Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

12.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

13.

Materion yn codi

Cofnodion:

Adroddodd yr Archifydd Sirol ac Andrew Dulley ymhellach ar yr ymholiad a godwyd yn y cyfarfod diwethaf a rhoddwyd y diweddaraf i'r pwyllgor am yr ymchwil gychwynnol yr ymgymerwyd â hi ynghylch y posibilrwydd o sefydlu gwefan Gwasanaeth Archifau ar wahân.

 

Manylwyd ar yr opsiynau posib a'r costau sylfaenol ar gyfer sefydlu gwefan arbennig neu ardal ar wahân lle gellid storio dogfennau mwy a chael mynediad iddynt drwy dudalen bresennol y Gwasanaeth Archifau ar wefan DASA.

 

Trafododd y pwyllgor rinweddau'r ddau opsiwn wrth fynd ymlaen, goblygiadau cyllidebol, problemau technegol, ffrydiau incwm posib a gofynnwyd am adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

14.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 250 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2017.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am ddefnydd o'r gwasanaeth am y chwarter gan fanylu ar gefndir yr ystadegau chwarterol.

 

Manylodd ar y ffigurau ar gyfer nifer yr ymweliadau â gwe-dudalennau'r Gwasanaeth Archifau a nifer yr ymweliadau â chynnwys y Gwasanaeth Archifau ar wefan Ancestry.

 

Arddangosfeydd a digwyddiadau

 

Adroddodd fod arddangosfa 'Our Abertawe: Dathlu Abertawe Gyda'n Gilydd' wedi cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis Tachwedd. Bydd yr arddangosfa hefyd yn rhan o raglen amlddiwylliannol ehangach yn Amgueddfa Abertawe'r flwyddyn nesaf.

 

Cyfeiriodd at y gwaith paratoi sy'n cael ei wneud o ran prosiect i ddathlu 100 mlynedd ers y bleidlais i fenywod, a manylodd ar y cysylltiadau a ddatblygwyd ag Archifau Menywod Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Menywod yn y prosiect hwn.  Nododd ei fod, mewn cyfnod o bwysau cyllidebol, yn gwerthfawrogi gwaith partneriaeth y gwasanaeth a byddai'n parhau i weithio gyda grwpiau gwirfoddol adrannau eraill y cyngor a chydlynwyr Cymunedau'n Gyntaf y ddau awdurdod.

 

Amlinellodd y digwyddiadau a'r ffeiriau amrywiol yr oedd y gwasanaeth yn bresennol ynddynt yn ystod y cyfnod.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dri digwyddiad a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf y gallai'r gwasanaeth fod yn ymwneud â hwy o bosib, gan gynnwys canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a sefydlu Urdd San Ioan a'r Awyrlu Brenhinol.

 

Amlinellodd yr Archifydd Sirol y sgyrsiau amrywiol a roddwyd mewn ysgolion yn ystod y cyfnod, a defnydd y gwasanaeth o gyfryngau cymdeithasol ar gyfer mentrau megis Wythnos Genedlaethol Darllen Mapiau ac ymgyrch ar draws y DU 'Archwiliwch eich Archif'.

 

Cyfeiriodd hefyd at hysbyseb y gwasanaeth yn ddiweddar ar Facebook ac amlinellodd ei lwyddiant cymharol.

 

Polisi Cadwraeth Ddigidol

 

Cyfeiriodd at y polisi drafft y mae pob awdurdod cyhoeddus ar draws Cymru'n ystyried ei fabwysiadu er mwyn sicrhau ymagwedd gydlynol ar draws Cymru yn y maes cymhleth hwn sy'n ehangu, a chyfeiriodd at y prif ddatganiad o genhadaeth ym mharagraff 4.4 y polisi.

 

Nododd ei fod yn debygol y bydd rhaid i bob awdurdod ar draws Cymru fabwysiadu'r polisi yn y dyfodol, ac nid y gwasanaethau archifau'n unig, yn enwedig yn dilyn y newid o gofnodion papur i rai 'digidol anedig'. Dyma gofnodion nad ydynt fyth yn bodoli ar ffurf gopi caled.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadau'r polisi.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd ar y cyfarfodydd proffesiynol amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Hyfforddiant

 

Amlinellodd y cyrsiau hyfforddi amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.