Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

8.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

9.

Cofnodion. pdf eicon PDF 310 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 13 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

10.

Materion yn Codi

Cofnodion:

Adroddodd yr Archifydd Sirol nad oedd penderfyniad wedi'i wneud eto ar ddyfodol cronfeydd wrth gefn yr Archifau a bydd trafodaethau pellach yn parhau rhwng y ddau awdurdod.

 

Roedd y gronfa wrth gefn ar gyfer cyhoeddi bellach yn wag yn dilyn ailbrintio'r llyfr ‘Three Night Blitz’.

 

11.

Cadeirydd Ymadawol

Cofnodion:

Dywedodd Byron Lewis mai hwn fyddai ei gyfarfod Pwyllgor olaf cyn iddo ymddeol o'i swydd fel Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg ym mis Mawrth 2020.

 

Amlinellodd ei fod wedi mwynhau ei ddeuddeng mlynedd fel Cadeirydd y pwyllgor a diolchodd i'r aelodau presennol a rhai'r gorffennol am eu mewnbwn dros y blynyddoedd.

 

Cyflwynodd Kim Collis, Archifydd Sirol, gopi o gyhoeddiad diweddaraf y gwasanaeth i Mr Lewis sef ‘A new, even better Abertawe: the rebuilding of Swansea, 1941-1961’ fel arwydd o ddiolch am ei gyfraniad dros y blynyddoedd.

 

12.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2019.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd yr Archifydd Sirol am y defnydd o'r gwasanaeth dros y chwarter gan gyfeirio at yr ystadegau ar gyfer 2018/19 a manylodd ar y cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau.

 

Mae'r swm enfawr o ddeunydd sydd bellach ar gael ar-lein hefyd yn effeithio ar niferoedd ymwelwyr.

 

Achrediad yr Archifau

 

Amlinellodd yr Archifydd Sirol gefndir achrediad y gwasanaeth yn 2016 dan Gynllun Achrediad Archifau'r DU. Mae'r dyfarniad yn para am gyfnod o chwe blynedd, a bu'n destun adolygiad canol tymor ym mis Tachwedd.

 

Adroddodd nad oedd y gwasanaeth wedi llwyddo yn yr adolygiad canol tymor a bod yr achrediad wedi'i estyn dros dro am gyfnod o ddeuddeng mis, yn ddibynnol ar gwblhau cynllun gweithredu tri phwynt erbyn mis Tachwedd 2020.

 

Amlinellodd y tri phrif ofyniad yr oedd yr adolygiad wedi'u nodi y byddai angen mynd i'r afael â hwy er mwyn i'r gwasanaeth barhau i fodloni'r safon.

 

Roedd cynlluniau i adleoli casgliadau'r archif fel y gellir cau Canolfan Ddinesig Abertawe ar gam cynnar iawn. Mae angen egluro'r rhain a'u cyflwyno i'r Panel Achredu. Mae angen adolygu polisïau'r gwasanaeth a'u cydgysylltu i greu un gwasanaeth mwy cydlynol.  Mae angen mwy o eglurder hefyd ynghylch goblygiadau'r toriadau cyllidebol arfaethedig i'r gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd at adroddiad diweddar a luniwyd ganddo ar gyfer Panel Craffu yn Abertawe y byddai'n ei ddosbarthu i holl aelodau'r pwyllgor ar ôl y cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'n fanylach y materion a'r ffactorau a oedd yn ymwneud ag adleoli posib yn y dyfodol a'r atebion storio dros dro posib.

 

Cyfeiriodd at yr amserlen chwe blynedd y bu ei hangen ar gynghorau Sir Gâr a Phowys o'r cysyniad cyntaf i agor eu cyfleusterau archifau newydd. Yn y ddau achos, nid oedd y cynghorau wedi ceisio cyllid allanol ar gyfer eu prosiectau.

 

Trafododd y Cadeirydd ac Aelodau'r pwyllgor am hydoedd am y materion a godwyd yn yr adolygiad gan amlinellu bod angen mwy o sicrwydd ar y gwasanaeth ynghylch ei ddyfodol er mwyn diogelu'r casgliadau a'u cadw'n lleol fel eu bod ar gael i'r cyhoedd.

 

Cynigiwyd cynnal cyfarfod rhwng y Cadeirydd, yr Is-gadeiryddion a'r Aelod perthnasol o'r Cabinet fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau am yr holl faterion sy'n wynebu'r gwasanaeth.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Adroddodd yr Archifydd sirol am y lleoliadau amrywiol lle'r arddangoswyd arddangosfa i goffáu 50 mlwyddiant statws dinas i Abertawe yn ystod y chwarter.

 

Roedd y digwyddiad i lansio cyhoeddiad ‘A new, even better Abertawe: the rebuilding of Swansea, 1941-1961’ a gynhaliwyd yn Amgueddfa Abertawe ym mis Medi yn un llwyddiannus iawn, ac mae'r llyfr wedi gwerthu'n dda ers ei lansio.

 

Amlinellwyd gwaith y gwasanaeth addysg yn ystod y chwarter, gyda naw ysgol yn rhan o'r peth, a rhai yn trefnu sawl sesiwn.

 

Sgyrsiau â grwpiau

 

Adroddodd yr Archifydd Sirol am y sgyrsiau amrywiol a roddwyd i gymdeithasau a grwpiau dros y chwarter a'r digwyddiadau allanol y bu'r staff yn rhan ohonynt.

 

Staff

 

Adroddodd yr Archifydd Sirol fod Emma Laycock wedi dechrau yn y gwasanaeth ym mis Tachwedd mewn rôl rhannu swydd.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd yr Archifydd Sirol am y cyfarfodydd proffesiynol amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Dywedodd y byddai'r 'Cerdyn Darllen Archifau' newydd i'w ddefnyddio ledled y DU yn cael ei lansio ym mis Ionawr. Byddai'r cerdyn newydd yn rhoi mynediad i dros 50 o gasgliadau Gwasanaethau Archifau ledled Cymru a Lloegr.

 

Atgoffodd aelodau'r pwyllgor fod yr arddangosfeydd amrywiol a gynhelir gan y gwasanaeth ar gael o hyd yn y ddau awdurdod, ac fe'u hamlinellir a'u rhestrir ar we-dudalennau'r gwasanaeth.

 

 

Casgliadau'r Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.