Cymru - Cytundeb rhwng Awdurdodau a'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er gwybodaeth" yn Atodiad 1 Adroddiad y Cyngor, dyddiedig 23 Chwefror 2017, a oedd yn cymeradwyo'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau, Awdurdod Cynnal a sefydlu Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd |
|
Polisi Newid yn yr Hinsawdd a Buddsoddi Carbon - y Diweddaraf PDF 76 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er
gwybodaeth" a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor ar yr argymhelliad
blaenorol i gomisiynu dadansoddiad portffolio gyda'r bwriad o greu polisi
buddsoddi mewn carbon. |
|
Datganiad Strategaeth Buddsoddi Drafft 2017 PDF 104 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y datganiad strategaeth
buddsoddi. Amlinellwyd, yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol,
fod angen i Gronfa Bensiwn Ddinas a Sir Abertawe gyhoeddi datganiad strategaeth
buddsoddi a oedd wedi disodli'r datganiad o egwyddorion buddsoddi. Nodwyd gofynion y Datganiad Strategaeth
Buddsoddi yn Rheoliad 7 ac fe'u hamlinellwyd yn yr adroddiad. Darparwyd y Datganiad Strategaeth Buddsoddi drafft yn Atodiad 1. PENDERFYNWYD cymeradwyo datganiad strategaeth buddsoddi drafft
2017 gan gydnabod ei fod yn ddogfen ddynamig a oedd yn destun adolygu fel y
bo'n briodol ac yn unol â'r amgylchiadau. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol Cofnodion: Roedd yr adroddiad
yn cyflwyno'r diweddariad economaidd a sylwadau ar y farchnad o safbwynt yr
Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd. Atodwyd yr
adroddiadau chwarterol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2016, gan y ddau
ymgynghorydd buddsoddi annibynnol, Mr Noel Mills a Mr Valentine Furniss yn
Atodiad 1. Dosbarthodd Mr Furniss
grynodeb fuddsoddi hefyd am gyfnod o 31 Rhagfyr 2016 tan 9 Mawrth. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i bob ymgynghorydd ac atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys pob
adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu
hadroddiadau. |
|
Crynodeb Buddsoddi Cofnodion: Darparodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn
cyflwyno crynodebau buddsoddi chwarterol yn Atodiad 1 ar gyfer y Gronfa Bensiwn
ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a thair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr
2016. |
|
Cyflwyniadau gan Reolwyr y Gronfa: - Blackrock - Cronfa Ragfantoli'r Cronfeydd Entrust Permal - Cronfa Ragfantoli'r Cronfeydd Cofnodion: 1)
Gwnaed
cyflwyniad ar y cyd gan Peter Hunt, Funmi Osiyemi a John Ware o Blackrock 2)
Gwnaed
cyflwyniad ar y cyd gan Katie Jupp a Christoph Englisch o Entrust Permal. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniadau ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniadau a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |