Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

29.

Cofnodion. pdf eicon PDF 112 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

 

Materion a godwyd:

 

Eitem 27 - Cynllun gwaith 2017 - 2018

 

Hysbysodd y Swyddog Monitro'r pwyllgor ei fod wedi ysgrifennu'n ffurfiol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) yn ei wahodd i gyfarfod o’r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol. Maes o law, byddai'n diweddaru'r pwyllgor ynglŷn â'i ymateb. Cadarnhaodd hefyd y byddai PSOW yn mynd i'r gynhadledd safonau ym mis Medi.

30.

Cyfarfod blynyddol ag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, cadeiryddion pwyllgorau a'r Prif Weithredwr.

09.45 am - Councillor Lyndon Jones

10.15 am - Councillor Chris Holley

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau yn gwahodd arweinydd pob grŵp gwleidyddol, y Prif Weithredwr a chadeiryddion dethol i'r pwyllgor yn flynyddol er mwyn trafod eu dealltwriaeth o waith y pwyllgor a'u barn amdano.

 

Oherwydd etholiadau llywodraeth leol 2017 a dyfodiad cynghorwyr newydd, gohiriwyd y gwahoddiadau er mwyn caniatáu i'r cynghorwyr ymgartrefu yn eu rolau newydd.

 

Y themâu ar gyfer trafodaeth, a chafwyd eu hanfon cyn y cyfarfod, oedd:

 

1)       A ydych chi'n ystyried ei fod yn addas i gael Côd Ymddygiad yng Nghymru sy'n gymwys i bob cynghorydd ac aelod cyfetholedig?

 

2)       Beth yn eich tyb chi yw rôl y Pwyllgor Safonau?

 

3)       A oes unrhyw waith, yn eich barn chi, y dylai'r Pwyllgor Safonau fod yn ei gyflawni dros y flwyddyn nesaf?

 

4)       Sut gall arweinwyr grwpiau gwleidyddol/cadeiryddion pwyllgorau hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arweinyddiaeth?

 

5)       Sut gall y Pwyllgor Safonau fod yn fwy gweithredol wrth hyrwyddo ymddygiad moesegol ymhlith cynghorwyr/aelodau cyfetholedig?

 

6)       Mae'r Ombwdsmon, Panel Dyfarnu Cymru a'r Uchel Lys wedi penderfynu bod gwleidyddion (ac mewn rhai achosion uwch-swyddogion) yn groendew a bod direidi gwleidyddol yn rhan o'r byd gwleidyddol. Beth yw eich barn ar hyn a sut byddech chi, fel arweinydd grŵp gwleidyddol, yn sicrhau nad yw'r llinell yn cael ei chroesi?

 

7)       Beth yw eich barn ar hyfforddiant côd ymddygiad yr awdurdod? Sut gellir ei wella er mwyn codi safonau moesegol cynghorwyr/aelodau cyfetholedig?

 

8)       Mae hyfforddi cynghorwyr/aelodau cyfetholedig yn hollbwysig. Sut gall y Pwyllgor Safonau fynd i'r afael â'r rhai nad ydynt yn ystyried bod hyfforddiant yn bwysig?

 

 

 

9)       Nid yw Proses Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP) yr Awdurdod (Cynghorydd yn erbyn Cynghorydd) wedi'i defnyddio eto. Pe bai anghydfod, a fyddech yn annog eich plaid i ddefnyddio'r broses? A ydych yn ystyried bod prinder y gyfeiriadau i'r IDRP yn dangos bod y cynghorwyr yn cydymffurfio â'r côd?

 

10)      Beth fydd rôl y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol?

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Lyndon Jones, Arweinydd y Grŵp Ceidwadol, i'r cyfarfod. Amlinellodd y Cynghorydd Jones y canlynol:

 

-                  Cytunodd ei fod yn dal i fod yn briodol i gael Côd Ymddygiad yng Nghymru. Er mwyn cefnogi'r côd, mae'r Grŵp Ceidwadol hefyd wedi mabwysiadu "Addewid Abertawe" ar safonau. Roeddent yn teimlo bod hyn yn anfon neges gadarnhaol o'u hymrwymiad i gynnal safonau uchel.

-                  Ei ddealltwriaeth ef o rôl y Pwyllgor Safonau oedd sicrhau bod safonau'r cynghorwyr yn cael eu cynnal ac y byddai’r pwyllgor yn ymchwilio i unrhyw doriadau y cyfeirir atynt. 

-                  Cyfrifoldeb y cynghorwyr unigol a'r arweinyddion grŵp yw sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal.

-                  Nid yw'r Grŵp Ceidwadol wedi dod ar draws unrhyw faterion o ran safonau/côd ymddygiad/llywodraethu gwael. Yn ei brofiad ef, roedd yr holl gynghorwyr a’r staff yn groesawgar ac yn barod eu cymwynas.

-                  Oherwydd yr achosion yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol yn y wasg yn ddiweddar, awgrymodd y dylai hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol gael ei ddarparu.

-                  Dylai arweinwyr grwpiau a chadeiryddion pwyllgorau hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arweinyddiaeth gref.

-                  Roedd hyfforddiant sefydlu'n allweddol a dylai bob math o hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant gloywi, gael eu hannog yn gryf. Dylid gallu gweld bod cynghorwyr yn cynnal safonau da. Yn ychwanegol at hyn, roedd angen diweddariadau rheolaidd am newidiadau deddfwriaethol.

-                  Roedd arweinwyr grŵp (gan ei gynnwys ef ei hun) yn gyfrifol am annog aelodau o'u grwpiau i fynd i sesiynau hyfforddiant perthnasol. 

-                  Dylai'r Pwyllgor Safonau barhau i ddiweddaru cynghorwyr ar Lyfr Achosion Côd Ymddygiad PSOW a dogfennaeth berthnasol arall er mwyn sicrhau'r safonau gofynnol ar gyfer cynghorwyr.

-                  Cadarnhaodd, er bod angen bod yn groendew ym maes gwleidyddiaeth, fod y mwyafrif o gynghorwyr yn ceisio eu gorau dros eu hetholwyr.  

-                  Roedd trafodaethau gwleidyddol yn iachus ond roedd angen eu cadw o fewn Siambr y Cyngor - mae parch yn allweddol. 

-                  Mae aelodau’r Grŵp Ceidwadol wedi gweithio'n galed iawn yn eu pwyllgorau penodol ac wedi cwrdd ag aelodau'r Cabinet ar ystod eang o faterion. Mae'r system yn gweithio'n dda.

-                  Rhaid canmol y cynghorwyr presennol nad yw'r proses Datrys Anghydfodau Mewnol wedi'i defnyddio eto.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Jones am ei bresenoldeb.

 

Yna croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Chris Holley, Arweinydd Grŵp Gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol a Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau i'r cyfarfod.  Amlinellodd y Cynghorydd Holley y canlynol:

 

-                  Mae’n fwy hanfodol cael Côd Ymddygiad yng Nghymru nawr nag y mae wedi bod ers nifer o flynyddoedd. Mae llywodraeth leol yn newid yn gyflym ac mae cyni yn dod yn fater mwyfwy amlwg. Mae cyllidebau'n cael eu gostwng, mae staff profiadol wedi gadael ac mae gwasanaethau yn cael eu lleihau. O ganlyniad, rhaid i'r awdurdod fod yn agored, yn onest ac yn dryloyw i'r cyhoedd, felly byddai’r côd ymddygiad yn bwysicach byth yn y dyfodol.

-                  Roedd yn teimlo bod rôl y Pwyllgor Safonau wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd ac mae ganddo bellach mwy o swyddogaeth graffu.

-                  Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor Safonau ystyried:

o       Aelodaeth cynrychiolwyr Abertawe yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

o       Cydymffurfiaeth a chysondeb adrodd am wybodaeth ar draws y cyngor.

 

-                  Roedd yn teimlo bod ymddygiad cynghorwyr wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf gyda llai o gwynion yn cael eu cyflwyno i PSOW. Serch hynny, canfyddiad llawer o gynghorwyr oedd nad oedd unrhyw bwrpas adrodd am achosion gan fod PSOW wedi datgan bod angen i gynghorwyr fod yn groendew a bod direidi gwleidyddol yn rhan o'r byd gwleidyddol.

-                  Cytunodd fod angen i gynghorwyr fod yn groendew ond ni ddylai sylwadau fod yn bersonol a byddai'n hapus dweud wrth ei gydweithwyr petai'n teimlo eu bod wedi croesi’r llinell. Cytunodd fod arweinyddiaeth dda a hyfforddiant wedi helpu i wella'r sefyllfa. 

-                  Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor Safonau fynd i gyfarfodydd megis y Cyngor, Cynllunio a Chraffu er mwyn arsylwi ar y gwaith sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.

-                  Eglurodd fod hefyd gan ei grŵp ef system 'gyfeillio' yn hytrach na rhaglen fentora swyddogol ar waith.

-                  Cytunodd fod yr hyfforddiant Côd Ymddygiad yn gynhwysfawr. Awgrymodd y gellid gwella’r canlynol:

o       Y ffurflen rhoddion a lletygarwch ar-lein 

o       Arweiniad ar yr hyn y dylid ei ddatgan ar y ffurflen rhoddion a lletygarwch

o       Eglurhad pellach ar ddatganiadau o gysylltiadau yng nghyfarfodydd gan fod cynghorwyr yn datgelu cysylltiadau diangen yn rheolaidd.

-                  Nododd fod rôl cynghorwyr wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd a bellach mae cynghorwyr unigol yn fwyfwy cyfrifol am eu wardiau. Bellach maent yn gyfrifol am eu cyllideb eu hunain ar gyfer gwella'r gymuned a gellir ei defnyddio ar gyfer amryw welliannau ar draws eu wardiau. 

-                  Er ei fod yn cytuno bod hyfforddiant yn hanfodol i unrhyw gynghorydd, roedd wedi profi amharodrwydd gan rai aelodau yn y gorffennol o ran derbyn hyfforddiant roeddent yn teimlo nad oedd eu hangen arnynt neu eu bod wedi’i dderbyn yn flaenorol. Roedd hyn wedi bod yn anodd ei rheoli.

-                  Roedd yn teimlo y dylai'r Pwyllgor Safonau barhau i fonitro safonau'r cynghorwyr ond hefyd y dylid mynd i gyfarfodydd er mwyn deall sut mae'r cyngor yn gweithredu a’r tyndra sydd ar waith ynddo.

 

Diolchodd y Cadeirydd y Cynghorydd Holley am fod yn bresennol.

31.

Llyfr Achosion y Côd Ymddygiad. pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' i ddiweddaru'r Pwyllgor Safonau ar Lyfr Achosion Côd Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Roedd y Llyfr Achosion yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2017 - Rhifyn 15 Ionawr 2018.

 

Roedd un o'r achosion yn cynnwys toriad honedig o'r côd ymddygiad wrth ddefnyddio trafodaeth grŵp ar Facebook Messenger. Nododd y swyddog monitro y byddai'n debygol y cynhelir gweithdy yn y gynhadledd safonau ynglŷn â'r cyfryngau cymdeithasol. Caiff y manylion eu darparu i'r holl gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar ôl y digwyddiad. Darparwyd hyfforddiant ar gyfryngau cymdeithasol i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig yn flaenorol, serch hynny roedd cynnal sesiynau ychwanegol dan ystyriaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

2)              Darparu'r Llyfr Achosion Côd Ymddygiad i'r holl gynghorwyr er gwybodaeth.