Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016/2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd P. Downing yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-17.

 

(Bu'r Cynghorydd P. Downing yn llywyddu)</AI1>

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P. Downing - agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn cyfrannu at y Gronfa Bensiwn.

 

NODWYD bod y Cynghorydd P. Downing wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau yn hyn o beth. 

 

Y Cynghorydd J. Newbury - rwy'n derbyn pensiwn y cyngor a drosglwyddwyd i mi ar ôl i'm gwraig farw - personol.

 

Y Cynghorydd D. G. Sullivan - agenda yn ei chyfanrwydd - rwy'n derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol a weinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol.

 

Y Cynghorydd M. Thomas - agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

NODWYD bod y Cynghorydd M. Thomas wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau o ran ei wraig.

 

3.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

4.

Cyflwyniad ar y Cyd yr Awdurdod (ynghyd â chronfeydd Pensiwn Cymreig eraill) i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Thrysorlys ei Mawrhydi ar ei Gynigion Cyfuno - Cyflwyniad gan Hymans Robertson, ymgynghorwyr i Gymdeithas Drysoryddion Cymru.

Cofnodion:

Rhoddodd A. Johnson, Hymans Robertson, gyflwyniad ar gyd-argymhelliad yr awdurdod (ynghyd â chronfeydd pensiwn eraill Cymru) i Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Thrysorlys ei Mawrhydi ar eu cynigion cyfuno.

 

Rhoddodd y cyd-argymhelliad ymatebion ar y meysydd canlynol yn unol â chais gan y Llywodraeth: -

 

·         A:  Cronfeydd asedau sy'n cyflawni buddion graddfa.

·         B:  Llywodraeth a gwneud penderfyniadau cryf.

·         C:  Costau is a gwerth ardderchog am arian.

·         Ch. Gallu gwell i fuddsoddi mewn isadeiledd.

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau i gynrychiolydd Hyman Robertson a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Dylid cyflwyno'r cyd-argymhelliad terfynol yn y cyfarfod nesaf a drefnir.