Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 104 KB

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 21 Medi 2018 fel cofnod cywir.

 

11.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2018.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am y defnydd o'r gwasanaeth ar gyfer y chwarter. Cyfeiriodd at gymharu ystadegau ar gyfer 2017 a 2018 a manylodd ar yr wybodaeth gefndir a'r rhesymeg y tu ôl iddynt.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Manylodd ar rôl y gwasanaeth wrth ddatblygu arddangosfa i goffáu canmlwyddiant hawliau pleidleisio menywod. Datblygwyd yr arddangosfa 15 panel mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas, Prifysgol Abertawe ac Archif Menywod Cymru. Datblygwyd yr arddangosfa mewn dwy ran, gydag un ar gyfer y cyhoedd ac un ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, ac mae eisoes wedi cael ei harddangos yng nghyntedd Canolfan Ddinesig Abertawe, Amgueddfa Abertawe, YMCA Abertawe, cynhadledd flynyddol Archif Menywod Cymru, Taliesin Create, Prifysgol Abertawe, Volcano Theatre ac Orendy Margam.

 

Dywedodd y byddai hefyd yn cael ei harddangos yn Ysgol Gynradd Heol Teras yn hwyrach yn y dydd i gyd-fynd â'r digwyddiad i ddatgelu plac glas yn yr ysgol er cof am Clara Neal, cyn-bennaeth yr ysgol a oedd yn etholfreintwraig blaenllaw ac yn ymgyrchydd dros hawliau menywod.

 

Cyfeiriodd at y cynigion i ddatblygu arddangosfa ar gyfer 2019 a fydd yn nodi 50 mlynedd ers gwneud Abertawe'n ddinas. Byddai'r archifau'n gweithio mewn partneriaeth â nifer o leoliadau diwylliannol a sefydliadau eraill i wneud hyn.

 

Disgrifiodd y lansiad diweddar, a dosbarthodd gopi er gwybodaeth o 'The Parish of Llangyfelach: Landed Estates, Farms and Families' gan Jeff Childs, a gyhoeddwyd ar y cyd gan y gwasanaeth a'r awdur. Dywedodd y byddai'r gwasanaeth yn cyhoeddi llyfr arall am ailadeiladu Abertawe rhwng 1941 a 1961 yn ystod haf 2019.

 

Amlinellodd y sesiynau a ddarparwyd i ysgolion amrywiol a'r sgyrsiau a gafwyd â grwpiau gwahanol.

 

Roedd hefyd wedi rhestru'r digwyddiadau amrywiol yr oedd y gwasanaeth wedi cymryd rhan ynddynt, yn ogystal â'i gyfranogiad diweddar yn yr ymgyrch 'Archwiliwch eich Archif' a gynhaliwyd ar draws y DU. 

 

Esboniodd yr adnodd ar-lein a grëwyd gan y gwasanaeth yn seiliedig ar Restrau Gwroniaid y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n eiddo i'r gwasanaeth, ac a wnaed yn gyhoeddus ar 11 Tachwedd, sy'n cynnwys mynegai o filwyr lleol a ymladdodd ac a fu farw yn y rhyfel.

 

Amlinellodd fod y gwasanaeth wedi digideiddio cyfres o ddarluniau o weithfeydd haearn Mynachlog Nedd ar gyfer y we yn sgîl grant gan Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol yn 2017.

 

Cyfeiriodd at erthygl ddiweddar yn South Wales Evening Post a oedd wedi rhoi cyhoeddusrwydd i rai o ddogfennau a chasgliadau'r gwasanaeth.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

                   

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.