Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: - Y Cynghorydd P.
Downing - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac
yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn. NODWYD bod y Cynghorydd P. Downing wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau yn yr achos hwn. Y Cynghorydd C. E.
Lloyd - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy nhad yn aelod o'r Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd J.
Newbury - rwy'n derbyn pensiwn y cyngor a drosglwyddwyd i fi'n dilyn marwolaeth
fy ngwraig - personol. Y Cynghorydd M.
Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. NODWYD bod y Cynghorydd M. Thomas wedi derbyn
esgusodeb gan y Pwyllgor Safonau o ran ei wraig. |
||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor
Arbennig y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf a 18 Hydref a chyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 15 Medi 2016 fel cofnodion cywir. |
||
Adroddiad Blynyddol 2015-16. PDF 53 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Adroddiad Blynyddol Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2015/16 i'w gymeradwyo. Roedd Adroddiad
Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2015/16 yn Atodiad 1. Amlygwyd bod yr
adroddiad hefyd yn cynnwys gweithgarwch y Bwrdd Pensiwn Lleol. Gwnaeth y pwyllgor
sylw bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio'r cyfrifon a chadarnhau nad
oedd materion arwyddocaol i adrodd amdanynt. Diolchodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol i'r swyddogion yn yr Adran Cyllid am eu gwaith
wrth lunio'r adroddiad blynyddol. PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. |
||
Ailstrwythuro'r Tîm Gweinyddu Pensiynau. PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol a'r Prif Reolwr Pensiynau adroddiad a oedd yn
ceisio cyllid i ailstrwythuro'r Is-Adran Bensiynau. Amlinellodd yr
adroddiad yr adolygiad blaenorol a gynhaliwyd yn 2009, dadansoddiad bwlch,
ffigurau meincnodi a roddodd fanylion am Gronfeydd Pensiwn eraill Cymru a
strwythur arfaethedig yr Is-adran Bensiynau. Esboniwyd y byddai
disgrifiadau swydd yn cael eu hadolygu ac y byddai'r graddau'n cael eu
cadarnhau gan y Tîm Gwerthuso Swyddi os byddai'r cyllid yn cael ei
gymeradwyo. Yna, byddai ymgynghoriad
staff ac ymarfer gosod a chydweddu'n cael eu cyflawni gan staff presennol yr
Is-adran Bensiynau. Byddai'r staff
priodol yn cael eu cydweddu â swyddi a byddai swyddi gwag yn cael eu clustnodi
i'r staff pensiynau presennol a byddai cyfweliadau cystadleuol yn cael eu
trefnu. Wedyn, cysylltir â'r Adran AD
ynghylch recriwtio/adleoli ar gyfer y swyddi gwag sy'n weddill. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau ynghylch niferoedd y staff pensiynau, y costau staffio a
restrwyd yn yr adroddiad blynyddol, sut byddai'r strwythur arfaethedig yn
cynorthwyo'r llwyth gwaith ac yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r
cyllid i ailstrwythuro'r Is-Adran Bensiynau.
|
||
Cyngor Proffesiynol. PDF 70 KB Cofnodion: NODWYD y gadawodd Mr
Noel Mills a Mr Valentine Furniss y cyfarfod cyn trafod yr eitem hon. Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer caffael a phenodi
ymgynghorydd buddsoddi i Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Amlinellodd yr adroddiad y cyngor proffesiynol a roddwyd o'r blaen gan
ymgynghorwyr annibynnol i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ac amlygu tirwedd
llywodraethu newidiol CPLlL, yn enwedig ynghylch cyflwyno Cronfa Buddsoddi
Cymru Gyfan o 2018. Ychwanegwyd bod gwasanaethau'r ymgynghorwyr
buddsoddi annibynnol wedi gwasanaethu'r gronfa'n dda hyd yn hyn. Fodd bynnag, gyda'r beichiau ychwanegol a'r
dirwedd newidiol wedi'u hamlinellu, ystyriwyd ei bod yn briodol adolygu'r
gofynion ymgynghorol angenrheidiol i ddatblygu gwaith Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn. Gwnaed cymariaethau â
chronfeydd eraill yng Nghymru, yn ogystal â theilyngdod cyflogi ymgynghoriaeth
fuddsoddi.
|
||
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar
y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
||
Y Diweddaraf am Bwll Cymru Gyfan. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r
diweddaraf i'r pwyllgor ar gynnydd Cronfa Buddsoddi Cymru Gyfan. Gwnaeth y pwyllgor
sylw ynghylch yr amserlen bosibl i'r gronfa ddod i rym, amcangyfrif o'r costau
a roddwyd gan y Llywodraeth Ganolog a chynnwys y llythyr a anfonwyd ar ran y
Gweinidog dros Lywodraeth Leol. |
||
Buddsoddi mewn Isadeiledd. Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y strategaeth gaffael i
fodloni dyraniad isadeiledd y gronfa. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ymarfer
caffael ar y cyd yn ogystal â'r cronfeydd pensiwn eraill a enwyd ym mhwynt 4.2
yr adroddiad i benodi rheolwr isadeiledd craidd. |
||
Dyrannu Ecwiti Preifat ac Eiddo Byd-eang. Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol yr adroddiad Dyrannu Ecwiti
Preifat ac Eiddo Byd-eang a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y dylid cynnal yr
ymrwymiad i sicrhau dyraniad asedau'n unol â'r strategaeth fuddsoddi. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ymrwymiadau i ecwiti preifat ac Eiddo
Byd-eang fel a nodwyd ym mhwynt 5.1 yr adroddiad er mwyn cynnal dyraniadau
buddsoddi. |
||
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad "gwybodaeth lawn" a oedd yn
cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi
2016. Yn Atodiad 1 roedd crynodebau
buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r tair
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2016. |
||
Adroddiad(au) y Cyd-ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr adroddiad
yn cyflwyno'r diweddariad economaidd a sylwadau ar y farchnad o safbwynt yr
Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol a benodwyd. Yn Atodiad 1 roedd adroddiadau chwarterol y ddau ymgynghorydd buddsoddi
annibynnol, Mr Noel Mills a Mr Valentine Furniss a
ddaeth i ben ar 30 Medi 2016. Hefyd, dosbarthodd
Mr Furniss y ffurflenni mynegai a symudiadau arian cyfredol o 30 Medi tan fis
Rhagfyr 2016. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i bob ymgynghorydd ac atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys pob
adroddiad gan y pwyllgor a diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Annibynnol am eu
hadroddiadau. |
||
Cyflwyniadau. ·
Grŵp
Partneriaid - Eiddo Byd-eang; · Schroders - Eiddo'r DU. Cofnodion: 1)
Gwnaed
cyflwyniad ar y cyd gan James Lerner a Sian Roberts, Partners Group – Eiddo Byd-eang 2)
Gwnaed
cyflwyniad ar y cyd gan Graeme Rutter,
Lyndon Bolton a Naomi Green, Schroders – Eiddo'r DU. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniadau ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniadau a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |