Lleoliad: CR A/B, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Mr D Michael –
Personol – Aelod o Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd |
|
Croeso. Cofnodion: Croesawodd y
cadeirydd Sarah Perons, y cynrychiolydd newydd o Esgobaeth Llandaf i'w
chyfarfod cyntaf o'r pwyllgor. |
|
Diolch. Cofnodion: Diolchodd y cadeirydd i holl aelodau awdurdod lleol y pwyllgor, yn arbennig y rhai hynny nad oeddent yn sefyll am ailetholiad am eu cyfraniad i waith y pwyllgor dros y blynyddoedd |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2016 yn gofnod cywir. |
|
Materion yn codi. Cofnodion: Dywedodd y
cadeirydd yn dilyn cyfarfod mis Rhagfyr, ei fod wedi ysgrifennu at yr Athro
Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn gofyn am eglurder ar unrhyw
gynnydd o ran trafodaethau ynghylch Partneriaeth Archifau Gorllewin Cymru.
Nododd yn anffodus nid oedd unrhyw beth i adrodd amdano ar hyn o bryd. Nododd y gallai
penodi ymgynghorydd annibynnol i edrych ar leoliadau adeiladau fod yn fuddiol.
Efallai bydd arian grant ar gael ar gyfer yr ymarfer hwn. Dywedodd yr
Archifydd Sirol fod yr ymgynghorydd annibynnol blaenorol wedi nodi maint yr
adeilad gofynnol, ond bod cwmpas y prosiect wedi newid i gynnwys Llyfrgell
Glowyr De Cymru ac eithrio daliadau Gwasanaeth Archifau Sir Gâr. |
|
Cyllideb Refeniw 2017/18. PDF 16 KB Cofnodion: Cyflwynodd Kim
Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn nodi manylion Cyllideb
Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2017/2018 a'r arian wrth gefn
sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig.
Dangoswyd y gyllideb wreiddiol fanwl yn Atodiad A. Nododd yr
arbedion/gostyngiad o gyllideb yr Archifau sy'n gysylltiedig ag adleoli ei rôl
yn y prosiect Abertawe Gynaliadwy. Mae'r tabl yn yr
adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian
wrth gefn yr Archifau ar 31 Mawrth 2017. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 22 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis
Chwefror 2017. Tabl Taliadau
2017/18 Amlinellodd newidiadau arfaethedig ar gyfer 2017/18 gan nodi'r rhesymeg
sy'n gefndir i gynyddu'r ffïoedd. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau
i'r taliadau. Defnydd o'r
Gwasanaeth - Ystadegau ar gyfer mis Rhagfyr 2016 i fis Mawrth 2017 Nododd y defnydd
o'r gwasanaeth am y chwarter a nodi'r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r
ystadegau chwarterol. Nododd y byddai
nifer o gasgliadau'r Gwasanaeth Archifau'n ar wefan Ancestry
yn y diwrnodau nesaf. Am y tro cyntaf,
bydd y wefan hon yn gallu rhoi ystadegau cywir ar gyfer defnydd digidol o'r
casgliadau, lle nad oedd defnyddio cofrestri plwyf Gorllewin Morgannwg yn
fesuradwy ar-lein. Cyfeiriodd at
faterion penodol a nodwyd gydag ymweliadau ysgol lle roedd yr ysgol naill ai
wedi anghofio bod aelod o staff yr Archifau'n dod neu'n defnyddio'r gwasanaeth
fel athro cyflenwi. Mae angen i'r gwasanaeth fonitro a mynd i'r afael â'r
materion hyn yn y dyfodol pe bai mwy o broblemau'n codi. Allgymorth y
Gwasanaeth Cyfeiriodd at
gyfranogiad y gwasanaeth mewn prosiect Cymru gyfan ar gyfer catalog ar-lein o
gasgliadau i'w gosod ar Hwb yr Archifau. Soniodd am yr
arddangosfeydd, y sgyrsiau a'r ymweliadau ysgol a gynhaliwyd yn ystod y
chwarter. Staff Cyfeiriodd at y
cyfrifoldebau newydd o ran llywodraethu gwybodaeth, fel a nodwyd yn adroddiad y
gyllideb a drafodwyd eisoes. Nododd fod Rebecca Shileds, Cynorthwy-ydd Derbynfa'r
Archifau, wedi'i henwi'n Hyrwyddwr Marchnata Archifau'r Flwyddyn yn y Gwobrau
Rhagoriaeth mewn Marchnata ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng
Nghymru mewn seremoni ym mis Chwefror. Roedd y wobr ar gyfer ei gwaith yn
hyrwyddo'r Gwasanaeth Archifau drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Estynnwyd
llongyfarchiadau'r pwyllgor i Rebecca ar ei gwobr a dywedodd y cadeirydd y
byddai'n ysgrifennu ati i'w llongyfarch ar ei llwyddiant. Nododd ymrwymiad y
gwasanaeth yn y Prosiect Cadwraeth Ddigidol Cymru gyfan gan gyfeirio at y mater
sy'n ymwneud â chadwraeth tymor hir y cofnodion electronig. Cyfarfodydd
Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth Cyfeiriodd yr Archifydd Sirol at y
cyfarfodydd a hyfforddiant proffesiynol y bu staff yn bresennol
ynddynt yn ystod y chwarter diwethaf. Casgliadau'r
Archifau Adroddodd yr
Archifydd Sirol am y rhestr gynhwysfawr o archifau a dderbyniwyd rhwng mis
Rhagfyr 2016 a mis Chwefror 2017. Dywedodd fod gwaith
cadwraeth wedi'i gwblhau ar gasgliad Gwaith Haearn Mynachlog Nedd yn dilyn
derbyn grant gwerth £16,600 gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol er Gwarchod
Llawysgrifau. Dywedodd y
cynhaliwyd trafodaethau anffurfiol ynghylch y mater o storio dros dro pe bai
ailddatblygu'r Ganolfan Ddinesig yn mynd rhagddo. |