Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso/Diolch

Cofnodion:

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Mike Lewis i'w gyfarfod cyntaf, a diolchodd i'r Cynghorydd Louise Gibbard am ei chyfraniad i'r pwyllgor yn ystod ei chyfnod fel aelod.

 

Diolchodd hefyd i'r aelodau hynny na fyddent yn ceisio cael eu hailethol ym mis Mai am eu cyfraniad dros y blynyddoedd.

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 307 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

 

4.

2022/2023 Cyllideb Refeniw. pdf eicon PDF 271 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Kim Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn nodi manylion Cyllideb Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2022/2023 a'r arian wrth gefn sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig.

 

Nododd ei fod unwaith eto'n gyllideb ddigyfnewid rithwir, ac eithrio cynnydd bach ar gyfer y dyfarniad cyflog ar gyfer 2022.

 

Mae'r tabl yn yr adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian wrth gefn Hyfforddiant Casgliadau a'r Archifau ar 31 Mawrth 2021.

 

Amlinellodd fod swydd Archifydd dan hyfforddiant yn parhau i fod heb ei llenwi oherwydd y materion ynghylch y pandemig ond roedd yn gobeithio y gellid llenwi'r swydd eto wrth symud ymlaen, gan ei bod yn rhan angenrheidiol o'r broses o ddychwelyd i oriau agor llawn. Roedd yr aelodau o blaid ailgyflwyno'r swydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

 

Nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

5.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 200 KB

Penderfyniad:

Adroddiad – Er Gwybodaeth

 

Ffioedd a Thaliadau - Cymeradwy

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022.

 

Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer 2022/23

 

Cyfeiriodd at y tabl ffïoedd a thaliadau ar gyfer y gwasanaeth nad yw wedi newid ers 2021 ac a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2022.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ffïoedd a'r taliadau ar gyfer 2022/23.

 

Ailagor y pwynt gwasanaeth/defnyddio'r gwasanaeth

 

Amlinellodd fod y pwynt mynediad yn Abertawe yn parhau i fod ar agor gyda nifer cyfyngedig o'r cyhoedd yn cael eu caniatáu yn seiliedig ar asesiad risg COVID-19.

 

Mae'r niferoedd sy'n ymweld â'r gwasanaeth yn parhau i fod yn isel, ond maent yn gwella'n araf.

 

Byddai'r gwasanaeth yn ailasesu oriau agor ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch diwedd y cyfyngiadau.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd a chwblhau'r asesiad risg COVID-19 perthnasol, amlinellodd y bydd y cyfleuster yn Sefydliad y Mecanyddion yn ailagor yn fuan ar ddydd Llun.

 

Byddai'n adrodd yn ôl i'r cyfarfod ym mis Mehefin gydag adborth ar yr oriau ailagor a’r oriau diwygiedig a sut y maent wedi gweithredu.

 

Allgymorth a Gweithgarwch Addysgol

 

Amlinellodd y sesiynau a ddarparwyd gan wasanaeth yr ysgol yn ystod y chwarter drwy Microsoft Teams.

 

Cyfarfodydd a Hyfforddiant Proffesiynol

 

Manylodd ar y gweithgorau a'r sesiynau hyfforddi niferus a gynhaliwyd gan staff yn ystod y chwarter.

 

Manylodd ar brosiect i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer y BBC/ITV/S4C. Bydd nifer o bwyntiau mynediad yn cael eu sefydlu ledled y wlad, gan gynnwys un yn ystafell archwilio'r archif yn Abertawe, a fydd yn galluogi aelodau'r cyhoedd i weld hen raglenni teledu o dapiau darlledu digidol. Mae gan y prosiect hwn y rhagwelir y bydd ar agor erbyn yr haf y potensial i ddenu rhagor o'r cyhoedd i'r gwasanaeth.

 

Amlinellodd y prosiect The World Reimagined sy'n darparu ymateb artistig i'r fasnach gaethwasiaeth a'i hetifeddiaeth barhaus. Bydd cyfres o globau yn cael eu gosod o amgylch y ddinas a bydd yr holl archifau, amgueddfeydd ac orielau yn rhan o'r gwaith o ddatblygu naratif i'r llwybr.

 

Manylodd ar waith parhaus gweithgor Cofnodion Digidol Hanfodol Cymru wrth edrych ar faterion sy'n ymwneud â chadw cofnodion digidol yn y tymor hir ledled Cymru.

 

Posibilrwydd o Adleoli'r Gwasanaeth Archifau i Hwb arfaethedig yng nghanol y ddinas

 

Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y sefyllfa bresennol o ran y symudiad arfaethedig i'r cyfleuster hwb canol y ddinas newydd yn Abertawe a'r materion parhaus sy'n ymwneud â'r cynnig. Nododd fod elfen hanfodol y symudiad i hwb newydd yng nghanol y ddinas yn parhau o ran bodloni Safon Brydeinig BS16893 ar gyfer storio archifol, er mwyn i'r gwasanaeth gadw ei achrediad a'i statws fel man cadw lleol ar gyfer cofnodion cyhoeddus.

 

Byddai angen i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gytuno ar y cynlluniau i symud i hwb canol y ddinas a'i gefnogi, gyda phenderfyniad yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai mae'n debyg.

 

Amlinellodd y cynigion diweddaredig ar gyfer symud i hwb canol y ddinas, fel cam cyntaf prosiect tymor hwy i adleoli'r gwasanaeth i gyfleuster newydd yn agos at Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

 

Byddai hyn yn galluogi cyfleoedd i gydweithio â'r amgueddfeydd a byddai hefyd yn dod â'r cyfle i gael cyfleusterau pwrpasol o safon uchel ar gyfer y Gwasanaeth Archifau yn y dyfodol.

 

Mae is-grŵp o archifyddion a swyddogion Cyngor Abertawe bellach yn cydweithio i ddatblygu'r syniad hwn ymhellach. Nid yw'r cynnig wedi'i drafod eto gan y Cabinet yn Abertawe.

 

Byddai diweddariad pellach yn cael ei roi yn y cyfarfod ym mis Mehefin.

 

 

 

 

 

 

Mynediad at Gasgliadau Archifau

 

Adroddodd ar y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.