Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau.

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi ennill gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau'n ddiweddar yn y Gwobrau Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl).

 

Ychwanegodd fod y Gronfa hefyd ar restr fer CPALl ar gyfer Cronfa Bensiwn y Flwyddyn a'r Strategaeth Fuddsoddi Orau. 

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, J P Curtice, P Downing, M B Lewis,

P Rogers ac W G Thomas gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.

 

Datganodd y Swyddogion K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac S Williams gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, J P Curtice, P Downing, M B Lewis, P Rogers ac W G Thomas gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd.

 

Swyddogion:

 

Datganodd K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac S Williams gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd.

42.

Cofnodion. pdf eicon PDF 245 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

43.

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Datganiad am y Strategaeth Ariannu Ddrafft. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i sicrhau y cydymffurfir â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y mae angen datganiad strategaeth ariannu ar eu cyfer.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft.

 

Ychwanegwyd mai prif bwrpas y Datganiad Strategaeth Ariannu oedd amlinellu'r prosesau a ddefnyddir gan yr awdurdod gweinyddu i:

 

§  sefydlu strategaeth ariannu glir a thryloyw, sy'n benodol i'r Gronfa, a fyddai'n nodi sut y gellid bodloni rhwymedigaethau pensiwn cyflogwr.

 

§  cefnogi'r gofyniad rheoliadol mewn perthynas â dymunoldeb cynnal cyfradd cyfraniadau sylfaenol sydd mor gyson â phosib.

 

§  sicrhau bod y gofynion rheoliadol i bennu cyfraniadau er mwyn sicrhau diddyledrwydd a chost effeithlonrwydd tymor hir y Gronfa'n cael eu bodloni.

 

§  ystyried ariannu rhwymedigaethau'r Gronfa'n ochelgar yn y tymor hwy.

 

Nodwyd, er bod yn rhaid adlewyrchu'r strategaeth ariannu sy'n berthnasol i gyflogwyr unigol yn y Datganiad Strategaeth Ariannu/Datganiad Strategaeth Buddsoddi, y dylai ganolbwyntio ar bob adeg ar y camau gweithredu hynny a oedd er budd tymor hwy pennaf y Gronfa.

 

Penderfynwyd cymeradwyo datganiad y strategaeth ariannu.

44.

Cyflwyniad AON - Prisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 31 Mawrth 2022. pdf eicon PDF 472 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Darparodd Laura Caudwell ac Arkady Gibas o AON adroddiad manwl ar ganlyniadau Prisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 31 Mawrth 2022 i'r Pwyllgor.

 

Roedd y cyflwyniad yn amlinellu canlyniadau prisiad 2022, y broses brisio a'r rhagdybiaethau. Byddai’r canlyniadau hyn yn cael eu hanfon at DLUHC yn ôl y gofyn ac yn dod i rym o 1 Ebrill 2023.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr AON am y cyflwyniad.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad.

2)    Cymeradwyo'r prisiad/ardystiad actiwaraidd teirblwyddol.

45.

Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2023/24. pdf eicon PDF 322 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddarparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2023/24.

 

Nodwyd bod y Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer gorau, wedi llunio cynllun busnes, cofrestr risgiau, cyllideb a dyraniad asedau i lywio'i rhaglen waith ar gyfer y cyfnod o 12 mis sydd i ddod. Atodwyd y cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr risg a'r dyraniad asedau ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau 1, 2, 3 a 4 yr adroddiad.

 

Gofynnwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn gymeradwyo'r cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr risgiau a'r dyraniad asedau ar gyfer y flwyddyn 2023/24, gan nodi'r amserlen a'r cyfrifoldeb am bwyntiau gweithredu allweddol drwy gydol y flwyddyn. Roedd y ddogfen yn ddogfen ddynamig a byddai'n cael ei gwella a'i diwygio drwy gydol y flwyddyn yn ôl yr angen.

 

Penderfynwyd nodi a chymeradwyo'r canlynol: -

 

1)    Cynllun Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2023/24.

2)    Cofrestr Risgiau 2023/24.

3)    Dyraniad asedau.

4)    Cyllideb 2023/24.

46.

Adroddiad Toriadau. pdf eicon PDF 469 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Darparodd Atodiad A fanylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2022. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

47.

Hyfforddiant Ymddiriedolwyr. pdf eicon PDF 280 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio penderfynu ar raglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r asesiad a'r cynllun hyfforddiant amlinellol yn 3.7, 3.8 a 3.9 ac y dylai cyfleoedd pellach a nodir yn ystod y flwyddyn gael eu dirprwyo i'r Dirprwy Swyddog Adran 151 i'w cymeradwyo.

48.

Gwahardd Y Cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

49.

Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi Adroddiad Cynnydd PPC.

2)    Dirprwyo cymeradwyaeth i'r Dirprwy Swyddog A151 mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i ddatblygu cyfleoedd Codi'r Gwastad/Buddsoddi Lleol ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

50.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Philip Pearson ac Andre Ranchin, Ymgynghorwyr Buddsoddi, Hymans Robertson yr Adroddiad Monitro Buddsoddiad Chwarter 4 2022 'er gwybodaeth'.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad.

51.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022.

52.

Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa:

·       Russell Investments.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Gwnaed cyflwyniad gan Aidan Quinn, Paddy Bortoli, Gerald Fitzpatrick a Lewis Forman o Russell Investments.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol iddynt.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod.