Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr P N Bentu, J C Curtice, P Downing, M B Lewis, P Rogers a

 

Datganodd W G Thomas fuddiannau personol yn yr agenda gyfan.

 

Datganodd Guy fuddiant personol yn yr agenda gyfan.

 

Swyddogion:

 

Datganodd K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac C Isaac fuddiannau personol yn yr agenda gyfan.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, J C Curtice, P Downing, M B Lewis, P Rogers ac

W G Thomas gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd.

 

Datganodd I Guy gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd.

 

Swyddogion:

 

Datganodd K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac C Isaac gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd.</AI1>

 

42.

Cofnodion. pdf eicon PDF 127 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2024 fel cofnod cywir.

43.

Adroddiadau Archwilio Mewnol - Buddsoddiadau Cronfa Bensiwn a Gweinyddiaeth Cronfa Bensiwn. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cyflwyno canfyddiadau'r Adroddiadau Archwilio Mewnol ar Fuddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn a Gweinyddiaeth y Gronfa Bensiwn.

 

Amlinellwyd bod Is-adran Archwilio Mewnol Cyngor Abertawe wedi cynnal archwiliad o'r systemau rheoli mewnol fel rhan o'r broses gylchol mewn perthynas â sicrwydd ac adrodd ar reolaeth fewnol gan gwmpasu Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn a Gweinyddiaeth y Gronfa Bensiwn. Roedd eu gwaith yn cynnwys cynnal profion rheolaidd ar y systemau rheolaeth ariannol a rheolaeth yn y meysydd hyn o waith y Gronfa Bensiwn.

 

Roedd y lefelau sicrwydd a ddeilliodd o’r gwaith o’r ddau archwiliad yn ‘uchel’. Roedd yr Adroddiad Archwilio Mewnol – Buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn wedi’i ddarparu yn Atodiad 1 a’r Adroddiad Archwilio Mewnol – Gweinyddu Pensiynau yn Atodiad 2.

 

Penderfynwyd bod canfyddiadau'r Adroddiadau Archwilio Mewnol mewn perthynas â Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn (Atodiad 1) a Gweinyddiaeth y Gronfa Bensiwn (Atodiad 2) yn cael eu nodi.

 

44.

Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru 2024-27. pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth o ran cynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP).  Roedd Atodiad 1 yn darparu Cynllun Busnes WPP ar gyfer 2024-27.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes WPP ar gyfer 2024-27.

45.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 216 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Darparodd Atodiad A fanylion ynghylch y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2023.  Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

46.

Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2024/25. pdf eicon PDF 330 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddarparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2024/25.

 

Amlinellwyd bod y Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer gorau, wedi llunio cynllun busnes, cofrestr risgiau, cyllideb  a dyraniad asedau i lywio'i rhaglen waith ar gyfer y cyfnod o 12 mis sydd i ddod. Atodwyd y cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr risg a'r dyraniad asedau ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau 1, 2, 3 a 4.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a nodi’r eitemau canlynol:

 

1)    Cynllun Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2024/2025.

2) Cofrestr Risgiau 2024/25.

3) Dyraniad Asedau.

4) Cyllideb 2024/25.

47.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 115 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

48.

Strategaeth Fuddsoddi Strwythuro Gweithredu.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth awdurdod dirprwyedig i roi strwythur buddsoddi'r strategaeth Buddsoddi gymeradwy ar waith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r caniatâd dirprwyedig i'r Dirprwy Swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i roi'r strwythur buddsoddi ofynnol (Atodiad 1) ar waith, fel y'i pennir gan y strategaeth buddsoddi a gymeradwywyd (Atodiad 2).

49.

Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP).

 

Penderfynwyd nodi Diweddariad Chwarterol a chofnod 'RAID' y PLlC.

 

50.

Caffael Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Argymhelliad Gweithredwyr Caffael Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP) a ddarparwyd yn Atodiad 1.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Argymhelliad Caffael Gweithredwyr WPP yn atodiad 1.

51.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

52.

Adroddiad Monitro Buddsoddi Chwarterol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Philip Pearson ac Andre Ranchin, Hymans Robertson, y diweddariad ar y farchnad a'r buddsoddi chwarterol i'r gronfa 'er gwybodaeth. 

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt.

53.

Polisi Buddsoddi Cyfrifol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Philip Pearson, Hymans Robertson, y Polisi Buddsoddiad Cyfrifol ‘er gwybodaeth’ a oedd yn amlinellu amcanion sylfaenol y Polisi Buddsoddiad Cyfrifol, credoau’r Pwyllgor ar ran y Gronfa a’r hyn a ddisgwylid o gael y Polisi yn ei le. Roedd hefyd yn rhoi manylion ynghylch y camau a fyddai'n cael eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn a'r modd yr asesir y camau hyn er mwyn barnu a oedd y canlyniadau disgwyliedig yn cael eu cyflawni.

54.

Cyflwyniad Rheolwr y Gronfa: -

·       Russell Investments.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gwnaed cyflwyniad gan Julian Brown a Per Dohnal o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.