Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn y cynghorau 2019-2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorwyr R V Smith a P A Rees yn Is-gadeiryddion y pwyllgor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020.

 

Y Cynghorydd R V Smith (is-gadeirydd) oedd yn llywyddu

 

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 155 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2019 fel cofnod cywir, yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd W F Griffiths at y rhestr o ymddiheuriadau.

 

4.

Adroddiad Archifydd y Sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2019.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

Adroddodd am y defnydd o'r gwasanaeth dros y chwarter gan gyfeirio at yr ystadegau ar gyfer 2017/18 a 2018/19 a manylodd ar y cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau.

 

Roedd yn gobeithio bod y ffigurau wedi sefydlogi erbyn hyn ar ôl cyfnod o newid yn sgîl lleihad mewn gwasanaethau yn Abertawe a Chastell-nedd dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Mae'r swm enfawr o ddeunydd sydd bellach ar gael ar-lein hefyd wedi effeithio ar nifer yr ymwelwyr, er yr ymgysylltir yn fwy â'r gymuned oherwydd defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Adroddodd Archifydd y Sir fod yr arddangosfa i nodi hanner canmlwyddiant Abertawe yn derbyn statws dinas wedi'i chwblhau ac eisoes yn cael ei harddangos ger ystafell chwilio'r Archifdy yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd yn cael ei harddangos yn y Sioe Awyr ym mis Gorffennaf ac roedd ar gael i'w harddangos mewn lleoliadau ar draws y ddinas.

 

Crybwyllodd y cynnydd a wnaed ar y llyfr “A new, even better Abertawe: the rebuilding of Swansea 1941-1961”. Ar hyn o bryd mae'n cael ei brawf ddarllen a'r gobaith yw y caiff ei lansio mewn digwyddiad yn yr hydref.

 

Manylodd ar y sesiynau a ddarparwyd i ysgolion a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe yn ystod y chwarter.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch hyrwyddo'r gwasanaeth i ysgolion, a oedd yn cynnwys sesiynau addysg ar amrywiaeth o bynciau'n ymwneud â'r cwricwlwm, rhoi benthyg arddangosfeydd symudol a darparu CDs ar gyfer astudiaeth leol. Lle'r oedd aelodau'n gweithio gyda'u hysgolion lleol, cawsant eu hannog i helpu i hyrwyddo'r gwasanaeth, a oedd yn cael ei danddefnyddio. Dangosydd Archifydd y Sir fod yr ysgolion a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth yn gyson yn dychwelyd am fwy o sesiynau, ac wrth edrych ar yr adborth a dderbyniwyd roeddent yn fodlon iawn arnynt.

 

Adroddodd fod adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Archifau ar gyfer 2018/19 wedi cael ei gyhoeddi ar-lein.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.