Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023-2024.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M B Lewis yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024.   

  

                  (Bu’r Cynghorydd M B Lewis yn llywyddu)  

 

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M B Lewis yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024.   

  

(Bu’r Cynghorydd M B Lewis yn llywyddu)

 

2.

Ethol Is-gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023-2024.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024.  

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024.  

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:  

  

Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, P Downing, M B Lewis, P Rogers a W G Thomas gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.   

  

Datganodd I Guy gysylltiad personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.  

  

Swyddogion:  

  

Datganodd K Cobb, J Dong, C Isaac a J Parkhouse gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.   

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:  

  

Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, P Downing, M B Lewis, P Rogers a W G Thomas gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.   

  

Datganodd I Guy gysylltiad personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.  

  

Swyddogion:  

  

Datganodd K Cobb, J Dong, C Isaac a J Parkhouse gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.   

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 247 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar

15 Mawrth 2023 fel cofnod cywir.

 

Nodwyd - Roedd y Cadeirydd yn falch o gyhoeddi bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ynghyd â chronfeydd CPLlL llawer mwy (Manceinion Fwyaf, Lothian a De Swydd Efrog) yng nghystadleuaeth Cronfa Bensiwn CPALl y Flwyddyn 2023 > £2.5bn, a chyhoeddir y gwobrau ar 14 Medi 2023.

 

I raddau helaeth, roedd yr enwebiad yn seiliedig ar eu henillion buddsoddi ar frig tabl y Gynghrair CPLlL yn y 3 blynedd diwethaf hyd at 31/3/2023, lle nodwyd mai Abertawe oedd y gronfa LGPS orau, ynghyd â'i waith i barhau i weithredu ei strategaeth fuddsoddi sero net 2037.

5.

Cynllun Archwilio 2023 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 314 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Gillian Gillett, Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio Amlinellol Swyddfa Archwilio Cymru 2023 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Amlinellodd yr adroddiad y meysydd a'r dull gweithredu lefel uchel y byddai Swyddfa Archwilio Cymru'n eu mabwysiadu yn ystod 2023 i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol a'i newidiadau o ran dull gweithredu mewn perthynas â'r ISA 135 a gyflwynwyd yn ddiweddar fel archwilydd allanol ac i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y Côd Ymarfer Archwilio i archwilio ac ardystio a oedd datganiadau cyfrifo'r Gronfa Bensiwn yn 'wir ac yn deg'.

 

Bydd y cynllun manwl arferol yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2023. Diben y cynllun yw nodi'r gwaith arfaethedig, pryd y bydd yn cael ei wneud, faint y bydd yn ei gostio a phwy fydd yn ei gynnal.

6.

Adroddiad am doriadau. pdf eicon PDF 331 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Dong, y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2023. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

7.

Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) 2022-2026. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) a nodi cynnydd Cynllun Busnes y flwyddyn gyfredol.

 

Amlinellwyd bod y PPC, yn unol ag arfer gorau, wedi llunio cynllun busnes i lywio ei rhaglen waith ar gyfer y cyfnod 36 mis sydd i ddod. Darparwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2023-2026 yn Atodiad 1.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru 2023-26 a nodi cynnydd y cynllun yn ystod y flwyddyn.

8.

Statws Corff Derbyn. pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cais am y corff derbyn ar gyfer Mrs Bucket.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe eisoes wedi derbyn nifer o gyflogwyr o'r fath i'r cynllun, e.e. Tai Tarian, Celtic Leisure. Roedd pob un o'r cyflogwyr hyn wedi cwblhau Cytundebau Derbyn gyda gwarant cyflogwyr sy'n noddi cysylltiedig.

 

Eglurwyd bod ysgolion uwchradd o fewn Awdurdod Lleol Abertawe'n gyrff annibynnol ac mae ganddynt ddisgresiwn i gomisiynu rhai gwasanaethau fel y gwelant yn dda. Yn dilyn ymarfer adolygu gwasanaeth gan YGG Tirdeunaw i wasanaethau glanhau ysgolion, penderfynodd yr ysgol y dylid penodi Mrs Bucket (Gwasanaethau Glanhau Masnachol) i ymgymryd â'r gwasanaethau glanhau yn yr ysgol. Yn flaenorol, darparwyd y gwasanaethau glanhau hyn gan Gyngor Abertawe o dan gytundeb lefel gwasanaeth. Darparwyd taflen ffeithiau ar Mrs Bucket yn Atodiad A.

 

O dan amodau'r contract, trosglwyddwyd y trefniadau cymwys presennol o dan drefniadau TUPE gan y cyflogwr presennol, Cyngor Abertawe, i Mrs Bucket. Er mwyn cadw hawliau pensiwn yr aelod staff a drosglwyddir, cynigiwyd hefyd roi statws corff derbyniedig i Mrs Bucket yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ac y rhoddir y cytundeb derbyn ar sail cynllun caeëdig, a fydd yn cynnwys y staff a enwir yn atodlen 1 y cytundeb derbyn yn unig.

 

Nodwyd y bydd y cytundeb derbyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r bond indemniad gofynnol neu'r warant cyflogwr sy'n noddi gael ei sicrhau gan y cyflogwr sy'n noddi, sef Cyngor Abertawe. Bydd yr Awdurdod Gweinyddol hefyd yn cynnal yr asesiad risg priodol o'r corff a dderbynnir, Mrs Bucket, fel rhan o'r Cytundeb Corff Derbyn.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn cymeradwyo Cais Corff Derbyn Mrs Bucket yn amodol ar gwblhau Cytundeb Derbyn boddhaol (sy'n cydnabod dyddiad dechrau'r contract).

 

2)    Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid gwblhau'r Cytundeb Derbyn gydag ymgynghorwyr cyfreithiol penodedig, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

9.

Adnoddau i fod yn barod ar gyfer y Dangosfwrdd Pensiynau. pdf eicon PDF 255 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth adroddiad i sicrhau bod yr Adran Gweinyddu'r Gronfa Bensiwn yn derbyn adnoddau priodol i baratoi ar gyfer y Dangosfwrdd Pensiynau.

 

Rhoddwyd y cefndir i'r Pwyllgor, manylion am y dangosfwrdd pensiynau a'r camau gweithredu yr oedd eu hangen i fod yn 'barod am y dangosfwrdd'.

 

Ychwanegwyd er mwyn cwrdd â'r gofynion parodrwydd ac integreiddio gofynnol drwy weithredu'r dangosfwrdd pensiynau ar gyfer CPLlL ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, argymhellwyd penodi 1 Swyddog Cyfathrebu a Hyfforddiant Cynorthwyol, gyda chyfanswm costau (gan gynnwys costau cyffredinol) o £34,093. Roedd cylch gwaith y swydd hefyd wedi'i amlinellu.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r adnoddau a nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

2)    Dirprwyo'r Dirprwy Swyddog Adran 151 i recriwtio a phenodi yn yr un modd.

10.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

11.

Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC)

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi cofnod RAID PPC a'r Adroddiad Diweddaru CBLl yn Atodiadau 1 a 2.

 

2)    Cymeradwyo Cynllun Hyfforddi PPC yn Atodiad 4.

12.

Diweddariad ar y Cynllun Busnes/Strategaeth Buddsoddi.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio diweddaru Pwyllgor y Gronfa Bensiwn o gynnydd rhai amcanion allweddol yn y cynllun busnes a'r strategaeth fuddsoddi.

 

Penderfynwyd:

 

1)    nodi a chymeradwyo'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar argymhellion a gymeradwywyd yn flaenorol yn adrannau 2.1-2.4 yr adroddiad hwn.

 

2)    nodi a chymeradwyo comisiwn yr adolygiad strategaeth fuddsoddi ffurfiol yn 2.5.

 

3)    nodi a chymeradwyo'r llinell amser gohiriedig a nodwyd yn 3.2 ar gyfer caffael ymgynghorwyr buddsoddi.

13.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Philip Pearson, Ymgynghorydd Buddsoddi, Hymans Robertson yr Adroddiad Monitro Buddsoddiad Chwarter 1 2023 'er gwybodaeth'.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad.

14.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

15.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa:

·       Russell Investments.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gwnaed cyflwyniad gan Aidan Quinn, Gerald Fitzpatrick a Will Pearce o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.