Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datgelwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr P N Bentu, J P Curtice, M B Lewis a P Rogers gysylltiad personol â'r
agenda yn ei chyfanrwydd. Datganodd Ian Guy gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb,
J Dong, C Isaac a S Woon gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor
y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151 yr
adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas
a Sir Abertawe 2022/23 i'w cymeradwyo. Cyflwynodd Swyddogion Adroddiad Blynyddol a
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2022/23 i Archwilio Cymru i ddechrau ar eu
harchwiliad. Mae Archwilio Cymru wedi dechrau ar eu harchwiliad o Adroddiad
Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft y Gronfa Bensiwn 2022/23. Byddai eu
hadroddiad SRhA dilynol yn cynnwys barn archwilio a
chanfyddiadau archwilio yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar
ddiwedd yr archwiliad ym mis Tachwedd 2023 ochr yn ochr â'u cynllun archwilio
gohiriedig. Atodwyd Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe 2022/23 yn Atodiad 1. Gwnaeth y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 sylw
ynghylch bod Abertawe yn safle 1 yn nhabl y gynghrair o enillion ar fuddsoddiad
am y 3 blynedd hyd at 31/3/23 a'i bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer
Cronfa CPLlL y Flwyddyn. Diolchwyd i staff yr Adran
Gyllid a'u llongyfarch am eu gwaith a'u hymroddiad. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Datganiad o
Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2022/23, yn amodol ar
archwiliad. |
|
Adroddiad am doriadau. (Er gwybodaeth) PDF 236 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Gorffennaf 2023. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu
a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adolygiad o'r Adroddiad Sicrwydd Rheoli. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
o eitemau adroddadwy a oedd wedi'u cynnwys yn
adroddiadau sicrwydd ynghylch rheolaethau mewnol rheolwyr/ceidwaid penodedig
cronfeydd. Gofynnodd y
Cadeirydd gwestiwn i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 a
ymatebodd yn briodol. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf am Gynnydd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth
Pensiwn Cymru (WPP). Penderfynwyd: 1)
Nodi diweddariad chwarterol a
blynyddol y CBLl (Atodiad 1 a 2). 2)
Nodi diweddariad y gweithredwr
Link Fund Solutions (Atodiad 3). 3)
Cymeradwyo Meini Prawf
Gwerthuso a Argymhellir ar gyfer Caffael Gweithredwyr PPC yn Atodiad 4. |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Cyflwynodd yr
Ymgynghorwyr Buddsoddi, Mr Philip Pearson ac Andre Ranchin y buddsoddiad chwarterol
'er gwybodaeth' a’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad i’r gronfa, cynnydd
ymarfer ôl troed carbon a darn addysg ar yr adolygiad modelu rhwymedigaeth
asedau ac adolygiad o’r strategaeth fuddsoddi sydd ar ddod. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol
iddynt. |
|
Crynodeb Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi
ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin
2023. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: Russell Investments. Cofnodion: Gwnaed cyflwyniad
gan Aidan Quinn o Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |