Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 122 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.

 

Materion a godwyd:

 

Cofnod 10 - Ymgynghoriad Safonau Cymru 2018

 

Darparwyd adborth gan y cynrychiolwyr (Swyddog Monitro, Cadeirydd ac Aelod Cyfetholedig Mike Lewis).

 

Cymerodd pob un ohonynt ran yn y gweithdai amrywiol a gyflwynwyd ar y diwrnod ac, yn gyffredinol, roedd yr adborth yn gadarnhaol. Fodd bynnag, teimlodd y cynrychiolwyr fod trefn y diwrnod yn wahanol i drefn y gorffennol a bod llai o gyfle i rwydweithio ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Byddai'r Swyddog Monitro'n gwirio pa ddogfennaeth a anfonwyd dros e-bost, neu'n ei chynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

14.

Cyfarfod blynyddol ag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, cadeiryddion pwyllgorau a'r Prif Weithredwr.

10.10 am – Yr Arweinydd Cynghorwyr Rob Stewart;

10.30 am – Phil Roberts, Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Phil Roberts, y Prif Weithredwr, i'r pwyllgor.

 

Y themâu ar gyfer trafodaeth, a chafwyd eu hanfon cyn y cyfarfod, oedd:

 

1)       A ydych chi'n ystyried ei fod yn addas i gael Côd Ymddygiad yng Nghymru sy'n gymwys i bob cynghorydd ac aelod cyfetholedig?

 

2)       Beth yn eich tyb chi yw rôl y Pwyllgor Safonau?

 

3)       A oes unrhyw waith, yn eich barn chi, y dylai'r Pwyllgor Safonau fod yn ei gyflawni dros y flwyddyn nesaf?

 

4)       Sut gall arweinwyr pleidiau gwleidyddol/cadeiryddion pwyllgorau hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arweinyddiaeth?

 

5)       Sut gall y Pwyllgor Safonau fod yn fwy gweithredol wrth hyrwyddo ymddygiad moesegol ymhlith cynghorwyr/aelodau cyfetholedig?

 

6)       Mae'r Ombwdsmon, Panel Dyfarnu Cymru a'r Uchel Lys yn credu y dylai gwleidyddion (ac uwch-swyddogion mewn rhai achosion) fod yn groendew a bod cellwair gwleidyddol yn rhan o'r byd gwleidyddol. Beth yw eich barn ar hyn a sut byddech chi, fel arweinydd grŵp gwleidyddol, yn sicrhau nad yw'r llinell yn cael ei chroesi?

 

7)       Beth yw eich barn ar hyfforddiant côd ymddygiad yr awdurdod? Sut gellir ei wella er mwyn codi safonau moesegol cynghorwyr/aelodau cyfetholedig?

 

8)       Mae hyfforddi cynghorwyr/aelodau cyfetholedig yn hollbwysig. Sut gall y Pwyllgor Safonau fynd i'r afael â'r rhai nad ydynt yn ystyried bod hyfforddiant yn bwysig?

 

9)       Nid yw Proses Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP) yr Awdurdod (Cynghorydd yn erbyn Cynghorydd) wedi'i defnyddio eto. Pe bai anghydfod, a fyddech yn annog eich plaid i ddefnyddio'r broses? A ydych yn ystyried bod prinder yr atgyfeiriadau i'r IDRP yn dangos bod y cynghorwyr yn cydymffurfio â'r côd?

 

10)      Beth fydd rôl y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol?

 

Amlinellwyd y canlynol ganddo:

 

·                 Cytunodd ei fod yn angenrheidiol i gael Côd Ymddygiad yng Nghymru, a'i fod yn berthnasol i bob Cynghorydd ac Aelod Cyfetholedig.  Roedd Egwyddorion Nolan yn sylfaen dda. Yn ychwanegol, fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, roedd ganddo ddyletswydd gofal i bob aelod o staff a gyflogwyd gan yr awdurdod, felly roedd yr un mor bwysig bod fframwaith ar waith i sicrhau bod ymddygiad swyddogion a chynghorwyr yn rhesymol.

·                 Ers iddo gael ei benodi’n Brif Weithredwr, roedd wedi cyflwyno cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Tîm Rheoli Corfforaethol ac Aelodau'r Cabinet, yn ogystal â chyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinwyr y pleidiau gwleidyddol er mwyn annog cyfathrebu gwell. Oherwydd y trafodaethau hyn datryswyd unrhyw broblemau a godwyd yn gynnar.

·                 Cafwyd nifer o newidiadau cadarnhaol eraill yn yr awdurdod dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i sefydlu diwylliant mwy cynhwysol. Yn ychwanegol, roedd cymeriad nifer o'r Arweinwyr Grŵp wedi gwella, ac o ganlyniad roedd perthnasoedd yr Arweinwyr Grŵp hefyd wedi gwella. Roedd dadl wleidyddol gadarn yn bodoli o hyd ond roedd llawer mwy o barch at ei gilydd rhwng partïon gwleidyddol.

·                 Diolchodd i'r Pwyllgor am y gwaith parhaus roedd wedi ei wneud i godi safonau, fodd bynnag awgrymodd y dylai'r pwyllgor ystyried cynyddu ei broffil er mwyn i fwy o staff ddeall cynnwys ei waith.

·                 Roedd wedi sôn am ei wahoddiad i gymryd rhan yn y pwyllgor i drafod perthnasoedd ac ymagweddau rhwng swyddogion ac aelodau o'r cyngor yn ei 'flog' wythnosol. Nododd efallai y byddai Uwch-swyddogion yn fwy ymwybodol o'u gwaith na swyddogion iau - efallai roedd angen gwella cyfathrebiad mewnol.

·                 Cytunodd ei fod hefyd yn chwarae rôl wrth hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arwain trwy esiampl.

·                 Teimlodd fod etheg tîm lle'r oedd swyddogion a chynghorwyr yn ymroddedig i wneud eu gorau dros ddinasyddion Abertawe.

·                 Cytunodd fod bob amser cyfle i wella hyfforddiant staff ac efallai gellid cynnwys cyfeiriad at y Pwyllgor Safonau. Soniodd hefyd am y rhaglen arloesedd a oedd wedi dechrau rai blynyddoedd yn ôl a lle'r oedd tîm o staff wedi datblygu amrywiaeth o weithgareddau gyda'r nod o atal bwlio yn y gweithle (gan staff a'r cyhoedd). Datblygwyd "dangos y golau coch i fwlio" a sefydlwyd cynllun "cyfeillion bwlio" hefyd, ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau eraill. Fodd bynnag, roedd yn ymwybodol bod morâl staff yn gallu dioddef o ganlyniad i galedi. Roedd rhai staff yn gweithio mor galed â phosib mewn rhai meysydd ac yn cael anhawster cyflawni swyddi o ddydd i ddydd. Byddai angen iddo fonitro'r sefyllfa.

·                 Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor Safonau hyrwyddo'i rôl drwy gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a oedd yn amlinellu'r gwaith a wnaed gan y pwyllgor yn ystod blwyddyn ddinesig.

·                 Er ei fod yn hapus bod nifer y cwynion Côd Ymddygiad yn erbyn Cynghorwyr Abertawe a nifer y dadleuon cynghorwyr yn erbyn cynghorwyr wedi lleihau, nid oedd yn fodlon ac roedd am barhau i sicrhau bod safonau'n parhau i fod yn uchel.

·                 Dywedodd fod y digwyddiad marchnad a gynhaliwyd yn ystod Etholiadau Llywodraeth Leol 2017 wedi cael ei dderbyn yn dda gan Gynghorwyr a'i fod wedi derbyn ceisiadau gan y rheiny nad oeddent yn gallu cymryd rhan yn gofyn iddo gynnal ail ddigwyddiad.

·                 Roedd system gyfeillion ar waith i gynghorwyr newydd eu hethol, ond roedd yn cael ei threfnu o fewn y grwpiau gwleidyddol - roedd gallu i ddatblygu hyn ymhellach yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf.

·                 Gallai safonau effeithio ar enw da sefydliad, yn enwedig recriwtio, felly roedd yn bwysig bod y diwylliant yn iawn. Roedd yn cydnabod bod sefydliad gwleidyddol mawr yn helpu gyda'r broses hon.

·                 Mae hyfforddiant Côd Ymddygiad yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant sefydlu ar gyfer Cynghorwyr newydd a Chynghorwyr blaenorol, a darperir hyfforddiant gloywi o bryd i'w gilydd. Efallai gellid cynnwys rhai o achosion Y Llyfr Achosion Côd Ymddygiad yn yr hyfforddiant.

·                 Dylai'r Pwyllgor Safonau barhau i fonitro achosion yn ogystal â Llyfr Achosion Côd Ymddygiad yr OGCC a pharhau i gynnal cyfarfodydd blynyddol ag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, Cadeiryddion a'r Prif Weithredwr. Yn ychwanegol, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd yn rhoi enghreifftiau o "arfer da".

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Roberts am ei bresenoldeb.

15.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau - Cyhoeddus Cymru 2017-2018. pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro y diweddaraf i'r Pwyllgor Safonau am Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2017-2018, a oedd wedi'i amlinellu yn Atodiad A.

 

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn esbonio perfformiad ar gyfer y flwyddyn gan gynnwys cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â chwynion côd ymddygiad.

 

Amlinellodd y Swyddog Monitro'r ystadegau ar dudalennau 34-36 y pecyn agenda'n benodol, oherwydd dyma’r rhai mwyaf perthnasol i'r pwyllgor.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

16.

Llyfr Achosion y Côd Ymddygiad. pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am Lyfr Achosion Côd Ymddygiad diweddaraf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Roedd y rhifyn ddiweddaraf, sef rhifyn 17 Gorffennaf 2018, yn cynnwys y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2018 ac fe'i hatodwyd yn Atodlen A.

 

Cafwyd trafodaeth gyffredinol mewn perthynas â chofnodion 16 ac 17, gan drafod a oedd rôl i'r Pwyllgor Safonau o ran gallu helpu mewn achosion lle'r oedd Cynghorwyr wedi torri'r Côd Ymddygiad ond nid oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am weithredu ymhellach. Gallai hyn fod yn offeryn dysgu er mwyn helpu gyda'r broses gwynion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

2)              Dosbarthu'r adroddiad i'r holl gynghorwyr

3)              Byddai'r Swyddog Monitro'n ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofyn sut gallai'r Pwyllgor Safonau ehangu ei rôl i helpu gyda'r broses gwynion.

 

17.

Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor am y penderfyniadau a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod cynghorwyr awdurdodau lleol wedi torri'r Côd Ymddygiad.

 

Nodwyd ers i'r pecyn agenda gael ei gyhoedd, derbyniwyd hysbysiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na fyddai'n ymchwilio i achos rhif 201804579 a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.