Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd
y buddiannau a ganlyn: Datganodd y Cynghorwyr P Bentu, J P Curtice, P Downing, C C Lewis ac M B Lewis fuddiant
personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb, C Davies, J Dong, C Isaac a J Parkhouse fuddiant personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr P Bentu, J P
Curtice, P Downing, C C Lewis ac M B Lewis
gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb, C Davies, J Dong, C
Isaac a J Parkhouse gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Disgresiynau Awdurdod. PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio
fformiwleiddio a chymeradwyo Disgresiynau mabwysiedig
yr Awdurdod Gweinyddu yn unol â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Amlinellwyd bod rheoli gweinyddiaeth cronfa CPLlL
ar adegau yn gofyn am roi nifer o ddisgresiynau ar
waith, a roddwyd i’r Awdurdod Gweinyddu dan reoliadau gweinyddu’r CPLlL, wrth iddo ymdrin ag aelodau a gweithwyr. Mae'n rhaid
i awdurdod gweinyddu fformiwleiddio ac egluro, naill ai mewn polisi ysgrifenedig
neu fel arall, os yw'n bwriadu rhoi’r disgresiynau
hyn ar waith a sut y mae'n bwriadu gwneud hynny. Darparwyd argymhellion Dinas a Sir Abertawe ynghylch Disgresiynau yr Awdurdod Gweinyddu yn Atodiad A. Penderfynwyd cymeradwyo'r disgresiynau a roddwyd i’r Awdurdod
Gweinyddu a amlinellwyd yn Atodiad A. |
|
Adroddiad am doriadau. PDF 284 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Gorffennaf 2022. Amlygwyd
manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 236 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). |
|
Crynodeb Buddsoddi. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y
flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022. |
|
Adroddiad Chwarterol yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Nick
Jellema, Ymgynghorydd Buddsoddi Hymans Robertson, Adroddiad Monitro Buddsoddi
Chwarter 2 2022 ‘er gwybodaeth’. Nodwyd cynnwys yr
adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd
Buddsoddi am ei adroddiad. |