Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Port Talbot.

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

7.

Cofnodion. pdf eicon PDF 104 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2018 fel cofnod cywir, gan ddibynnu ar ddileu enw'r Cynghorydd W F Griffiths oddi ar restr yr aelodau a oedd yn bresennol a'i ychwanegu at restr ymddiheuriadau.

 

8.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd rhwng mis Mehefin a mis Awst 2018.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am y defnydd o'r gwasanaeth ar gyfer y chwarter.  Cyfeiriodd at gymharu ystadegau ar gyfer 2017 a 2018 a manylodd ar yr wybodaeth gefndir a'r rhesymeg y tu ôl iddynt.

 

Cyfeiriodd at gynnydd mewn nifer y bobl sy'n edrych ar y catalog ar-lein drwy Hwb yr Archifau a'r effaith ganlyniadol ar nifer yr ymweliadau â thudalennau'r Archifau.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Cyfeiriodd at y gwaith cydweithredol gydag Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas, Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe ac Archif Menywod Cymru i greu tair fersiwn o arddangosfa sy'n dathlu canmlwyddiant ers rhoi'r bleidlais i fenywod ym 1918.

 

Dywedodd fod yr arddangosfa deithiol fwy, fwy academaidd yn cael ei harddangos ar hyn o bryd yng nghyntedd Canolfan Ddinesig Abertawe. Yna, bydd hi'n cael ei harddangos yng nghynhadledd Archif Menywod Cymru ym mis Hydref ac yn Creu Taliesin ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe.

 

Bydd yr arddangosfa deithiol lai'n cael ei harddangos yn y lleoliadau canlynol ac wedi cael ei harddangos ynddynt o'r blaen: Lleoliadau yn Abertawe: Theatr Volcano, YMCA, Ysgol Gynradd Heol Teras a'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Bydd arddangosfa sefydlog yn cael ei gosod o ganol mis Medi a bydd hi'n cael ei harddangos tan ddiwedd y flwyddyn yn Amgueddfa Abertawe. 

 

Dywedodd y byddai'r gwasanaeth yn croesawu rhagor o geisiadau ar gyfer y ddwy arddangosfa deithiol, yn enwedig gan ysgolion a lleoliadau yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i greu adnodd ar-lein ar wefan

 y gwasanaeth i nodi canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Y bwriad yw

 y bydd yr adnodd hwn ar waith ym mis Tachwedd.

 

Cyhoeddiadau

 

Dywedodd y cyhoeddir y cyhoeddiad 'The Parish of Llangyfelach: Landed Estates,

Farms and Families’ gan Jeff Childs, a'i lansio yn ystod yr

hydref.  Bydd yn gyhoeddiad ar y cyd rhwng yr awdur a'r Gwasanaeth Archifau

gyda'r stoc yn cael ei rhannu'n gyfartal rhwng y ddau barti.

 

Dywedodd y byddai un cyhoeddiad ychwanegol cyn i raglen cyhoeddiadau'r gwasanaeth ddod i ben, sef cyfrol sy'n disgrifio'r adeiladu a ddigwyddodd yn Abertawe ar ôl y rhyfel. Caiff ei gyhoeddi ym 2019.

 

Cyfeiriodd at y posibilrwydd yn y dyfodol y byddai'r gwasanaeth yn dechrau cyhoeddi e-Lyfrau fel dewis arall i fersiynau copi caled.

 

Gwasanaeth Addysg/Sgyrsiau â Grwpiau

 

Cyfeiriodd at sesiynau addysg a gynhaliwyd yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed ac yn Ysgol Gynradd San Helen a sgwrs a roddwyd i Gymdeithas Hanes Teulu Ystradgynlais.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Staff

 

Dywedodd y penodwyd John Moffat, sydd wedi graddio'n ddiweddar o Brifysgol Glasgow gydag MA mewn hanes, yn Hyfforddai Archifau ar gyfer 2018/19.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.