Lleoliad: Ystafell Bwyllgor C, Canolfan Ddinesig, Castell-Nedd.
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd y Cynghorwyr Angharad Aubrey a Rhidian Mizen o CBS Castell-nedd Port Talbot i'w cyfarfod cyntaf y
pwyllgor. |
|
Y Cynghorydd Des Davies. Cofnodion: Cyfeiriodd y
cadeirydd at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Des Davies a oedd yn gyn-aelod hirsefydlog o'r pwyllgor. Safodd
pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018 yn gofnod cywir. |
|
2019/20 Cyllideb Refeniw. PDF 64 KB Cofnodion: Cyflwynodd Kim
Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn nodi manylion Cyllideb
Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2019/2020 a'r arian wrth gefn
sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig. Nododd ei fod yn
seiliedig ar gyllideb dybiedig o ddyfarniad cyflog gwerth 2% ond fel arall
roedd yn gyllideb "ddigyfnewid" o hyd. Mae'r tabl yn yr
adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian
wrth gefn yr Archifau ar 31 Mawrth 2019. Amlinellodd y
byddai'r swydd Hyfforddai Archifau'n parhau i gael ei hariannu gan y Gronfa
Hyfforddiant wrth Gefn. Cyfeiriodd at bwysigrwydd swydd yr hyfforddai yn y
strwythur staffio. Penderfynwyd 1)
y dylid nodi'r adroddiad. 2) Cytuno i barhau i
ddefnyddio'r Gronfa Hyfforddiant wrth Gefn i ariannu'r swydd hyfforddai yn
2019/20. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 180 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Chwefror 2019. Defnydd o'r
gwasanaeth Nododd y defnydd
o'r gwasanaeth am y chwarter a nodi'r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r
ystadegau chwarterol. Nododd y byddai'r
ffigurau blynyddol o ran defnydd ar gael yn y cyfarfod nesaf a byddai'n
galluogi'r pwyllgor i gael darlun gwell o'r defnydd o'i gymharu â gwasanaethau
archifau eraill ar draws y DU. Amlinellodd berfformiad y gwasanaeth ar gyfer y
flwyddyn ddiwethaf o'i gymharu â pherfformiad awdurdodau lleol eraill. Cyfeiriodd at y
cynnydd sylweddol o ran defnydd ymchwilwyr o'r catalog cydgasgledig sy'n cael
ei adnabod fel Hwb yr Archifau. Tybiwyd
mai defnydd o'r adnodd hwn yw'r rheswm dros y gostyngiad yn y defnydd o gatalog
ar-lein y gwasanaeth. Byddai'r
ffigurau'n cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf. Trafododd y
pwyllgor bwysigrwydd y defnydd o gyfryngau cymdeithasol wrth fynd ymlaen i
hyrwyddo'r gwasanaeth yn well. Allgymorth y
Gwasanaeth Manylodd ar
gyfranogaeth y gwasanaeth wrth ddatblygu arddangosfa i goffáu 50 mlynedd ers i
Abertawe ennill statws dinas. Nododd fod y gwasanaeth wedi bod yn llwyddiannus
wrth wneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru i greu arddangosfa ar gyfer plant
11-16 oed i'w benthyca i ysgolion. Bydd yr
arddangosfa symudol newydd yn barod i'w harddangos yn Sioe Awyr Cymru ar
ddechrau mis Gorffennaf. Bydd fersiwn sefydlog o'r arddangosfa'n cael ei
harddangos yn Amgueddfa Abertawe'n ddiweddarach eleni ynghyd ag arteffactau
perthnasol. Cyfeiriodd at
ddigwyddiad yn Ysgol Heol Teras lle'r oedd arddangosfa'r gwasanaeth am y
Bleidiais i Fenywod wedi ei harddangos a ddaeth i ben drwy ddadorchuddio Plac
Glas ar gyfer Clara Neal, cyn-bennaeth yr ysgol ac ymgyrchydd dros y Bleidlais
i Fenywod/hawliau menywod. Nododd fod copi
o'r arddangosfa am ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru a oedd wedi'i fenthyca i
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac amgueddfeydd eraill ar draws Cymru wedi'i
ddychwelyd i'r archifau fel y gellid ei fenthyca i ysgolion a grwpiau cymunedol
yn yr ardal. Manylodd ar lwyddiant
yr arddangosfeydd a arddangoswyd yn Ysgol Pentrehafod ac amlinellodd hefyd yr
arddangosfeydd amrywiol a fenthycwyd i sefydliadau a chyrff amrywiol
eraill. Amlinellodd y
byddai'r arddangosfeydd a gynhaliwyd gan y gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ar
gyfer ysgolion/colegau ar draws y ddau awdurdod lleol a gofynnodd i aelodau'r
pwyllgor hyrwyddo'r rhain lle y bo'n bosib. Cyhoeddiadau Cyfeiriodd at
lansiad llwyddiannus cyhoeddiad Jeff Childs "The Parish of Llangyfelach: Landed
Estates, Farms and Families" a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr. Gwasanaeth
Addysg/Sgyrsiau â Grwpiau Manylodd ar yr
ysgolion a'r grwpiau amrywiol a oedd wedi ymweld â'r archifau neu a oedd wedi bod
yn bresennol yn sgyrsiau a sesiynau addysg y gwasanaeth ers y cyfarfod
diwethaf. Nododd, am fod
nifer o aelodau newydd yn y pwyllgor, y gellid trefnu ymweliad i'r ystafell
chwilio a'r ystafell ddiogel yn dilyn y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin a'r gobaith
yw y gellid ei gynnal yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Ffïoedd a thaliadau Amlinellodd y
ffïoedd arfaethedig ar gyfer 2019-20 a chyfeiriodd at y ffïoedd amrywiol a oedd
yn cael eu cynyddu. Penderfynwyd nodi'r tabl o ffïoedd a thaliadau ar gyfer
2019/20. Adnewyddu
Achrediad Archifau Manylodd ar y
broses ar gyfer adfywio Cynllun Achredu Archifau'r DU y mae'r gwasanaeth wedi'i
chyflawni ar gyfer pwynt mynediad Abertawe yn 2016. Nododd y bydd y
gwasanaeth yn derbyn adolygiad canolradd dros y misoedd nesaf fel rhan o'r
broses achredu a chyfeiriodd at y camau gweithredu amrywiol a fyddai'n rhaid eu
cyflawni i gyflwyno'r adolygiad yn llwyddiannus. Cyfarfodydd
Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth Adroddodd am y
cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Casgliadau
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |