Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorwyr D W Davies ac R V
Smith yn Is-gadeiryddion y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2016-2017. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, cyhoeddwyd y buddion canlynol: Swyddogion David Michael - Cofnod
Rhif 4 - Adroddiad yr Archifydd Sirol, oriau agor Cymdeithas Hynafiaethwyr
Castell-nedd - Aelodaeth Pwyllgor Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd -
personol a rhagfarnol, a adawodd y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei thrafod. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2016 yn gofnod cywir. Cyllideb
Refeniw 2016/17 Adroddodd Archifydd
y Sir am drafodaethau parhaus â Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd yn sgîl
Cyllideb Flynyddol y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2016/2017. Amlygodd
Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ffigurau gwell ar
gyfer nifer yr ymwelwyr ag Archifau'r Gymdeithas. Dywedodd yr Archifydd Sirol mai fforddadwyedd
y gwasanaeth yn y dyfodol yn hytrach na nifer yr ymwelwyr oedd y ffactor
pwysicaf wrth fynd ymlaen. Pwysleisiodd y
Cadeirydd yr angen am drafodaethau adeiladol ac agored rhwng pob parti. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 231 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a
oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau yn ystod y cyfnod o
fis Mawrth i fis Mai 2016. Partneriaeth Archifau Rhanbarthol
Gorllewin Cymru Adroddodd yr Archifydd Sirol a Phennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol bod
trafodaethau'n parhau rhwng partneriaid am gyfleuster newydd a rennir.
Ychwanegodd yr Archifydd Sirol fod gwaith ymgynghori wedi cael ei wneud er mwyn
datblygu cynnig Partneriaeth Archifau Rhanbarthol Gorllewin Cymru. Byddai'n
rhaid i leoliad newydd fod yn gartref i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
ac Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe mewn cyfleuster a rennir. Ni
chytunwyd ar leoliad. Comisiynu Adroddodd yr Archifydd Sirol, er bod Hysbysiad o
Wybodaeth Flaenorol (HWF) ynglŷn â darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol
wedi cael ei gyhoeddi gan Abertawe, fod y Gwasanaeth Archifau yn cael ei
eithrio o'r broses oherwydd ei fod yn destun i fuddion partneriaeth ranbarthol
ar hyn o bryd. Byddai dewisiadau eraill yn cael eu hystyried yn yr achos lle na
fyddai hwn yn opsiwn diogel i wireddu buddion ar gyfer y gwasanaeth ar y cyd yn
unig. Ar hyn o bryd, nid oedd swyddogion
yn cynnig rheolaeth wahanol ar gyfer y Gwasanaeth Archifau, ond byddai'n parhau
i archwilio'r modelau sydd ar gael o fewn gwaith Partneriaeth Gorllewin Cymru.
Cafodd aelodau a oedd yn chwilio am fwy o wybodaeth am y materion penodol
ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau archifau eu cyfeirio at arweiniad yr
Archifau Cenedlaethol, 'In a Spin: Guidance on Spinning out Local Archive
Services' (2014) yn http://www.nationalarchives.gov.uk/documents/archives/in-a-spin.pdf Cynllun Gweithredu Busnes 2016/17 Darparwyd cynllun gweithredu busnes y gwasanaeth ar gyfer 2016/17 yn
Atodiad 1 yr adroddiad. Lleihau Oriau Agor Archifau Cymdeithas Hynafiaethol Castell-nedd O ganlyniad i
arbedion cyllidebol 2016/17 a drafodwyd yn y ddau gyfarfod
diwethaf, amlinellodd yr Archifydd Sirol y byddai gostyngiad yn yr oriau agor a
hysbysebir yn Archifau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, o bedwar diwrnod
i ddau ddiwrnod yr wythnos, yn dod i rym ar 1 Awst 2016. Byddai mynediad
cyhoeddus a gofal curadurol casgliadau Archifau Cymdeithas Hynafiaethwyr
Castell-nedd (CHCN) yn cael eu cynnal gyda phresenoldeb archifydd GAGM ar ddydd
Llun. Ar yr ail ddiwrnod o agor, byddai gwirfoddolwyr NAS yn darparu mynediad
i'r casgliadau. Er bod y
gostyngiad hwn yn y dyddiau y byddai casgliadau CHCN ar gael yn un sylweddol,
roedd yn seiliedig ar ddadansoddiad rhesymegol o'u lefelau defnydd presennol
o'u cymharu â'r defnydd o ddogfennau archif yn Abertawe. Ar y pryd, roedd y
ddau gyfleuster ar agor am bedwar diwrnod yr wythnos, ond roedd y defnydd o
gasgliadau CHCN yn cynrychioli 2% yn unig o faterion dogfennaeth yn Abertawe yn
2015/16. Gwnaeth dau
aelod o staff yr archifau golli swydd yn wirfoddol fel rhan o'r broses hon, gan arwain
at gyflenwad staff o 8 aelod llawn amser yn y Gwasanaeth Archifau. Defnydd o'r Gwasanaeth - Ystadegau mis
Mawrth i fis Mai 2016 Adroddodd yr
Archifydd Sirol am y defnydd o'r Gwasanaeth ar gyfer y chwarter. Allgymorth y Gwasanaeth Adroddodd yr
Archifydd Sirol am y meysydd gwaith amrywiol yr oedd staff wedi bod yn ymwneud â hwy
yn ystod y chwarter. Dywedodd ef fod
y gwasanaeth wedi creu arddangosfa i ddathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90
oed ar gyfer nawdegwyr eraill yn Orendy Margam ar 23 Mai 2016. Ychwanegodd fod
y gwasanaeth hefyd yn rhan o'r prosiect 'Visions of Steel' dan arweiniad
Prifysgol Abertawe. Yn ystod y chwarter, mae hwn wedi cynnwys dau ddigwyddiad
cyhoeddus ym Mhort Talbot, ac un sesiwn addysg yn Ysgol Gyfun Sandfields. Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn
Partneriaeth Cyfeiriodd yr Archifydd Sirol at y
cyfarfodydd a hyfforddiant proffesiynol y bu staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter
diwethaf. Polisi Casglu Atodwyd
diweddariad o'r polisi casglu yn atodiad 2. PENDERFYNWYD cymeradwyo polisi
casglu diwygiedig y Gwasanaeth Archifau. Casgliadau Archifau Er gwybodaeth,
atodwyd rhestr gynhwysfawr o archifau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod o fis
Mawrth i fis Mai 2016 yn Atodiad 3. Meddai'r Archifydd Sirol y byddai
Adroddiad Blynyddol yr Archifau ar-lein cyn bo hir, gyda'r ddolen yn cael ei
ddosbarthu i aelodau. |