Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022-2023. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M B Lewis yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Gyngor 2022-2023. (Llywyddodd y Cynghorydd M B Lewis) Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M B Lewis yn Gadeirydd
ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. (Y Cynghorydd M B Lewis fu'n llywyddu) |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022-2023. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing yn Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Gyngor 2022-2023. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Downing yn
Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd
y buddiannau a ganlyn: Datganodd y Cynghorydd P Bentu, J P Curtice, P Downing, M B Lewis a W G
Thomas fuddiant personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb, C Davies, J Dong, J Parkhouse ac S Williams fuddiant personol yn yr agenda yn ei chyfanrwydd. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorydd P Bentu, J P
Curtice, P Downing, M B Lewis a W G Thomas gysylltiadau personol â'r agenda yn
ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb, C Davies, J Dong, J
Parkhouse ac S Williams gysylltiad personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2022. PDF 772 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillett, Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio Archwilio
Cymru 2022 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu'r gwaith yr oedd Archwilio Cymru'n bwriadu ei wneud yn
ystod 2022 i ryddhau eu cyfrifoldebau statudol fel archwiliwr allanol, a
chyflawni eu rhwymedigaethau dan y Côd Ymddygiad i archwilio ac ardystio a yw
datganiadau cyfrifyddu'r Gronfa Bensiwn yn 'wir ac yn deg'. Amlinellwyd mai
diben y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig, pryd y byddai'n cael ei wneud,
faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n gwneud y gwaith. Ychwanegwyd nad oedd unrhyw gyfyngiadau
wedi'u gosod ar yr archwilwyr wrth gynllunio cwmpas yr archwiliad. Roedd y cynllun
hefyd yn amlinellu effaith barhaus COVID-19, archwiliad cyfrifon y gronfa bensiwn,
risgiau'r archwiliad ariannol, swyddogaethau archwilio statudol, ffi archwilio,
y tîm archwilio a'r amserlen. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft. PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151 yr
adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas
a Sir Abertawe 2021/2022 i'w cymeradwyo. Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe bob amser wedi
cynhyrchu datganiad o gyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân mewn perthynas â'r
flwyddyn ariannol dan sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag,
mewn ymgynghoriad ag Archwilio Cymru, penderfynwyd cydgrynhoi'r ddwy ddogfen yn
un a symleiddio'r broses gynhyrchu/archwilio. Ychwanegwyd bod Swyddogion wedi cyflwyno adroddiad
blynyddol a datganiad o gyfrifon drafft wedi’u cwblhau ar gyfer 2021/22 i
Archwilio Cymru i ddechrau eu harchwiliad.
Roedd Archwilio Cymru wedi awgrymu na fyddent yn dechrau ar eu
harchwiliad o Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft y Gronfa
Bensiwn ar gyfer 2020/21 tan fis Medi 2022. Byddai eu hadroddiad SRA 260
dilynol gyda barn a chanfyddiadau archwilio’n cael ei gyflwyno i Bwyllgor y
Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad ym mis Tachwedd 2022. Atodir Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe 2021/22 yn Atodiad 1. Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am y canlyniadau rhagorol, yn enwedig y cynnydd
nas gwelwyd o'r blaen mewn gwerthoedd asedau dros y 3 blynedd, gan olygu bod y
gronfa'n 2il ar y rhestr yn gyffredinol. Diolchwyd i staff yr Adran Gyllid a'u
llongyfarch am eu gwaith a'u hymroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Datganiad o
Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2021/22, yn amodol ar
archwiliad. |
|
Adroddiad am doriadau. PDF 363 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi
Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2022.
Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan
reolwyr. |
|
Hyfforddiant Ymddiriedolwyr. PDF 277 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
penderfynu ar raglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn
a'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn. Penderfynwyd cymeradwyo'r asesiad a'r cynllun
hyfforddiant amlinellol yn 3.7, 3.8 a 3.9 ac y dylai cyfleoedd pellach a nodir
yn ystod y flwyddyn gael eu dirprwyo i'r Dirprwy Swyddog Adran 151 i'w
cymeradwyo. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Rhoi'r Strategaeth Buddsoddi ar Waith - Diweddariad. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a
oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed ar barhad y rhaglen
ail-ddyrannu (dadrisgio) asedau o ecwitïau i asedau
sy'n cynhyrchu, a rhoi procsi rhaglen diogelu ecwiti ar waith. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
a chymeradwyo'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar argymhellion a gymeradwywyd yn flaenorol
yn adrannau 2.3 a 3.4 yr adroddiad. 2)
Nodi
a chymeradwyo rhoi caniatâd dirprwyedig i'r Dirprwy Swyddog Adran 151
weithredu'r rhaglen dyfodol GILT a amlinellwyd yn unol ag Atodiad 1, i reoli
cyfraddau llog. |
|
Cynllun y daith i fod yn Sero-net. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 a David
Morton, Hymans Robertson adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
Cynllun y Daith i fod yn Sero-net, ei amcanion a'i amserlen. Gofynnodd y Cadeirydd i Swyddogion baratoi datganiad a oedd yn amlinellu'r
cynnydd a wnaed a'r hyn yr oedd y Pwyllgor yn ei gyflawni. Penderfynwyd: - 1)
Cymeradwyo
Cynllun y Daith i fod yn Sero-net a'r amcanion a ddarparwyd yn Atodiad 2. 2)
Cymeradwyo'r
amserlen Sero-net a ddarparwyd yn Atodiad 3. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - Datganiad o Gyfrifon a Ffurflen Archwiliad drafft. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am Adroddiad Blynyddol a Datganiad o
Gyfrifon Drafft Partneriaeth Pensiwn Cymru 2021/22. |
|
Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a
oedd yn darparu fframwaith ar gyfer rhaglen waith Partneriaeth Pensiwn Cymru
(PPC) ar gyfer 2022-2025. Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth
Pensiwn Cymru ar gyfer 2022-2025. |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). |
|
Crynodeb Buddsoddi. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y
chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
David Morton ac Andre Ranchin, Ymgynghorwyr Buddsoddi, Hymans Robertson yr
Adroddiad Monitro Buddsoddiad Chwarter 1 2022 'er gwybodaeth'. Nodwyd cynnwys yr
adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr
Buddsoddi am yr adroddiad. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: ·
Ecwitïau Byd-eang Presennol a Rheolwyr Bondiau PPC - Russell Investments. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gwnaed cyflwyniad
gan Aidan Quinn ac Ionna
Ali o Russell Investments. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |