Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratice Services: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu,
P Downing, M B Lewis, P Rogers a W G Thomas fuddiannau personol yn yr agenda gyfan. Datganodd Ian Guy fuddiant personol yn yr agenda gyfan. Swyddogion: Datganodd K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac S Williams fuddiannau personol yn yr agenda gyfan. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr P N Bentu, P Downing, M B Lewis, P Rogers ac W G Thomas gysylltiadau
personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. Datganodd Ian Guy
gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb,
J Dong, J Parkhouse ac S Williams gysylltiad personol â'r agenda yn ei
chyfanrwydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 6 Medi 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Archwilio Manwl - Cyngor a Sir Abertawe. PDF 1 MB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillett, Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio Archwilio
Cymru 2023 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu'r gwaith yr oedd Archwilio Cymru'n bwriadu ei wneud yn
ystod 2023 i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol fel archwiliwr allanol, a
chyflawni ei rwymedigaethau dan y Côd Ymddygiad i archwilio ac ardystio a yw
datganiadau cyfrifyddu'r Gronfa Bensiwn yn 'wir ac yn deg'. Amlinellwyd mai
diben y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig, pryd y byddai'n cael ei wneud,
faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n gwneud y gwaith. Ychwanegwyd nad oedd unrhyw gyfyngiadau
wedi'u gosod ar yr archwilwyr wrth gynllunio cwmpas yr archwiliad. Roedd y cynllun
hefyd yn amlinellu defnyddioldeb y datganiadau ariannol, archwiliad o gyfrifon
y cronfeydd pensiwn, y risgiau sylweddol o ran datganiadau ariannol, meysydd
ffocws eraill, swyddogaethau archwilio statudol, y ffi archwilio, y tîm archwilio,
yr amserlen ac ansawdd yr archwilio. Roedd Atodiad 1
yn darparu'r newidiadau allweddol i Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI) 315
a'r effaith bosib ar y cyngor. |
|
Adroddiad SRA 260 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 751 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillet, Swyddfa Archwilio Cymru, Adroddiad
Archwilio Cyfrifon ACI 260 – Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a oedd yn
crynhoi prif ganfyddiadau'r archwiliad o gyfrifon ar gyfer 260-2022. Ychwanegwyd bod Archwilio
Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y
bydd y cyngor wedi darparu'r Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar Atodiad 1. Darparwyd yr Adroddiad Archwilio arfaethedig
yn Atodiad 2. Ni nodwyd unrhyw
gamddatganiadau yn y cyfrifon a oedd yn aros heb eu cywiro. Esboniwyd bod manylion y camddatganiadau a
gywirwyd gan y rheolwyr yn fân ddiwygiadau o natur gyflwyniadol ac nad oeddent
yn cael unrhyw effaith ar wariant net nac asedau net y Gronfa Bensiwn. Nid oedd unrhyw faterion arwyddocaol eraill
yn codi. Ychwanegwyd yn
ystod archwiliad 2021-22, fod Archwilio Cymru wedi nodi un mater arall a
arweiniodd at nodi argymhelliad yn adroddiad Archwilio Cyfrifon 2021-22. Roedd
Archwilio Cymru wedi mynd ar drywydd gweithredu'r argymhelliad hwn gan ddweud
ei fod wedi'i weithredu fel y nodwyd yn Atodiad 3. Ni nodwyd unrhyw argymhellion pellach
ganddynt ar gyfer y Gronfa Bensiwn yn ystod archwiliad 2022-23. Diolchodd y
Cadeirydd i Archwilio Cymru am yr adroddiad a chanmolodd Jeff Dong, Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151, Karen Cobb, Rheolwr Cyfrifeg a
Buddsoddiad a staff yr Adran Gyllid am eu holl waith. |
|
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2022/23. PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2022/23. Amlinellwyd bod
Cronfa Bensiwn Ddinas a Sir Abertawe bob amser wedi cynhyrchu datganiad
cyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol dan
sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad â
Swyddfa Archwilio Cymru, penderfynwyd cyfuno'r ddwy ddogfen yn un a gwneud y
cynhyrchiad/proses archwilio'n fwy syml.
Ychwanegwyd bod
swyddogion wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft
2022/23 yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2023 ac
roedd Atodiad 1 yn darparu'r fersiwn derfynol, a oedd yn destun yr adroddiad
ACI 260 gyda barn archwilio a chanfyddiadau archwilio wedi'u cyflwyno gan
Swyddfa Archwilio Cymru. Gwnaeth y
Pwyllgor sylwadau ar berfformiad buddsoddi rhagorol a oedd ar frig tabl y
gynghrair dros 3 blynedd a'r gwelliant parhaus dros y tymor hwy a diolchwyd i
staff yr Adran Gyllid, a’u llongyfarch, Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Datganiad
o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2022/23. |
|
Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2022/2023. PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad
'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn
Cymru (PPC) 2022/23. Darparwyd Adroddiad Blynyddol PPC 2022/23 yn Atodiad 1. |
|
Adroddiad am doriadau. PDF 502 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Medi 2023. Nodwyd
manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Y Diweddaraf am roi'r Strategaeth Buddsoddi ar waith. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd parhad y rhaglen ailddyrannu
asedau (dadrisgio) o ecwitïau i asedau ildio a oedd
yn cyfrannu at amcanion sero net. Penderfynwyd cymeradwyo'r cynnydd a'r gweithrediadau a wnaed
hyd yma ar argymhellion a gymeradwywyd yn flaenorol yn adran 2.2.6 yr
adroddiad. |
|
Adroddiad(au) diweddaru. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad diweddaru
a chynnydd chwarterol a ddarparwyd gan awdurdod cynnal Partneriaeth Pensiwn
Cymru, Cyngor Sir Gâr ac Adolygiad Cynllun Busnes PPC ar gyfer Ch1 2023-24. |
|
Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarterol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Philip
Pearson ac Andre Ranchin, Hymans Robertson, y diweddariad ar y farchnad a'r
buddsoddi chwarterol i'r gronfa 'er gwybodaeth'. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt. |
|
Adolygiad o'r Strategaeth Buddsoddi. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Philip
Pearson ac Andre Ranchin, Hymans Robertson Adolygiad o Strategaeth Buddsoddi
2023 Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. |
|
Cynllun y daith at Sero Net. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Philip
Pearson ac Andre Ranchin, Hymans Robertson, Gynllun Trawsnewid Sero Net Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. |
|
Crynodeb Buddsoddi.
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y
chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023. |
|
Cyflwyniad Rheolwr y Gronfa: Russell Investments. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gwnaed cyflwyniad
gan Julian Brown, Majid Khan a Taran Paik o Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd yn briodol iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |