Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr P Bentu, P Downing, M B Lewis ac W G Thomas gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.

 

Datganodd y Swyddogion K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac S Williams gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr P Bentu, P Downing, M B Lewis a W G Thomas gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd.

 

Swyddogion:

 

Datganodd K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac S Williams gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd.

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 7 Medi 2022 fel cofnod cywir.

28.

Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 341 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Gillian Gillett, Swyddfa Archwilio Cymru, yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon – Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau'r archwiliad o gyfrifon ar gyfer 2021-22.  

 

Ychwanegwyd bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y bydd y cyngor wedi darparu'r Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar Atodiad 1.  Darparwyd yr Adroddiad Archwilio arfaethedig yn Atodiad 2.

 

Ni nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y cyfrifon a oedd dal heb eu cywiro.  Darparwyd manylion y camddatganiadau a gywirwyd gan Reolwyr yn Atodiad 3. Nid oedd unrhyw faterion arwyddocaol eraill yn codi.

 

Darparwyd un mater arall a arweiniodd at wneud argymhelliad ynghylch gwerthusiad o fuddsoddiadau yn Arddangosyn 2. Darparwyd yr argymhellion sy'n codi o'r archwiliad yn Atodiad 4.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Archwilio Cymru am yr adroddiad a chanmolodd Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151, Karen Cobb, Uwch Gyfrifydd a staff yr Adran Gyllid am eu holl waith.

29.

Prisiad Teirblwyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 31 Mawrth 2022. pdf eicon PDF 717 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Laura Caudwell ac Arkady Gibas o AON ganlyniadau cychwynnol Prisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 31 Mawrth 2022 i'r Pwyllgor.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: -

 

·         Y broses werthuso a rhagdybiaethau.

·         Canlyniadau cychwynnol y cronfa gyfan yn 2022.

·         Disgwyliadau ar gyfer canlyniadau a chyfraniadau cyflogwyr.

·         Crynodeb, camau nesaf a chwestiynau.

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau i gynrychiolwyr AON gan ymateb iddynt yn briodol.  Nodwyd sefyllfa gadarnhaol iawn y Gronfa Bensiwn a thynnwyd sylw at waith y Tîm Pensiwn wrth ddarparu data glân a chywir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr AON am y cyflwyniad manwl iawn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r gwerthusiad rhwymedigaethau - rhagdybiaethau.

30.

Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2021/22. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2021/2022.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Ddinas a Sir Abertawe wedi cynhyrchu datganiad cyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân erioed mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol dan sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad â Swyddfa Archwilio Cymru, penderfynwyd cyfuno'r ddwy ddogfen yn un a gwneud y cynhyrchiad/proses archwilio'n fwy syml.

 

Ychwanegwyd bod swyddogion wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft 2021/22 yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2022 ac roedd Atodiad 1 yn darparu'r fersiwn derfynol, a oedd yn destun yr adroddiad ISA 260 gyda barn archwilio a chanfyddiadau archwilio wedi'u cyflwyno gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ynghylch y canlyniadau gwych a ddarparwyd a diolchwyd a llongyfarchwyd â’r staff o fewn y Gwasanaethau Ariannol am eu gwaith a'u hymrwymiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2020/21.

31.

Adroddiad Toriadau. pdf eicon PDF 383 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Medi 2022. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

32.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2021/22. pdf eicon PDF 136 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a oedd yn darparu cipolwg o'r gwaith yr oedd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) wedi ei wneud dros y deuddeg mis diwethaf.

33.

Adnoddau Gweinyddu Pensiynau. pdf eicon PDF 236 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y newidiadau a argymhellwyd i lefelau staffio presennol yr adnoddau gweinyddu Pensiynau.           

 

Ychwanegwyd bod yr adroddiad yn ceisio mynd i'r afael â gweinyddiaeth y cynllun a heriau monitro buddsoddiadau a newidiadau rheoleiddio i sicrhau bod y strwythur yn addas at y diben i fodloni amcanion y gronfa.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ychwanegiadau adnoddau a chyllidebol a nodwyd ym mharagraffau 5.4, 5.5. a 6.3 yr adroddiad.

34.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

35.

Crynodeb Gweithdy Sero Net.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd Andre Ranchin, Ymgynghorydd Annibynnol, Hymans Robertson grynodeb 'er gwybodaeth' o'r gweithdy sero-net ym mis Hydref 2022. Canolbwyntiodd ar y fframwaith '3 Dimensiwn' a ddefnyddiwyd er mwyn helpu i gyflawni ei amcanion sero-net ac amcanion ehangach.

36.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Diweddariad.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

37.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022.

38.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Nick Jellema ac Andre Ranchin, Ymgynghorwyr Buddsoddi, Hymans Robertson yr Adroddiad Monitro Buddsoddiad Chwarter 3 2022 'er gwybodaeth'.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad.

39.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa:

 

·       Russell Investments.

 

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gwnaed cyflwyniad gan Aidan Quinn, Paddy Bortoli, Taran Paik, Helena Hui Ravanas, Yacine Zerizef a William Pearce o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.