Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor A/B, Canolfan Ddinesig, Castell-Nedd

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792636824 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Mr David Michael.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Mr David Michael cyn iddo ymddeol ar ddiwedd mis Mawrth.

 

Diolchodd i Mr Michael am ei gyngor cyfreithiol a'i ddiddordeb personol yng ngwaith yr Is-adran Archifau.

 

Dymunodd y Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor ymddeoliad hir ac iach i Mr Michael.

 

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, cyhoeddwyd y cysylltiad canlynol:

 

Mr D Michael – Personol – Aelod o Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd

 

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 104 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

 

18.

Cyllideb Refeniw 2018/19. pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Kim Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn nodi manylion Cyllideb Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2018/2019 a'r arian wrth gefn sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig.

 

Nododd ei bod yn gyllideb "ddigyfnewid" ar gyfer 2018/19 heb ostyngiad, a lwfans bach ar gyfer cytundeb cyflog disgwyliedig 2018/19.

 

Mae'r tabl yn yr adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian wrth gefn yr Archifau ar 31 Mawrth 2018.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch sut ariennir swydd yr Hyfforddai Archifau o'r gronfa wrth gefn ar gyfer hyfforddiant, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys gwerth pedair blynedd o gyllid. Cyfeiriodd at bwysigrwydd swydd yr hyfforddai yn y strwythur staffio.

 

Amlinellodd aelodau eu cefnogaeth ar gyfer cadw unrhyw danwariant yn y gyllideb i'w ddyrannu i'r gronfa wrth gefn ar gyfer hyfforddiant.

 

Penderfynwyd:  

1)  Nodi'r adroddiad.

 

2)  Nodi cefnogaeth y pwyllgor o ran defnydd parhaus unrhyw danwariant sy'n cael ei drosglwyddo i'r gronfa wrth gefn ar gyfer hyfforddiant.

 

19.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Chwefror 2018.

 

Datblygu Gwefan ar Wahân

 

Adroddodd am y nodyn briffio a gylchredwyd a oedd yn ymwneud â mater datblygu gwefan gwasanaeth archifau ar wahân.

 

Roedd y nodyn briffio'n cynnwys manteision ac anfanteision posib y cynnig. Amlinellodd ei argymhelliad na ddylid bwrw ymlaen â'r syniad ac y dylai'r gwasanaeth ganolbwyntio ar gynyddu ei broffil cyfryngau cymdeithasol.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad gan aelodau'r pwyllgor a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y strategaeth cyfryngau cymdeithasol.  Gofynnwyd hefyd a ellid cynnal ymchwiliad pellach yn ymwneud â gwerthiant posib catalog yr archifau a'i bresenoldeb ar-lein.

 

Ffioedd a thaliadau

 

Amlinellodd y taliadau diwygiedig arfaethedig ar gyfer 2018/19 gan nodi'r rhesymeg sy'n sail i gynyddu'r ffioedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r newidiadau i'r taliadau.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Nododd y defnydd o'r gwasanaeth am y chwarter a nodi'r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau chwarterol.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Cyfeiriodd at arddangosfa ar Abertawe Edwardaidd a arddangoswyd yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.

 

Amlinellodd y cynigion ar gyfer arddangosfa'n ymwneud â chanmlwyddiant y bleidlais i ferched sy'n cael ei datblygu yn dilyn llwyddiant cael grant gan Lywodraeth Cymru.

 

Amlinellodd y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i ddigiteiddio samplau cynrychioliadol o gasgliad gweithfeydd haearn Mynachlog Nedd.

 

Amlinellwyd yr ymweliadau ysgol amrywiol a'r sgyrsiau â grwpiau allanol hefyd.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Hyfforddiant

 

Amlinellodd y cyrsiau hyfforddi amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.